Camau gorfodi'r terfyn 20mya i ddechrau wythnos yma

  • Cyhoeddwyd
20mya
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y newid i derfynau cyflymder ar ffyrdd cyfyngedig ei gyflwyno ar 17 Medi 2023

Fe fydd y terfyn cyflymder 20mya newydd ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru yn dechrau cael ei orfodi o'r wythnos yma ymlaen.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd y ddeddf a ddaeth i rym ym mis Medi yn cael ei orfodi ym mis Ionawr yn dilyn y "cyfnod ymsefydlu cychwynnol".

Ond mae gweinidogion wedi dweud na fydd pob gyrrwr sy'n torri'r cyfyngiad yn cael eu herlyn i ddechrau, dim ond y troseddwyr mwyaf peryglus.

Mae cyfreithiwr moduro wedi dweud bod diffyg arwyddion 20mya wedi drysu rhai gyrwyr.

Fe fydd camau gorfodaeth yn dechrau o ddydd Llun gyda thimau ymyl y ffordd yn defnyddio offer monitro cyflymdra mewn ardaloedd 20mya. Fe fyddan nhw'n rhoi dewis i yrwyr sy'n cael eu stopio am oryrru - dirwy a phwyntiau neu sesiwn ymgysylltu ymyl y ffordd.

"Yn dilyn cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn 20mya newydd ym Medi 2023, roedd yna gyfnod ymsefydlu cychwynnol i roi amser i bobl addasu i'r newid," dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

Wrth gyflwyno'r newid ar 17 Medi, Cymru oedd gwlad gyntaf y DU i leihau'r terfyn cyflymder o 30mya i 20mya mewn ardaloedd preswyl.

Gobaith y llywodraeth Lafur yw y bydd yna lai o farwolaethau, sŵn a llygredd, ac y bydd yn annog pobl i gerdded neu seiclo.

Pam bod dryswch?

Mae'r newid wedi hollti barn ac mai rhai gyrwyr a'r gwrthbleidiau wedi mynegi ansicrwydd ynghylch gorfodi terfyn o 20mya.

Dywedodd y gweinidog sy'n gyfrifol am drafnidiaeth, Lee Waters, yn Senedd Cymru ym mis Hydref: "Rydym wedi rhoi cyfnod gras ond byddwn ni nawr yn dechrau gorfodi" cyn i rai adroddiadau awgrymu bod y cyfnod gorfodaeth yn dechrau ar 17 Rhagfyr - tri mis wedi i'r newid ddod i rym.

Ond ni ddigwyddodd hynny ac yn ôl corff diogelwch ffordd Cymru - sy'n cynnwys yr heddlu cynghorau a'r llywodraeth - bu dim camau gorfodaeth yn yr ardaloedd 20mya newydd hyd yma, oni bai bod yr heddlu wedi gweld bod hynny'n briodol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 95 o yrwyr wedi cael eu dal yn goryrru mewn ardaloedd 20mya yng nghymru ers mis Medi, ond mewn mannau ble roedd yna derbyn 20mya cyn y newid yn y ddeddf

Trwy oedi gorfodaeth lawn, roedd yna amser i yrwyr ddod i arfer â'r newid ac i dimau priffordd newid arwyddion ffordd, ond fe wnaeth erlyniadau ailddechrau ym mis Tachwedd mewn ardaloedd oedd eisoes â therfyn 20mya cyn mis Medi.

Nawr fe fydd timau'r ymgyrch Gan Bwyll yn dechrau ymgysylltu â gyrwyr ar bwys ffyrdd yn rhai o ardaloedd 20mya Cymru fel rhan o 'Ymgyrch Ugain', ond mae'r llywodraeth yn rhybuddio na fydd y gyrwyr mwyaf peryglus yn gymwys i gael sesiwn ymgysylltu ac fe fyddan nhw'n cael eu herlyn.

Fis diwethaf, fe ddywedodd Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Jeremy Vaughan, wrth BBC Cymru mai'r bwriad yw ymgysylltu gyda'r cyhoedd "ac egluro'r newid yn y gyfraith a chymryd camau gorfodaeth ond pan mae'n angenrheidiol".

Disgrifiad o’r llun,

Prif Gwnstabl Heddlu'r De, Jeremy Vaughan

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru y bydd safleoedd gorfodi yn cael eu cymeradwyo ble mae'r data, gan gynnwys ystadegau cydymffurfio â'r terfyn cyflymder, yn dangos "y bydd yna fudd o safbwynt diogelwch ffordd o ganlyniad gorfodaeth".

Ychwanegodd llefarydd, wrth siarad â phapur y Wrexham Leader: "Ein nod yw sicrhau cydymffurfio â'r terfynau cyflymder er budd diogelwch ffordd, nid er mwyn dal pobl."

'Di pobol ddim yn deall'

Mae diffyg gwybodaeth yn gyffredinol wedi "cymhlethu petha'", ym marn yr ymgynghorydd diogelwch ffordd Tom Jones.

"'Dan ni fel pobol arferol isio petha' wedi 'u esbonio'n reit syml i ni ga'l deall," dywedodd. "A 'dan ni angen digon o hysbys amdano fo [ond] 'dan ni'm 'di ga'l digon o hynny 'chwaith.

