Cyn-isbostfeistr wedi talu dros £43,000 i Swyddfa'r Post

  • Cyhoeddwyd
Cled a Susan Jones
Disgrifiad o’r llun,

Fe gadwodd Cled a Susan Jones eu stori yn dawel am flynyddoedd - hyd yn oed oddi wrth eu plant

Mae cyn-isbostfeistr o Wynedd wedi siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf am yr effaith gafodd system ddiffygiol Horizon ar ei fusnes a'i deulu.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Cled Jones, 71, ei fod wedi rhoi dros £43,000 i Swyddfa'r Post i dalu am golledion honedig.

Cafodd cannoedd o is-bostfeistri eu herlyn am ddwyn arian neu gyflwyno cyfrifon ffug yn rhan o sgandal Horizon - sawl un ohonynt o Gymru.

Mae'r sgandal wedi dod yn ôl i lygad y cyhoedd yn ddiweddar, yn rhannol yn sgil poblogrwydd drama deledu ar ITV sy'n olrhain yr hanes.

Mae'r ddrama wedi annog mwy o ddioddefwyr - fel Cled a Susan Jones - i godi llais.

'Savings i gyd wedi mynd i'r Post'

Ar ôl blynyddoedd o weithio oddi cartref fel hyfforddwr gyrru, roedd Cled, sy'n dad i bedwar, yn awyddus i weithio o fewn y gymuned.

Yn 2004 penderfynodd gymryd y fasnachfraint yn swyddfa'r post Bethel ger Caernarfon, ond dywedodd fod ei swydd newydd wedi troi'n hunllef.

Bu'n cadw swyddfa'r post ym Methel am 14 mlynedd, cyn ymddeol yn 2020 - yn rhannol am iddo orfod talu £10,000 y flwyddyn cyn hynny.

"2019 ges i audit, o'n i'n gw'bod bod fi'n champion achos o'n i 'di 'neud yr audit ddydd Mercher cynt, a dyma hi'n troi rownd a d'eud bo' fi £10,000 yn short," meddai Cled.

"A dyma fi'n d'eud ma' hynny'n impossible achos dwi 'di 'neud y balans. Ti £10,000 yn short, medda hi, ac os nad wyt ti'n talu fo fyddi di'n gorfod mynd i'r cwrt.

"So nath Susan redag adra a nôl y pres a rhoi'r £10,000 i mewn a dyma sut nes i gadw'r post adeg hynny.

"Ma' pobl yn meddwl bo' ni 'di gorffan am bo' ni'n hen. Dwi'n gw'bod bo' fi'n hen ond 'swn i still ddigon 'tebol i redag y siop a'r post. Y savings o'n i 'di safio, o' nhw 'di mynd jyst i dalu'r Post yn ôl."

Dywedodd fod y sefyllfa wedi ei gwneud hi'n amhosib yn ariannol i barhau gyda'r busnes.

Disgrifiad o’r llun,

Cled Jones pan oedd yn is-bostfeistr ym Methel

Roedd Cled eisoes wedi cael ei wahardd o'i waith am chwe wythnos yn 2011, a chafodd orchymyn bryd hynny i ad-dalu'r arian yr oedd wedi ei gyhuddo o'i ddwyn.

Dywedodd Mr Jones ei fod wedi talu miloedd o'i gynilion ei hun dros y blynyddoedd i dalu am y diffygion honedig.

"Dros 14 blynedd o'n i efo nhw, ma' total fi wan yn £43,700 dwi 'di talu o bocad fy hun," meddai.

"Ond 'sneb yn gw'bod achos 'da ni 'di cadw fo'i gyd yn ddistaw, tan ma' hwn 'di dod allan ar y teledu.

"Rŵan mae'r plant yn gw'bod - o'n nhw ddim yn gwybod cynt."

Mae'n egluro sut yr oedd wedi codi materion yn ymwneud â phroblemau gyda system Horizon dro ar ôl tro ond na fyddai neb yn gwrando.

Dywedodd nad oedd Swyddfa'r Post "eisiau gwybod fy ochr i".

Disgrifiad o’r llun,

"Clirio'n enw dwi ishio," meddai Cled

Mae Susan Jones, oedd yn helpu ei gŵr i redeg y siop oedd yn sownd i'r post, yn dweud fod "lot o bobl wedi bod yn briliant efo ni".

Ond dywedodd fod eraill wedi troi eu cefnau arnyn nhw: "Dwi wedi cael pobl ar stryd yn rhoi dipyn bach o verbal abuse i fi ond doeddan nhw ddim yn dallt."

Pan gafodd Cled ei wahardd am chwe wythnos 'nôl yn 2011, mae Susan yn dweud fod un person wedi poeri o'i blaen hi a fod hynny wedi torri ei chalon.

Ar y pryd mi fyddai Susan yn ceisio cysuro ei gŵr, ac yn dweud wrtho: "Ti'n gwbod nad wyt ti wedi 'neud dim byd, a dwi'n gw'bod nad ydw i wedi 'neud dim byd.

"Dal dy ben yn uchel. Mae'n rhaid i ni jyst cario 'mlaen."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Susan Jones yn helpu ei gŵr i redeg y siop oedd yn sownd i'r post

Dywedodd Cled ei fod yn talu'r holl bres i wneud yn iawn am y colledion honedig "rhag i neb siarad amdana fi".

"'Swn i ddim wedi talu'r pres 'na yn ôl fy hun," meddai Cled, "faswn i wedi bod i mewn yna [yn y carchar] erbyn hyn.

"Yr un cyflwr â Noel [Thomas] a pawb arall sydd wedi bod de."

Mae'r cwpl yn dweud y buasen nhw dal yn rhedeg y siop a'r post heblaw am y straen ariannol.

"Clirio'n enw dwi ishio," meddai Cled.

"Oce, os dwi'n cael pres fi'n ôl gora'n byd, ond clirio'n enw dwi ishio.

"I bobl y pentra 'ma a pentra o gwmpas fa'ma oedd yn dŵad ata ni i'r swyddfa, dwi isio iddyn nhw weld a d'eud: 'Yli, nath o ddim byd'."