Cyhuddo Llywodraeth y DU o 'wneud dim' ar argyfwng S4C
- Cyhoeddwyd
Mae Ysgrifennydd Diwylliant y Deyrnas Unedig, Lucy Frazer, wedi'i chyhuddo o wneud dim i fynd i'r afael â'r argyfwng yn S4C.
Mae'r cyhuddiadau o fwlio yn S4C wedi arwain at ansicrwydd ar frig y sianel, a diswyddo'r prif weithredwr a'r prif swyddog cynnwys.
Mae aelodau blaenllaw o'r blaid Lafur wedi mynegi pryder bod "sefyllfa niweidiol" yn parhau "heb ymyrraeth" gan Lywodraeth y DU.
Daw hyn wrth i'r cadeirydd Rhodri Williams roi tystiolaeth i Bwyllgor Dethol Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin ddydd Mercher.
Wrth ymateb dywedodd Lucy Frazer AS ei bod hi'n cymryd yr argyfwng yn S4C yn "ddifrifol iawn".
Ym mis Mai y llynedd fe gafodd cwmni cyfreithiol annibynnol ei benodi i ymchwilio i honiadau o fwlio a "diwylliant o ofn" o fewn S4C.
Cafodd y prif weithredwr, Siân Doyle, ei diswyddo gan awdurdod y sianel ym mis Tachwedd oherwydd "natur a difrifoldeb y dystiolaeth" yn ei herbyn - cyhuddiadau mae hi'n eu gwadu.
Mae ei thad wedi dweud mai S4C a Llywodraeth y DU sydd ar fai am orddos ei ferch ychydig wythnosau'n ddiweddarach, gan ddweud ei bod hi ei hun wedi bod yn destun bwlio "cyson".
Cafodd Llinos Griffin-Williams ei diswyddo o'i rôl fel prif swyddog cynnwys y sianel hefyd wedi honiadau o "gamymddwyn difrifol" mewn bariau yn Ffrainc yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd.
Mae cadeirydd S4C, Rhodri Williams, hefyd wedi ei gyhuddo o ymddwyn yn amhriodol drwy weiddi ar Ms Griffin-Williams. Dywedir ei fod wedi ymddiheuro.
'Pryderon am arweinyddiaeth S4C'
Llywodraeth San Steffan sydd â rheolaeth dros ddarlledu yng Nghymru, ac mae'r cadeirydd yn cael ei benodi gan yr Ysgrifennydd Diwylliant.
Mewn llythyr ar y cyd, dywedodd llefarydd y blaid Lafur ar Gymru, Jo Stevens, a'r llefarydd ar ddiwylliant, Thangam Debbonaire, bod ganddyn nhw "bryderon am lywodraethiant, arweinyddiaeth a diwylliant sefydliadol S4C".
Wrth ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Diwylliant Ceidwadol, Lucy Frazer, dywedon nhw: "Ers ei sefydlu yn 1982, mae S4C wedi bod yn gynrychiolaeth bwysig o gymdeithas, ei phobl a'i hiaith."
Ychwanegwyd fod "ymdrechion diweddar i foderneiddio'r sianel wedi cael eu cysgodi gan gyfres o argyfyngau sy'n awgrymu bod yna broblemau dwfn gydag arweinyddiaeth, rheolaeth a diwylliant y sefydliad, a ddylai fod o bryder gwirioneddol i chi fel y Gweinidog Cabinet cyfrifol".
Dywedodd yr ASau fod "cwestiynau yn parhau" am y broses a arweiniodd at adroddiad annibynnol Capital Law, ac am allu bwrdd S4C "a'r arweinyddiaeth dros dro i gyflawni'r newidiadau sylfaenol sy'n amlwg yn angenrheidiol i drawsnewid y sefydliad a'r amgylchedd gwaith".
"Fodd bynnag, bu tawelwch llwyr gennych chi, a'ch adran wrth i'r saga anffodus hon ddatblygu.
"Rydym yn poeni'n fawr bod hyn yn caniatáu i'r sefyllfa niweidiol barhau heb ymyrraeth."
Gofynnodd y llythyr a fyddai Ms Frazer yn ystyried "ymchwiliad neu adolygiad cyflym".
Wrth ymateb dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant yn Llywodraeth San Steffan, Lucy Frazer, ei bod hi'n cymryd yr argyfwng yn S4C yn "ddifrifol iawn".
Ar Radio Wales fore Mercher dywedodd yr Aelod Seneddol dros Ganol Caerdydd, Jo Stevens AS, fod Lucy Frazer wedi bod yn gwbl dawel wrth i honiadau o ymddygiad amhriodol o fewn S4C gael eu cyhoeddi.
Ond mewn ymateb, dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant ei bod hi'n ymwybodol o drafferthion yn S4C pan gododd yr undeb Bectu y mater llynedd ac ers hynny mae ei swyddogion wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd ag aelodau o dîm gweithredol S4C ac Ysgrifennydd y Bwrdd.
Mae ei swyddogion hefyd wedi bod mewn cysylltiad gydag S4C wrth i Capital Law baratoi a chyhoeddi eu hadroddiad ar honiadau yn ymwneud ag ymddygiad amhriodol staff.
"Rwy'n pryderu am ganfyddiadau'r adroddiad a'r honiadau sydd wedi'u codi ac, fel yr wyf wedi'i wneud yn glir sawl gwaith, rwy'n disgwyl i S4C fynd i'r afael â'r materion a nodwyd fel mater o frys," meddai.
Ychwanegodd nad yw hi wedi cyfarfod â chadeirydd S4C, Rhodri Williams, ond dywedodd fod swyddogion yn siarad ag ef, uwch swyddogion gweithredol ac anweithredol.
Mae Mr Williams yn rhoi tystiolaeth i bwyllgor yn Nhŷ'r Cyffredin fore Mercher.
Yn gynharach dywedodd llefarydd ar ran yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS): "Mater i S4C, sy'n annibynnol o'r llywodraeth, yw cwynion yn ymwneud ag aelodau o staff.
"Nawr bod canlyniadau'r ymchwiliad gan Capital Law wedi'u cyhoeddi, rydym yn disgwyl i S4C fynd i'r afael â'r materion a nodwyd fel mater o frys.
"Mae'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi cadw mewn cysylltiad cyson ag S4C drwy gydol yr ymchwiliad hwn, yn ogystal â rhoi ystyriaeth ofalus a phriodol i'r honiadau a'r pryderon a godwyd.
"Byddwn yn parhau i wneud hynny."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2023