Jeremy Miles na Vaughan Gething am droi cefn ar bolisi 20mya
- Cyhoeddwyd
Ni fydd yr un o'r ymgeiswyr i fod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru yn troi eu cefnau ar gyfraith ddadleuol 20mya Llywodraeth Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Vaughan Gething ddydd Llun ei fod yn addo adolygiad, ond mai adolygiad o sut mae'r terfyn cyflymder yn cael ei weithredu fyddai hynny.
Roedd Jeremy Miles wedi gwneud cyhoeddiad tebyg wrth lansio ei ymgyrch ddydd Sadwrn.
Daw wrth i Mark Drakeford ddweud na fydd camau yn cael eu cymryd yn erbyn pobl sy'n "wirioneddol ddryslyd" am y gyfraith 20mya.
Gorfodi o ddydd Llun
Mae'r terfyn cyflymder 20mya newydd ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru yn dechrau cael ei orfodi o ddydd Llun ymlaen.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd y ddeddf, a ddaeth i rym ym mis Medi, yn dechrau cael ei gorfodi yn dilyn y "cyfnod ymsefydlu cychwynnol".
Dywedodd y gweinidog trafnidiaeth Lee Waters ddydd Llun y bydd pobl yn cael eu herlyn os ydyn nhw'n gyrru dros 26mya mewn mannau 20mya "am y tro".
Ond dywedodd Mark Drakeford, fydd yn gadael fel prif weinidog ym mis Mawrth pan fydd arweinydd newydd wedi'i ethol, mai rôl yr heddlu yw "gwneud yn siŵr fod pobl yn ymwybodol o'r gyfraith" o hyd.
Dywedodd y bydd pobl sy'n gyrru "ymhell dros y terfyn" yn wynebu camau gorfodi, ond nad yw'n credu y bydd y rheiny sydd ddim yn deall os yw rhywle yn 20mya ai peidio yn cael eu herlyn.
"Rwy'n credu, os ydy'r heddlu yn canfod rhywun yn gyrru dros 20mya, a'r rheswm yw eu bod nhw'n wirioneddol ddryslyd am hynny - dydw i ddim yn credu y byddai'r amgylchiadau hynny yn arwain at orfodaeth," meddai Mr Drakeford ddydd Llun.
"Ond fe fyddai'n rhaid iddo fod yn ddryswch go iawn - nid honiad eu bod nhw wedi drysu."
Fe wnaeth Mr Drakeford hefyd gydnabod fod problemau wedi bod gydag arwyddion, ac "a ydy'r arwyddion yn ddigon clir".
Mae'r ddau ymgeisydd i olynu Mr Drakeford - y gweinidog economi Vaughan Gething a gweinidog y Gymraeg ac addysg Jeremy Miles - wedi addo adolygiad o'r gyfraith os ydyn nhw'n fuddugol.
Mae hyn yn rhywbeth roedd Mr Drakeford eisoes wedi addo fyddai'n digwydd yn rheolaidd.
Ond mae Mr Gething a Mr Miles wedi cadarnhau na fyddan nhw'n gwneud tro pedol ar y gyfraith.
Dywedodd Mr Miles ddydd Sadwrn mai "20mya yw'r polisi cywir".
'Rhyfel ar fodurwyr'
Wrth gyflwyno'r gyfraith, dywedodd gweinidogion y byddai gostwng y terfyn cyflymder yn lleihau nifer y marwolaethau, yn arwain at lai o sŵn, ac yn annog mwy o bobl i gerdded neu seiclo.
Mae deiseb yn galw am gefnu ar y gyfraith wedi denu bron i 470,000 o lofnodion - y ddeiseb fwyaf poblogaidd yn hanes y Senedd.
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig eu bod yn cefnogi'r syniad o osod terfyn 20mya tu allan i ysgolion, ysbytai a chartrefi gofal, ond bod cyflwyno'r gyfraith yn y mwyafrif o ardaloedd trefol yn "ryfel ar fodurwyr".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2023