Gweinidog: 'Dim arian i godi cyflogau meddygon iau'

  • Cyhoeddwyd
Eluned Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Eluned Morgan yn bendant "nad yw'r arian yna" i dalu'r hyn mae meddygon iau yn ei hawlio

Mae gweinidog iechyd Cymru'n dweud nad yw'r arian ar gael i gynnig mwy o gyflog i'r meddygon iau fydd yn mynd ar streic 72 awr fis yma.

Bydd y streic yn dechrau am 07:00 ar 15 Ionawr ac yn parhau tan 07:00 ar 18 Ionawr, gyda'r disgwyl bydd dros 3,000 o feddygon yn gweithredu.

Yn ôl cymdeithas feddygol y BMA mae cyflogau meddygon iau wedi gostwng 29.6% mewn termau real ers 2008-2009.

Mae pennaeth y GIG yng Nghymru eisoes wedi rhybuddio y dylai cleifion ddisgwyl cyfnod sylweddol o aflonyddwch.

Gan ychwanegu fod "lot fawr o baratoi" wedi ei wneud ar gyfer y streic meddygon iau, a'i bod wedi cynnal trafodaethau gyda'r BMA, roedd cydnabyddiaeth gan y gweinidog iechyd y byddai'r streic yn cael "effaith sylweddol" ar y gwasanaeth iechyd.

Ond yn siarad ar Dros Frecwast fore Mercher roedd Eluned Morgan yn bendant "nad yw'r arian yna" i dalu'r hyn mae meddygon iau yn ei hawlio.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i 3,000 o feddygon iau Cymru streicio ganol mis Ionawr

Gan dderbyn hefyd fod y gwasanaeth iechyd "wedi ymdopi, ond ddim ond jyst" dros y gaeaf hyd yma, ychwanegodd Eluned Morgan fod ysbytai "o dan bwysau mawr iawn".

"Es i weld sawl ysbyty ddoe i gael synnwyr o'r pwysau maen nhw o dan, ond y ffaith yw ein bod wedi gweld mwy o bobl na'r oedden ni y llynedd, mae 900 mwy o gleifion wedi eu trosglwyddo i'n hysbytai ni.

"Mae lot o fesurau wedi eu rhoi mewn lle i weld os allwn atal y pwysau, mae 45% o gynnydd o ran oriau sydd wedi'u colli gan y gwasanaeth ambiwlans jyst wrth eistedd tu fas, felly mae pethau wedi gwella ond mae'r pwysau a'r galw mor uchel ag erioed."

'Bwlch anferth chwyddiant'

Roedd BMA Cymru wedi gwrthod cynnig o 5% o gynnydd i gyflogau gan y llywodraeth - ffigwr llai na chwyddiant ac yn is na'r 6% oedd wedi'i awgrymu gan y corff sy'n cynghori'r llywodraeth ar dâl.

Yn ôl BMA Cymru bydd meddyg sy'n dechrau eu gyrfa yng Nghymru, o bosib yn ennill cyn lleied â £13.65 yr awr.

Dydd Mawrth dywedodd pennaeth y GIG yng Nghymru, Judith Paget, y byddai unrhyw lawdriniaethau nad ydynt yn rai brys yn cael eu canslo dros gyfnod y streic.

Disgrifiad o’r llun,

Mae prif weithredwr GIG Cymru, Judith Paget, eisoes wedi rhybuddio am effaith y streic

Ategu ei sylwadau wnaeth y gweinidog iechyd fore Mercher, gan danlinellu'r sefyllfa ariannol.

"Bydd llai o operations yn cael eu cario mas yn ystod y cyfnod yna, fydd meddygon arbenigol ac ymgynghorol yn cymryd lle rhai o'r junior doctors.

"Mae'r arian ychwanegol y'n ni wedi cael jyst yn llenwi'r bwlch anferth oedd wedi ei greu gan chwyddiant, ac felly does dim arian ychwanegol o ran hynny.

"Y ffaith yw does dim arian ychwanegol ac mae'n rhaid i'r gwasanaeth iechyd dynhau o ran faint a sut mae'n gwario oherwydd mae effaith chwyddiant yn aruthrol.

"O ran ffeindio 5% i junior doctors ac eraill, a doedd dim 5% ychwanegol o San Steffan, y'n ni wedi gorfod ffeindio 11% y ychwanegol i wario ar foddion, does dim arian ychwanegol ar gyfer hynny, felly mae'n rhaid i'r arian yna ddod o rhywle arall."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Flwyddyn Newydd yw'r amser prysuraf o'r flwyddyn i'r GIG fel arfer, yn enwedig mewn adrannau brys

Ychwanegodd: "Ni'n deall pam fod nhw'n gweithredu ond y drafferth i ni yw yr unig le allwn gymryd yr arian yna oddi wrth yw'r GIG ei hun, ac mae 65% o wariant y GIG yn mynd ar gyflogau - s'dim lot ar ôl ar ôl talu hwnna.

"Mae mwy o ddoctoriaid a nyrsys nag erioed."

'Galw mawr iawn'

Ond mae Judith Paget yn disgwyl i'r pwysau gynyddu dros yr wythnosau i ddod.

"Rwy'n amau ​​​​y byddwn yn gweld cynnydd mewn achosion Covid y mis hwn - mae'r data modelu yn awgrymu y bydd hynny'n digwydd yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf," meddai.

"A dydw i ddim yn credu ein bod ni wedi cyrraedd uchafbwynt y ffliw eto, ac mae'n debyg y byddwn ni'n ei weld yn ystod y saith diwrnod nesaf.

"Yna, wrth gwrs, fe fyddwn ni'n symud i mewn i streic y meddygon iau yr wythnos ar ôl hynny, felly mae'r tair wythnos nesaf i'r GIG yn dal i fod yn gyfnod o alw mawr iawn."