Jeremy Miles yn sefyll i fod yn arweinydd Llafur Cymru

  • Cyhoeddwyd
Jeremy MilesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jeremy Miles wedi ennill cefnogaeth mwyafrif yr aelodau Llafur yn y Senedd

Mae'r gweinidog y Gymraeg ac addysg, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi y bydd yn ymgeisio am arweinyddiaeth Llafur Cymru.

Mae Mr Miles wedi ennill cefnogaeth mwyafrif yr aelodau Llafur yn y Senedd, gydag 16 aelod bellach wedi datgan eu cefnogaeth iddo.

Mewn datganiad ddydd Llun yn cyhoeddi ei fod yn ymgeisydd, dywedodd Mr Miles ei fod yn "benderfynol o adeiladu ar etifeddiaeth" Mark Drakeford.

Cyhoeddodd Mr Drakeford yr wythnos ddiwethaf y bydd yn camu o'r neilltu fel arweinydd Llafur Cymru a Phrif Weinidog Cymru fis Mawrth.

Mr Miles yw'r ail berson i gyhoeddi y bydd yn y ras ar gyfer ei olynu, yn dilyn y gweinidog economi Vaughan Gething yr wythnos ddiwethaf.

Mae gan Mr Gething gefnogaeth naw o aelodau Llafur yn y Senedd.

Nid oes disgwyl i'r un gwleidydd arall gynnig eu henwau ar gyfer y rôl, wedi i Eluned Morgan a Hannah Blythyn ddweud ddydd Gwener na fyddan nhw'n ymgeisio.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth Vaughan Gething yn ail yn y ras arweinyddiaeth ddiwethaf yn 2018

Mae enwebiadau i olynu Mr Drakeford yn cau ddydd Iau, ac mae unrhyw un sy'n gobeithio cynnig eu henwau angen cefnogaeth o leiaf pump AS.

Dywedodd Mr Miles fore Llun: "Os byddaf yn meddwl yn ôl i pan oeddwn yn tyfu i fyny, yn pendroni am fy lle yn y byd fel dyn hoyw ifanc o deulu dosbarth gweithiol ym Mhontarddulais, fyddwn i byth wedi dychmygu un diwrnod y byddwn yn cynnig fy hun i arwain ein plaid a'n cenedl.

"Rwy'n benderfynol o adeiladu ar etifeddiaeth Mark a'i ymrwymiad diamheuol i wasanaeth cyhoeddus.

"Wrth inni edrych ymlaen at y chwarter canrif nesaf ar daith ddatganoli, rhaid inni osod ein golygon ar ddyfodol uchelgeisiol i Gymru, dan arweiniad Llafur Cymru."

Mae cefnogwyr Jeremy Miles yn cynnwys y Cwnsler Cyffredinol Mick Antoniw, y dirprwy weinidog newid hinsawdd Lee Waters, a'r dirprwy weinidog partneriaeth gymdeithasol Hannah Blythyn.

Mae'r rheiny sy'n cefnogi Mr Gething yn cynnwys tri gweinidog - Rebecca Evans, Dawn Bowden a Lynne Neagle.

Dim ond tri AS Llafur sydd eto i gyhoeddi pwy maen nhw'n eu cefnogi.

Does dim disgwyl i Mr Drakeford na'r prif chwip Jane Hutt i gefnogi unrhyw un, a dyw Eluned Morgan ddim wedi mynegi ffafriaeth i'r un ymgeisydd eto.

Pwy ydy Jeremy Miles?

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jeremy Miles ei benodi'n weinidog y Gymraeg ac addysg yn 2021

Cafodd Jeremy Miles, 52, ei eni a'i fagu ym Mhontarddulais, ac aeth i Ysgol Gyfun Ystalyfera cyn mynd i Rydychen i astudio'r gyfraith.

Bu'n gweithio mewn swyddi cyfreithiol a masnachol o fewn sefydliadau cyfryngau gwahanol cyn cael ei ethol i'r Senedd yn 2016 fel aelod dros Gastell-nedd.

Fe ymunodd â'r cabinet flwyddyn yn ddiweddarach fel Cwnsler Cyffredinol, ac aeth ymlaen i fod yn weinidog Brexit.

Mae wedi gwasanaethu fel gweinidog y Gymraeg ac addysg ers mis Mai 2021.

Fe fydd y bleidlais ymysg aelodaeth Llafur Cymru yn agor ar 16 Chwefror ac yn cau ar 14 Mawrth.

Bydd yr arweinydd newydd yn cael ei gyhoeddi ar 16 Mawrth, ac y disgwyl yw y bydd yn cael ei benodi'n brif weinidog heb fawr o wrthwynebiad.

Pynciau cysylltiedig