MND: Her tad, 39, i godi arian i elusen Doddie Weir
- Cyhoeddwyd
Ddeunaw mis yn ôl, fe newidiodd bywyd Mark Williams am byth pan ddechreuodd ei gyhyrau frifo ac roedd newid yn y ffordd yr oedd yn siarad.
Cafodd y tad i ddau o blant o Abertyleri ddiagnosis o glefyd Motor Niwron (MND) wedi misoedd o amau.
Erbyn hyn mae'r dyn 39 oed ar daith gorfforol ac emosiynol i godi arian at elusen Doddie Weir, y cyn-chwaraewr rygbi a fu farw yn 2022.
Y mis hwn, fel rhan o ymgyrch Doddie Aid, bydd Mark yn seiclo, gan obeithio ariannu ymchwil meddygol.
'Gwybod nad oedd rhywbeth yn iawn'
Roedd Mark yn gweithio fel therapydd plant i'w gyngor lleol pan sylweddolodd ei fod yn siarad yn wahanol.
"Roedd pobl yn gofyn o hyd a oedd wedi cael diod oherwydd sut oedd e'n siarad," meddai Steph, ei wraig.
"Roedd y meddygon yn meddwl yn gyntaf mai laryngitis adlif asid oedd e a chafodd feddyginiaeth ar gyfer hynny.
"Ond roedd Mark yn gwybod nad oedd rhywbeth yn iawn. Nethon ni rhoi'r bai ar stress."
Dim ond pan welodd ei ffisiotherapydd y sylwodd fod ei atgyrchau (reflexes) wedi newid ac awgrymodd fod Mark yn cael sgan MRI.
Yn ôl Steph roedd y rhestr aros yn chwech i naw mis ar y gwasanaeth iechyd felly penderfynodd y teulu dalu yn breifat am ddiagnosis.
Mae Steph yn disgrifio'r naw mis rhwng y symptomau'n cychwyn a derbyn y diagnosis fel "dyddiau tywyllaf" y teulu.
"Pan gawson ni'r diagnosis o'r diwedd, ysgydwodd Mark law'r ymgynghorwyr a dweud 'diolch' oherwydd ei fod yn gwybod, ac roedd yr aros ar ben."
Ar hyn o bryd does dim ffordd o gael gwared ar y cyflwr sy'n effeithio ar yr ymennydd a'r nerfau.
'Dim amser i fod yn drist'
Fe benderfynodd Steph i adael ei gwaith er mwyn edrych ar ôl Mark, gan ddweud bod gan y teulu "gymaint i edrych 'mlaen ato", gan gynnwys "gwneud cymaint o atgofion ag sy'n bosib".
"Nid oes gennym amser i fod yn drist," meddai Steph, gan ychwanegu fod y cwpl wedi penderfynu canolbwyntio ar godi cymaint o arian â phosib y mis hwn ar gyfer Doddie Aid.
Mae Doddie Aid yn ddigwyddiad ymarfer corff rhithiol lle bydd miloedd o bobl yn cymryd rhan i godi arian tuag at ymchwil i glefyd motor niwron MND.
Dros gyfnod o dair blynedd, mae'r ymgyrch wedi codi mwy na £4m ar gyfer ymchwil, gyda'r nod o ganfod triniaeth.
Dywedodd Rob Boynes, rheolwr tîm Cymru i ymgyrch Doddie Aid, fod Mark yn "ysbrydoliaeth".
"Mae Mark yn ymarfer yn drylwyr ac yn logio hwnna ar y cyfryngau cymdeithasol," meddai Rob.
Yn ôl Rob mae Mark yn "ysbrydoli pobl i wneud yr un peth", yn enwedig pobl eraill gyda'r cyflwr sy'n teimlo'n ynysig.
Fel rhan o'r ymgyrch, mae pobl sy'n gwneud yr ymarfer corff yn gallu gwneud hynny ar ran eu gwlad.
Eleni mae mwy na 1,000 o bobl wedi cofrestru dan faner Cymru.
Dywedodd Steph: "Enw ein tîm ydy Defiance, ac mae gennym ni 355 o aelodau yn ein cynghrair ar hyn o bryd.
"Os oes gennych MND gallwch gymryd rhan drwy wneud unrhyw beth. Gallai hynny fod yn godi braich neu goes, sefyll yn y fan a'r lle."
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Mark wedi gorfod addasu ei hyfforddiant wrth i'w gyflwr ddatblygu.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae Mark wedi derbyn cadair olwyn drydan newydd sydd, meddai, yn helpu gyda'i annibyniaeth.
Mae Mark yn dal i allu pedlo ar ei feic ymarfer o'i gadair olwyn ac mae'n dweud bod ymarfer corff yn dal i wneud iddo deimlo'n "rhydd".
Ei nod nawr, meddai, ydy cymryd y baton ar ran Doddie Weir oedd wedi gwneud "gwaith anhygoel".
"Ni'n teimlo nawr taw ein dyletswydd ni ydy cymryd gwaith Doddie ymlaen."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2021