Jeremy Miles: 'Dim tro pedol 20mya os fydda' i'n Brif Weinidog'
- Cyhoeddwyd
Mae Jeremy Miles wedi diystyru tro pedol ar y terfyn cyflymder 20mya dadleuol pe bai'n dod yn brif weinidog nesaf Cymru.
Mae'r ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth Llafur Cymru wedi gwneud addewid i gynnal adolygiad o'r drefn newydd yn syth pe bai'n llwyddo i olynu Mark Drakeford.
Ond wrth lansio'i ymgyrch yn Abertawe ddydd Sadwrn, fe ddywedodd y Gweinidog Addysg mai dim ond y ffordd y mae'r ddeddf yn cael ei gweithredu fyddai'n cael ei adolygu.
Dau sydd yn y ras i fod yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, ac felly yn arweinydd Llywodraeth Cymru - Mr Miles a'r Gweinidog Economi, Vaughan Gething.
"Fydda'i ddim yn symud o'r polisi 20mya os rwy'n cael fy ethol yn arweinydd," dywedodd wrth BBC cymru.
"20mya yw'r polisi cywir."
Fe fyddai adolygiad, meddai, yn rhoi cyfle "i ddeall os oes angen mwy o arweiniad fel bod cynghorau'n gwybod pa gamau gallen nhw gymryd yng nghyd-destun fframwaith genedlaethol".
Mae Mr Miles hefyd wedi dweud ei fod o blaid adolygu'r polisi.
Mae Jeremy Miles wedi bod yn Weinidog Addysg ers 2021. Cyn hynny roedd yn Weinidog Brexit ac yn Gwnsler Cyffredinol.
Mae e wedi cynrychioli Castell-nedd yn y Senedd ers 2016.
Wrth lansio ei ymgyrch fore Sadwrn, dywedodd y bydd yn gwario mwy o arian ar ysgolion ac yn ceisio datrys rhestrau aros y GIG pe bai'n dod yn Brif Weinidog Cymru.
Fe wnaeth cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd fis diwethaf, argymell gostyngiad o 0.8% mewn termau real i adran Mr Miles.
Wrth i amseroedd aros ysbytai gyrraedd lefel uwch nag erioed, mae Mr Miles hefyd yn addo sefydlu "canolfannau orthopedig penodol ar gyfer gosod clun a phen-glin newydd er mwyn lleihau'r nifer sy'n aros am driniaeth".
Cyn y lansiad dywedodd Mr Miles: "Rwy'n sefyll i fod yn arweinydd Llafur Cymru a phrif weinidog gan fod gennyf weledigaeth ar gyfer dyfodol Cymru.
"Fel prif weinidog, fe fyddaf yn buddsoddi mwy mewn addysg, yn darparu cymorth ymarferol i'r GIG er mwyn lleihau rhestrau aros, ehangu tai cydweithredol ac yn cyflwyno prisiau tecach ar gyfer teithio ar fws."
Mae Mr Gething hefyd yn dweud y byddai'n "canolbwyntio ar sicrhau'r canlyniadau gorau bosib i gleifion", gan gefnogi'r "gwaith brys o leihau rhestrau aros" a "helpu pobl i reoli cyflyrau cronig yn well a gwella iechyd meddwl".
Dywed Mr Miles hefyd y bydd yn pwyso am fwy o bwerau i gael eu datganoli i Gymru er mwyn creu "Senedd gryfach".
Yn gynharach yr wythnos hon fe gyhoeddodd gyfres o bethau y byddai'n eu cyflwyno yn ystod ei wythnos gyntaf fel prif weinidog - yn eu plith adolygu ar frys y polisi dadleuol 20mya.
Bydd enw'r ymgeisydd sy'n cael ei ddewis i olynu Mark Drakeford, a ddywedodd ym mis Rhagfyr ei fod yn gadael ei swydd, yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth.
Dadansoddiad Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru, Cemlyn Davies
Dro ar ôl tro mae Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio bod yr esgid yn gwasgu, a ddwywaith o fewn y misoedd diwethaf mae Jeremy Miles ei hun wedi gorfod derbyn toriadau i'w gyllideb fel Gweinidog Addysg.
Dyna pam, er iddo gyhoeddi cyfres o bolisïau heddiw, roedd e hefyd yn ofalus i beidio â goraddo.
Uchelgais tymor hir, er enghraifft, fyddai cynyddu'r cyllid ar gyfer ysgolion - nid rhywbeth i'w gyflawni ar unwaith.
O ran y polisi 20mya, mae safbwyntiau'r ddau ymgeisydd yr un peth.
A phan gyhoeddodd yr ail ymgeisydd - Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething - ei bolisïau iechyd e ddydd Gwener, mynnu y byddai e'n gwneud yr un peth wnaeth Jeremy Miles.
Does ryfedd felly bod rhan fawr o'r drafodaeth ynghylch yr ymgeiswyr yn y ras hon wedi canolbwyntio ar ba mor debyg ydy'r ddau - does dim lle i roi papur sigarét rhyngddyn nhw'n wleidyddol, yn ôl y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan.
Ac efallai taw'r her fwyaf i'r ddau felly dros yr wythnosau nesaf fydd amlygu'r gwahaniaethau rhyngddyn nhw, a gwneud hynny heb fod yn feirniadol o'r llall.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2023