Cwpan FA Lloegr: Gemau oddi cartref i Abertawe a Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Bydd Wrecsam yn chwarae oddi cartref yn Blackburn Rovers tra bod Abertawe yn teithio i Bournemouth ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr.
Bydd Casnewydd yn herio Manchester United gartref yn y bedwaredd rownd os ydyn nhw'n llwyddo i drechu Eastleigh mewn gêm ailchwarae.
1-1 oedd hi rhwng y ddau dîm yn Rodney Parade ddydd Sadwrn, gan olygu y bydd angen gêm arall yn Eastleigh i'w gwahanu, fydd yn cael ei chwarae ar 16 Ionawr.
Sicrhaodd Wrecsam eu lle yn y bedwaredd rownd gyda buddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Amwythig brynhawn Sul.
Roedd Abertawe wedi trechu Morcambe o 2-0 ddydd Sadwrn i sicrhau eu lle nhw yn yr het, tra bo Caerdydd wedi mynd allan yn y drydedd rownd gyda chweir o 4-0 gan Sheffield Wednesday.
Bydd gemau'r bedwaredd rownd yn cael eu chwarae ar benwythnos 27/28 Ionawr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2024