Cwest Christopher Kapessa: 'Panig' pan aeth i afon cyn iddo foddi
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen yn ei arddegau a oedd ger Afon Cynon ar y diwrnod y bu Christopher Kapessa farw wedi disgrifio'r "panig" wrth i bobl sylweddoli nad oedd yn gallu nofio.
Mae'r cwest i farwolaeth Christopher Kapessa, 13, yn cael ei gynnal ym Mhontypridd, bedair blynedd a hanner wedi'i farwolaeth yn Afon Cynon, ger Aberpennar.
Fore Llun dywedodd y bachgen, 17, na ellir ei enwi oherwydd ei oedran, ei fod wedi ymuno â grŵp o ffrindiau wrth yr afon wedi i gynlluniau gael eu gwneud ar y cyfryngau cymdeithasol i gyfarfod yno.
Dywedodd bod "dros 10" o bobl yno pan gyrhaeddodd, gan gynnwys Christopher Kapessa.
Ychwanegodd nad oedd yn gwybod ar y pryd a oedd Christopher yn gallu nofio neu beidio, a na wnaeth ef ei hun neidio i'r afon y diwrnod hwnnw am nad oedd "am fynd mewn i'r dŵr brwnt".
Wrth gael ei holi am yr eiliad y neidiodd Christopher i'r dŵr dywedodd y bachgen: "Doedd pawb ddim yn gwybod a oedd e'n gallu nofio neu beidio.
"Doedd yna ddim panig yn syth. Cyn gynted ag oedd pawb yn gwybod nad oedd yn gallu nofio roedd pobl mewn panig ac yn neidio i'r afon i geisio helpu."
Wrth gael ei holi beth oedd Christopher yn ei wneud yn y dŵr dywedodd ei fod yn "ceisio cadw ei hun uwchben y dŵr ac yn cael trafferth".
Dywedodd y bachgen 17 oed ei fod yna wedi mynd ar ei feic i'r ysbyty agosaf i geisio cael cymorth.
Wrth gael ei holi a oedd unrhyw rwystrau neu ffens yn eu hatal rhag mynd at y bont, dywedodd y bachgen 17 oed "bod y cyfan yn agored".
Ychwanegodd ei bod hi'n ymddangos "nad oedd [y bont] yn cael ei defnyddio" ond bod y dŵr brwnt yn golygu nad oedd modd gweld gwaelod yr afon.
'Gwthiad chwareus'
Clywodd y cwest bod y bachgen 17 oed wedi dweud wrth yr heddlu mewn cyfweliad wedi'r digwyddiad ei fod o bosib wedi clywed bachgen, a honnir iddo wthio Christopher i'r dŵr, yn dweud fel jôc eiliadau cynt: "Na'i dy wthio di mewn."
Wrth gael ei holi pa mor sicr oedd ef o'r hyn glywodd, dywedodd y bachgen 17 oed: "Dwi ddim wir yn cofio", er ei fod wedi gweld "yn glir" y bachgen yn cael ei wthio.
Dywedodd y bargyfreithiwr sy'n cynrychioli'r bachgen yr honnir iddo wthio Christopher i'r dŵr, David Hughes, wrth y llys mai ei gleient oedd un o'r rhai cyntaf i neidio i'r dŵr i geisio helpu.
Wrth holi'r tyst yn ei arddegau, dywedodd Mr Hughes nad oedden nhw'n derbyn bod gwthio wedi digwydd ac awgrymodd fod ei gleient wedi llithro i mewn i Christopher.
Dywedodd y bachgen yn ei arddegau fod hynny'n bosib ond ychwanegodd "fy meddyliau i yw ei fod yn wthiad heb falais ond yn fwy chwareus".
Yn 2022, fe wnaeth barnwyr yr Uchel Lys gefnogi penderfyniad i beidio â dwyn achos yn erbyn bachgen yr honnir iddo achosi marwolaeth Christopher.
Ar ddechrau'r cwest fore Llun bu mam Christopher, Alina Joseph, yn egluro mewn datganiad sut y daeth y teulu i Gymru.
Yn y datganiad dywedodd bod y teulu "wedi cael eu trin yn ofnadwy" ac "wedi'u hynysu'n llwyr" ac ychwanegodd bod ei phlant wedi eu curo tra'n byw yn Hirwaun.
Honnodd Alina Joseph hefyd bod rhywun wedi piso ar ei phlant a'u bod hefyd wedi'u taro gan gerbyd.
Clywodd y llys bod yr heddlu wedi cael gwybod am y digwyddiadau ond nad oedden nhw wedi gweithredu.
Mewn datganiad, disgrifiodd Ms Joseph ei mab fel ei "thrysor" a dywedodd y bydd hi'n "ymladd am gyfiawnder iddo".
Dywedodd nad oedd Christopher yn nofiwr hyderus ond ei fod wedi "cael gwersi sylfaenol".
Clywodd y llys y byddai Christopher wedi bod yn 18 oed ar 6 Ionawr.
Wrth gofio am y diwrnod y bu Christopher farw, dywedodd Alina Joseph bod ei mab wedi mynd i'r ysgol fel arfer ond yn ddiweddarach bod ei merch wedi dweud wrthi "dere gloi" gan bod dim modd dod o hyd i'r bachgen 13 oed.
Dywedodd ei bod ond wedi gweld Christopher yn yr ysbyty ac yna wedi sylweddoli beth ddigwyddodd.
"Ddywedodd neb wrtha'i ei fod wedi marw nes i fi ddod i'r casgliad yna fy hun," meddai.
Mae disgwyl i'r cwest bara hyd at bythefnos.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2022