Christopher Kapessa: Barnwyr yn cefnogi peidio erlyn bachgen
- Cyhoeddwyd
Mae barnwyr yr Uchel Lys wedi cefnogi penderfyniad i beidio â dwyn achos yn erbyn bachgen 14 oed yr honnir iddo ladd llanc arall.
Bu farw Christopher Kapessa, 13, yng Ngorffennaf 2019, yn dilyn digwyddiad ar bont yn ymyl Afon Cynon ger Aberpennar.
Roedd tystiolaeth gan yr heddlu wedi dangos ei fod wedi cael ei wthio i'r afon, ond penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) i beidio erlyn.
Mae penderfyniad y barnwyr ddydd Llun wedi cael ei ddisgrifio yn "ergyd boenus" i'w deulu.
Roedd y CPS wedi dweud nad oedd erlyn y bachgen o fudd i'r cyhoedd, ac roeddynt wedi gwadu bod hiliaeth yn rhan o'u penderfyniad - roedd mam Christopher Kapessa wedi honni'n wahanol.
Yn sgil penderfyniad y CPS i beidio â dwyn achos fe wnaeth Alina Joseph, mam Christopher, gymryd camau cyfreithiol ei hun.
Dywedodd ei bod yn "ceisio cyfiawnder".
Clywodd yr adolygiad barnwrol yn gynharach ym mis Ionawr bod y penderfyniad i beidio erlyn yn "afresymol neu'n ddireswm", yn ôl bargyfreithiwr y teulu, Michael Mansfield QC.
Wrth grynhoi dywedodd y barnwyr bod nifer o ffactorau o blaid erlyn sef bod digwyddiad sydd wedi achosi marwolaeth plentyn yn drosedd o'r math mwyaf difrifol, a phetai oedolyn wedi ei chyflawni fe fyddai erlyn o fudd i'r cyhoedd.
Nodwyd hefyd bod marwolaeth Christopher wedi cael effaith andwyol ar deulu a ffrindiau.
Ond nodwyd bod yn rhaid ystyried mai dim ond 14 oed oedd yr un a oedd yn cael ei amau adeg y digwyddiad.
Doedd yna ddim tystiolaeth bod y digwyddiad wedi ei gynllunio o flaen llaw a doedd y person a oedd yn cael ei amau ddim wedi wynebu cyhuddiad na chael rhybudd o'r blaen.
Dywedodd y barnwyr bod yn rhaid ystyried lles a dyfodol y plentyn cyn erlyn ac y byddai cael euogfarn droseddol wedi effeithio ar addysg a gallu'r plentyn i gael gwaith.
Nodwyd hefyd nad oedd hi'n debygol, o'r dystiolaeth a gafwyd, y byddai'r plentyn yn troseddu eto.
O ystyried hynny dywed y llys bod y rhesymau yn erbyn erlyn yn gryfach na'r rhai o blaid erlyn ac felly bod y penderfyniad gwreiddiol yn un cywir.
'Angen atebion'
Mewn datganiad, dywedodd Ms Joseph bod y dyfarniad yn "cadarnhau bod y system gyfiawnder a'r CPS yn benodol yn rhoi gwerth uwch" ar les y bachgen a honnir i fod yn gyfrifol, nag ar fywyd ei mab.
Ychwanegodd ei bod wedi penderfynu mynd i gyfraith am "bod y gyfraith yn dweud wrtha i bod gen i hawl i driniaeth deg... ac felly rwyf i angen deall beth yn union a ddigwyddodd i'm mab".
"Hyd yma dwi na fy nheulu ddim wedi cael y cyfle.
"Ry'n ni angen atebion ac yn eu haeddu heb oedi."
Nid apêl yn erbyn penderfyniad yw adolygiad barnwrol ond cyfle i adolygu cyfreithlondeb penderfyniad a wneir gan gyrff cyhoeddus.
Mae'r llys yn penderfynu os yw'r penderfyniad wedi cael ei wneud yn gyfreithlon yn hytrach na phennu os yw'r penderfyniad yn gywir neu beidio.
Dywedodd cyfreithiwr Ms Joseph, Daniel Cooper, bod gwrthod yr adolygiad yn "hynod siomedig".
"Ry'n yn ystyried y dyfarniad ac yna byddwn yn penderfynu ar y camau nesaf," meddai.
Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth cefnogwyr yr ymgyrch gynnau canhwyllau y tu allan i'r gwrandawiad i gofio am Christopher a fyddai wedi bod yn 16 y mis hwn.
Wrth ymateb ddydd Llun dywedodd Suresh Grover, cyd-lynydd yr ymgyrch am gyfiawnder fod y penderfyniad yn "ergyd galed".
"Mae'r dyfarniad yn diystyru hawl Christopher i fywyd ac yn rhoi mwy o bwyslais ar ba effaith y byddai erlyn wedi ei gael ar yr un oedd yn cael ei amau petai achos. Sut mae hynny'n gyfiawn ac yn deg?
"Fe fyddwn yn dyblu ein hymdrechion ac yn cefnogi cais Alina am gyfiawnder."
Penderfyniad 'cyfreithlon'
Dywedodd pennaeth adran apeliadau'r CPS, Sarah Boland: "Roedd marwolaeth Christopher yn drasiedi ofnadwy ac rydyn ni'n parhau i feddwl am ei deulu.
"Yn dilyn apêl dan ein cynllun Hawl Dioddefwr i Adolygu fe wnaethom ni gefnogi penderfyniad cynharach nad oedd hi o fudd i'r cyhoedd i erlyn.
"Mae dyfarniad heddiw yn dangos bod y penderfyniad a wnaed gan y CPS yn gyfreithlon."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2020