"Dim bwys lle ewch chi mae o'n destun siarad ym mhob man. 'Di pobol ddim yn deall... mae rhai yn cyd-fynd ond rhaid i mi dd'eud mae mwy o bobol ddim yn cyd-fynd efo'r holl beth."

Sut mae'r terfyn 20mya yn cael ei orfodi yng Nghymru?

Os rydych yn cael eich stopio am yrru dros 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru, fe allwch chi, mewn egwyddor, wynebu dirwy o o leiaf £100 a chael tri phwynt ar eich trwydded yrru, ond mae'r heddlu'n blaenoriaethu addysg.

Yn ôl Gan Bwyll, os yw'r data'n dangos bod goryrru'n parhau mewn mannau penodol, fe fydd yr awdurdodau'n cynyddu'r camau i'w atal, fel mwy o ymgysylltu ymyl ffordd, mesurau arafu traffig neu ragor o gamerâu cyflymder.

Maen nhw hefyd yn dweud y bydd camerâu cyflymder gosod, mewn mannau ble mae'r risg fwyaf o wrthdrawiad, yn cael eu haddasu i ddangos y terfyn newydd, ac mae Gan Bwyll wedi rhybuddio gyrwyr y bydd yna gamau gorfodaeth os oes tystiolaeth o "gydymffurfiaeth isel".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed heddluoedd Cymru eu bod yn bwriadu siarad gyda'r rhan fwyaf o yrwyr i'w helpu i addasu i'r terfyn newydd

Bydd gyrwyr sy'n cael eu dal ar gamera yn gyrru ar gyflymder o 26mya neu fwy ar hyd un o'r ardaloedd 20mya newydd yn cael eu herlyn. Mae hynny'n golygu bod y trothwy goddefiant yn 10% + 4mya - 10% + 2mya yw'r trothwy yn achos ardaloedd terfyn cyflymder eraill.

Mae'r newid a ddaeth i rym ym mis Medi yn effeithio ar 35% o ffyrdd Cymru ble mae goleuadau stryd, a'r polion ddim mwy nag 200 llath ar wahân - ond mae gyrwyr wedi cael sicrwydd na fyddan nhw'n cael eu cosbi os yw'r arwyddion ffyrdd yn anghywir ac yn dal yn arddangos yr hen derfyn cyflymder.

"Rhaid i'r arwydd terfyn cyflymder fod yn glir neu fe allai'r gyrrwr herio unrhyw gyhuddiad o drosedd," meddai'r cyfreithiwr Jon Wilkins, sy'n arbenigo ar ddeddfwriaeth foduro.

Mae'r heddlu wedi dweud y bydd talu i fynd ar gwrs ymwybyddiaeth cyflymder - ac osgoi pwyntau ar y drwydded - yn opsiwn i yrwyr sy'n cael eu dal yn torri'r terfyn 20mya newydd ond does dim penderfyniad eto pa mor uchel y dylai'r cyflymder fod i'r gyrwyr fod yn gymwys.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r newid wedi bod yn un dadleuol ac mae sawl protest wedi cael eu cynnal i'w wrthwynebu

"Mae hyn yn ychwanegu at y dryswch oherwydd os nad yw'r heddlu'n deall yn llawn beth allen nhw ei wneud, neu ddim, dan amgylchiadau penodol, sut mae modd ei orfodi?" gofynnodd Mr Wilkins.

"Dryswch arall yw os yw achos yn mynd i'r llys. Mae canllawiau llysoedd ynadon Lloegr a Chymru'n awgrymu os ydyn nhw'n cael eu dal yn gyrru 31mya mewn ardal 20mya, y man cychwyn i'r ynadon ystyried yw gwaharddiad rhag gyrru rhwng saith a 28 diwrnod ynghyd â dirwy.

"Felly fe allai gyrrwr dryslyd, sydd wedi gwneud gwir camgymeriad ynghylch y terfyn cyflymder, wynebu gwaharddiad rhwng saith a 28 diwrnod - a dyw'r canllawiau hynny heb newid."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rhaid i arwyddion fod yn glir er mwyn erlyn gyrwyr yn llwyddiannus, medd y cyfreithiwr arbenigol, Jon Wilkins

Mae disgwyl i benaethiaid heddlu gwrdd eto y mis hwn i drafod gorfodi'r terfyn 20mya, ond mae Mr Wilkins, o gwmni Reeds Solicitors yng Nghaerdydd yn teimlo bod angen mynd i'r afael â'r "dryswch sylweddol" ynghylch rhai mannau cyn dechrau erlyn gyrwyr.

"Mae fy nghleientiaid wedi codi cwestiynau ynghylch arwyddion a dryswch a yw ffyrdd arbennig yn rhai 20, 30 neu hyd yn oed 40mya," ychwanegodd.

"Gellir liniaru'r lefel yna o ddryswch gyda chyfnod ymgysylltu hirach - siarad gyda gyrwyr a rhybuddion ffurfiol."

Yn ôl Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, fe fydd mwy o fannau 20mya yn arbed bywydau, a bod lleihau'r pwysau ar y GIG a'r gwasanaethau brys "yn drech" na chost y newid, sef £34m.

Mae'r ddau ymgeisydd i'w olynu fel arweinydd Llafur Cymru o blaid adolygiad yn sgil yr ymateb i'r ddeddf.

Pynciau cysylltiedig