'Rhaid gwerthu mudiad ffermwyr ifanc i bobl tu hwnt i amaeth'
- Cyhoeddwyd
Mae'n rhaid i glybiau ffermwyr ifanc Cymru wneud mwy i werthu'r mudiad i bobl y tu allan i'r byd amaeth.
Dyna farn y cadeirydd cenedlaethol presennol, Rhys Richards o glwb Bodedern ar Ynys Môn, a gafodd ei ethol i'r swydd ym mis Medi 2023.
"'Da ni'n dda iawn am werthu'n hunain i bobl o fewn y mudiad neu sydd â chysylltiadau â'r mudiad - ond tydan ni ddim yn dda iawn am werthu i bobl o'r tu allan," meddai Rhys wrth raglen y Post Prynhawn ar Radio Cymru.
"Yr her fawr ydy dangos i bobl be ydy mudiad y ffermwyr ifanc - be 'da ni'n ei wneud i bobl ifanc yng nghefn gwlad a sut 'da ni yn ei 'neud o."
'Rhaid i ni gnocio ar y drysau cywir'
Mae'n ymfalchïo bod nifer yr aelodau ar hyd a lled Cymru bellach yn uwch na chyn y pandemig.
Mewn cyfnod ariannol heriol, mae'n rhaid gwneud yn siŵr fod gwleidyddion hefyd yn gwybod hynny, meddai.
"Mae'n rhaid i ni gnocio ar y drysau cywir - gwneud yn saff bod y gwleidyddion yn gwybod ein bod ni yma a be ydy pwysigrwydd y mudiad i'r aelodau ac i gymunedau cefn gwlad," ychwanegodd Rhys.
Yn ei waith bob dydd mae Rhys yn beiriannydd efo cwmni Scottish Power ac mae'n briod â Mererid.
Fe wnaethon nhw briodi ar y diwrnod y cafodd Rhys ei ethol yn gadeirydd.
Roedd sylweddoli bod y ddau ddigwyddiad mawr ym mywydau'r ddau ar yr un diwrnod yn dipyn o sioc, meddai Mererid, sy'n wreiddiol o Ddinas Mawddwy yn Sir Feirionnydd.
"Falle y dylian ni fod wedi sylweddoli ymlaen llaw ei bod hi'n mynd i fod yn flwyddyn fawr i Rhys - ond mi oedd hi'n fraint cael y ddau ddigwyddiad ar yr un diwrnod.
"Bechod nad oedd Rhys yn gallu bod yna i gymryd y gadeiryddiaeth ond mi wnaethon ni'n siŵr bod 'na ddigon o ddathlu ar y diwrnod i'w longyfarch o," meddai.
'Sicrhau ffyniant y mudiad'
Gobaith Rhys Richards yn ystod 12 mis ei gadeiryddiaeth ydy ymweld â chynifer o glybiau ar hyd a lled Cymru er mwyn cyfarfod yr aelodau - i wrando ar eu barn a'u syniadau am sut i ddatblygu'r mudiad.
Mae Rhys yn cyfaddef na fyddai wedi breuddwydio bod yn gadeirydd ar y mudiad cenedlaethol pan ymunodd o â chlwb Bodedern yn fachgen ifanc swil a thawel.
"Fy mwriad ydy trio mynd i weld be ydy syniadau gwahanol pob aelod, pob clwb a phob sir ar draws Cymru a'u rhannu hefo clybiau eraill.
"Ella bod 'na un syniad bach fasa'n helpu un aelod neu un clwb gan sicrhau ffyniant y mudiad - a sicrhau bod gynnon ni fudiad cryf dros y blynyddoedd nesaf, ond hefyd bod yr aelodaeth yn parhau i gynyddu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2023