Cymru ar ei hôl hi gyda chyfraddau goroesi canser - ymchwil
- Cyhoeddwyd
Mae perfformiad Cymru ymysg y gwaethaf o dros 30 o wledydd pan ddaw i gyfraddau goroesi rhai mathau o ganser.
O'r chwe math o ganser mae pobl yn llai tebygol o wella ohonyn nhw, mewn tri ohonyn nhw mae Cymru ymysg y gwaethaf o 33 o wledydd o'r un lefel o gyfoeth.
Mae grŵp ymgyrchu sy'n ceisio gwella cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint, afu, ymennydd, oesoffagaidd, pancreatig a stumog wedi creu tabl goroesi ar gyfer y gwledydd.
Mae'r data'n awgrymu bod Cymru a gweddill gwledydd y DU yn gwneud yn waeth na'r mwyafrif o wledydd eraill o ran cleifion yn goroesi y chwe math yma o ganser.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i wella canlyniadau canser.
Yn ôl yr adroddiad mae Cymru'n:
32ain am ganser y stumog;
31ain am ganser y pancreas a chanser yr ysgyfaint;
21ain am ganser yr afu a chanser yr oesoffagws;
12fed am ganser yr ymennydd.
Y gwledydd sydd â'r gyfradd uchaf o bobl yn byw am bum mlynedd ar ôl diagnosis yw Corea, Gwlad Belg, Awstralia a China.
Gallai 8,000 o fywydau yn y DU gael eu hachub yn flynyddol petai pobl yn goroesi ar raddfa debycach i'r gwledydd yma, yn ôl dadansoddiad o'r data.
Ar hyn o bryd mae oddeutu 15,400 o bobl yn goroesi am bum mlynedd ar ôl diagnosis yn y DU, ond pe bai'r gyfradd yr un peth â'r gwledydd sy'n perfformio orau, gallai'r nifer fod yn 23,775.
Awgrym yr adroddiad yw y gallai oedi mewn diagnosis a mynediad araf at driniaeth fod ar fai, gyda nifer o gleifion ond yn cael diagnosis ar ôl ymweliad brys â'r ysbyty neu wedi cael eu cyfeirio ar frys ar ôl i symptomau waethygu.
Mae dros 90,000 o bobl yn cael diagnosis o un o'r chwe chanser yn y DU bob blwyddyn, ac maen nhw'n gyfrifol am tua 67,000 o farwolaethau bob blwyddyn - tua hanner pob marwolaeth o ganser.
Dywedodd Judi Rhys, prif weithredwr Tenovus a chadeirydd y grŵp ymgyrchu: "Mae pobl sy'n cael diagnosis o un o'r chwe chanser hyn yn dal i fod â disgwyliad oes syndod o fyr.
"Byddai'r gweithredu ry'n ni wedi galw amdano drosodd a throsodd - sgrinio wedi'i dargedu a monitro'r rheiny sydd â'r risg mwyaf - yn cael effaith anferth ar y nifer sy'n goroesi.
"Dylai'r ystadegau diweddaraf yma fod yn atgoffa Llywodraeth Cymru o bwysigrwydd blaenoriaethu a phrysuro rhaglenni goroesi canser."
"Mae nifer o ddatblygiadau cyffrous ar waith - er enghraifft, prawf anadlu syml fyddai'n helpu i ganfod canser pancreatig - felly fe fyddem ni wir yn hoffi gweld mwy o ymchwil i hynny ac i weithredu hynny.
"Gallai rhai o'r profion hynny gael eu defnyddio ar gyfer oesophagus Barrett, sy'n aml yn rhagflaenydd i ganser y llwnc. Mae gennym ni rai dulliau syml, effeithiol allai gael eu defnyddio fyddai'n gallu canfod y canserau hyn ynghynt.
"Dydyn nhw ddim yn cael eu gweithredu ar draws Cymru ar hyn o bryd ac mae hynny'n bryder gwirioneddol i ni."
'Cynlluniau yn eu lle'
Cyhoeddwyd cynllun tair blynedd i wella canser y llynedd gan Rwydwaith Canser Cymru, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer canolfannau diagnosis sydyn.
Dangosodd ystadegau perfformiad diweddaraf y gwasanaeth iechyd bod 56% o gleifion wedi cael eu trin o fewn y 62 diwrnod o ganser yn cael ei amau.
Ychwanegodd Ms Rhys: "Rwy'n credu bod ganddon ni'r cynlluniau yn eu lle. Mae ganddon ni'r uchelgais ond yn anffodus weithiau mae'r cynlluniau yma'n ddim byd ond geiriau ar dudalen a dyna beth ry'n ni wir yn bryderus yn ei gylch.
"Achos gallwch chi gael y cynlluniau a'r strategaethau gorau posibl ond os nad ydych chi'n eu gweithredu nhw ac yn rhoi'r adnoddau tu cefn iddyn nhw yna dy'n ni ddim yn mynd i weld y newid sydd ei angen."
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae canser yn un o chwe blaenoriaeth cynllunio ar gyfer y gwasanaeth iechyd.
"Rydym ni wedi ymrwymo i wella canlyniadau canser.
"Mae Gweithrediaeth GIG Cymru wedi cyflwyno ymyraethau cenedlaethol sy'n benodol dargedu gwella gwasanaeth canser gynaecolegol, wrolegol a chanser gastroberfeddol - y canserau sydd â'r perfformiad mwyaf heriol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2023