Cyn-aelod Bwncath yn gwadu cyfathrebu'n rhywiol â phlentyn
- Cyhoeddwyd

Alun Jones Williams yn cyrraedd Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth, 2 Ionawr
Mae cyn-aelod o fand Bwncath wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiad o gyfathrebu'n rhywiol â phlentyn.
Fe ymddangosodd Alun Jones Williams, 26, o ardal Y Ffôr ger Pwllheli, mewn gwrandawiad byr yn Llys y Goron Caernarfon fore Mawrth.
Mae wedi ei gyhuddo o gyfathrebu'n rhywiol gyda phlentyn o dan 16 oed rhwng 1 Ebrill 2023 a 20 Tachwedd 2023.
Plediodd yn ddieuog i'r cyhuddiad yn ei erbyn ac mae disgwyl i'r achos llys yn ei erbyn ddechrau ar 3 Gorffennaf.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth amodol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2023