'Taro swyddogion sgandal post yn eu pocedi nid eu carcharu'
- Cyhoeddwyd
Yn ôl un cyn is-bostfeistr o Fôn a gafodd ei garcharu fel rhan o sgandal Swyddfa'r Post, nid carcharu'r rhai sy'n gyfrifol ydy'r ateb ond eu taro yn eu pocedi.
Roedd Noel Thomas ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru bore Llun yn ymateb i'r sylw mae drama ddiweddara ITV ar y sgandal - Mr Bates vs The Post Office - wedi ei gael.
Mewn cyfweliad â'r BBC ddydd Sul dywedodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig bod hi'n bwysig bod dioddefwyr a gafwyd yn euog ar gam o ganlyniad i hyn yn derbyn iawndal.
Yn ôl Rishi Sunak ar raglen Sunday with Laura Kuenssberg, mae pawb wedi dychryn gan yr hyn a welwyd a bod hyn yn "gamweinyddu cyfiawnder difrifol".
"Yn amlwg mae hyn yn rhywbeth a ddigwyddodd flynyddoedd yn ôl, yn y nawdegau, ond mae clywed a gweld hyn eto yn dangos cymaint o gamweinyddu cyfiawnder a fu i bawb sy'n gysylltiedig ac mae'n bwysig eu bod yn cael y cyfiawnder haeddiannol."
Bydd gweinidogion yn San Steffan yn cyfarfod i drafod y sefyllfa ddydd Llun.
Mae un AS Ceidwadol yn y gogledd wedi galw am basio deddfwriaeth i ddileu euogfarnau y cannoedd o bostfeistri a'u cyhuddwyd o ddwyn a chyfrifo ffug yn ystod y sgandal.
Colli £48,000
Cafodd dros 700 o is-bostfeistri eu herlyn am ddwyn arian neu gyflwyno cyfrifon ffug yn rhan o sgandal Horizon gan gynnwys Noel Thomas o Gaerwen, Ynys Môn.
Cafodd ei garcharu am naw mis yn 2006 ar ôl i £48,000 fynd ar goll o'i gyfrifon, ond daeth i'r amlwg yn ddiweddarach bod hyn o ganlyniad i nam ar feddalwedd Swyddfa'r Post.
Dywedodd Mr Thomas ei fod yn falch bod y stori 'nôl yn y penawdau, "ddim o ran fi fy hun, ond o ran fy ffrindiau ar hyd a lled y wlad".
"'Da ni wedi disgwyl i wbath ddigwydd. Gw'bod bo' ni wedi cael ymchwiliad sy'n mynd ymlaen rŵan. Ond oedden ni'n taro'n pen yn erbyn y wal. Y stori ddaeth allan wsos dwytha, wedi deffro'r cyhoedd," meddai.
Ond dywedodd na fyddai'n dymuno gweld swyddogion yn cael eu carcharu am eu rhan yn y sgandal.
"Fyddwn i'n hoffi gweld nhw yn cael eu herlyn, ond dwi 'di anghytuno efo rhai o fy ffrindiau.
"Dwi ddim am eu hanfon i garchar, be 'da chi isio ydy cymryd eu heiddo, mynd â'u pres nhw. Hwnnw, sy'n mynd i frifo.
"Mi allen nhw fynd i garchar a dod allan a'r eiddo dal ganddyn nhw. Diwedd y gân 'di pres."
'Gwneud gwahaniaeth'
Eglurodd bod o'n un o'r rhai ffodus i fod wedi cael taliad interim ond nad ydy'r arian yn lleddfu'r boen.
"Roeddwn i'n 77 diwrnod cyn Dolig a dwi isio gweld y cyfan ar ben. Be' dwi'n gwffio ydy am iawndal i'r teulu, dyna be dwi ar ei ôl."
Dywedodd ei fod wedi ei synnu gydag effaith y ddrama deledu.
"Mae'r stori yma yn mynd yn ôl i 2005 i mi, ond wedi cychwyn yn gynt i eraill a phedwar llywodraeth wedi bod yn gyfrifol am hyn. I gyd gwadu a chuddio tu ôl i confidentiality.
"Dim ond gobeithio bod hyn yn deffro pawb, 'da ni'n byw mewn gobaith."
'Rhwystredig'
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru ddydd Llun fe dywedodd cyn is-bostfeistr arall o'r gogledd ei fod yn "rhwystredig" ei fod wedi "cymryd drama deledu i gael gwleidyddion i gymryd sylw".
Chwaraeodd Alan Bates, a oedd yn gyfrifol am y Swyddfa Bost yng Nghraig-y-Don ger Llandudno rhwng 1998 a 2003, ran flaenllaw gan sefydlu'r grŵp ymgyrchu Justice for Subpostmasters Alliance i gynrychioli'r unigolion a gafodd eu heffeithio.
Dywedodd Mr Bates wrth y BBC: "Mae'n rhwystredig ond dwi'n falch ei fod wedi digwydd ac o leiaf mae'n caniatau iddyn nhw ddeall rwan beth sydd wedi bod yn digwydd.
"Mae'r gwleidyddion wedi bod yn gefnogol ohonon ni dros y blynyddoedd ar draws y pleidiau, y broblem sydd wedi bod ydi ceisio cael y llywodraeth i weithredu.
"Mae 'na lot o symudiad i'w weld yn digwydd yn San Steffan ar hyn o bryd a dwi'n gobeithio clywed yr wythnos hon fod pethau'n symud yn eu blaen rwan.
"Mae pobl eisiau symud ymlaen â'u bywydau, maen nhw eisiau tynnu llinell o dan yr holl beth, wnawn nhw byth anghofio ond maen nhw angen arian i oroesi.
"Arian sy'n ddyledus iddyn nhw ydi hwn.
"Mae'r llywodraeth angen gwneud yn siwr fod yr arian ar gael [i'r postfeistri] mor fuan â phosib."
'Gwell dileu'r holl euogfarnau'
Yn ôl Aelod Seneddol Mr Bates, David Jones AS, mi ddylai San Steffan basio deddfwriaeth i ddileu euogfarnau y cannoedd o bostfeistri a'u cyhuddwyd o ddwyn a chyfrifo ffug yn ystod y sgandal.
Dywedodd yr AS Ceidwadol fod y broses presennol yn cymryd "amser hir ofnadwy" a bod yn rhaid gweithredu i "ddychwelyd eu henw da cyn gynted â phosib".
"Yn hytrach nag adolygiad unigol o bob achos, byddai'n llawer gwell dileu'r holl euogfarnau," meddai.
Ychwanegodd y dylai Fujitsu, y cwmni o Japan a ddyluniodd meddalwedd cyfrifo Horizon, "hefyd wynebu mwy o graffu".
Dywedodd Mr Jones fod Fujitsu wedi bod yn gwneud "yn ofnadwy o dda" ac yn "gwneud biliynau allan o gytundebau sector cyhoeddus".
"A ddylai Fujitsu fod yn cynnig iawndal, neu o leiaf yn cyfrannu ato?", gofynnodd.
"Byddwn yn synnu'n fawr pe na bai'r llywodraeth o leiaf yn meddwl tybed ai nhw yw'r bobl orau i fod yn dyfarnu cytundebau iddynt."
Ychwanegodd yr AS "ei fod yn iawn" i ystyried a ddylai CBE cyn-bennaeth Swyddfa'r Post, Paula Vennels, gael ei ddiddymu.
"O ystyried mai dyma un o sgandalau mwyaf y ganrif hon fe ddylem o leiaf fod yn ystyried a yw'n briodol iddi gadw ei hanrhydedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ionawr
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2021