Mae talu am fynd i'r ysgol yn achosi absenoldeb, medd Estyn

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
disgyblion ysgolFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfraddau absenoldeb yn parhau'n sylweddol uwch na chyn y pandemig

Mae gorfod talu am drafnidiaeth i fynd i'r ysgol yn rheswm cyffredin pam fod disgyblion yn absennol, yn ôl adroddiad gan arolygwyr ysgolion.

Dywedodd penaethiaid ysgolion uwchradd wrth arolygaeth Estyn bod costau trafnidiaeth gyhoeddus yn golygu bod rhai plant ddim yn mynd i'r ysgol.

Mae cyfraddau absenoldeb yn parhau'n sylweddol uwch na chyn y pandemig - yn enwedig ymhlith disgyblion o gefndiroedd mwy difreintiedig.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod grŵp o arbenigwyr yn edrych ar atebion posib i'r broblem gan gynnwys trafnidiaeth fforddiadwy.

Fel arfer, dim ond os yw plentyn ysgol uwchradd yn byw mwy na thair milltir o'r ysgol addas agosaf y maen nhw'n gymwys am drafnidiaeth am ddim.

Yn ôl penaethiaid mae hynny'n golygu bod plant sydd ddim yn gymwys yn wynebu gorfod cerdded yn bell neu dalu am y siwrne ac mae hynny yn aml yn her i deuluoedd incwm isel.

'Yn waeth yn y gaeaf'

Clywodd Estyn bod hyn yn broblem yn enwedig yn y gaeaf ac yn ystod cyfnodau stormus neu lawog gan nad oedd rhieni ddim am i'w plant gerdded yn bell mewn tywydd gwael.

Mae un ysgol yn Abertawe wedi gweithio gyda chwmni bws lleol i gynnig taith £1 bob ffordd i ddisgyblion sydd yn byw o fewn tair milltir ar ôl gweld bod presenoldeb yn gallu bod yn broblem yn ystod tywydd garw neu pan oedd boreau a nosweithiau'n fwy tywyll.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Estyn na allai ysgolion ymateb i broblem presenoldeb ar eu pennau eu hunain a bod angen cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru gan gynnwys "adolygu'r cyfyngiad tair milltir ar gyfer cludiant am ddim".

Fe ostyngodd cyfraddau presenoldeb yn sylweddol ar ôl y pandemig o 93.8% yn 2018-19 i 87.5% yn 2022-23.

Dywedodd Estyn bod y gwahaniaeth rhwng cyfraddau ysgolion - o 75% i 95% - yn bryder arbennig.

Yn ôl y Prif Arolygydd Addysg, Owen Evans, mae lefelau presenoldeb ymhlith plant sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim yn "bryder sylweddol".

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y Prif Arolygydd Addysg, Owen Evans, dyw plant ddim yn dysgu pan nad ydyn nhw yn yr ysgol

Dywedodd Mr Evans "pan nad yw disgyblion yn yr ysgol, nid ydyn nhw'n dysgu ac mae'r data a gofnodwyd yn dangos bod gormod o ddisgyblion yn cael o leiaf un diwrnod i ffwrdd bob pythefnos".

Mae'r data diweddaraf yn dangos gwelliant mewn presenoldeb i'w gymharu â'r un cyfnod y llynedd, medd Llywodraeth Cymru.

"Mae grŵp o arbenigwyr o wahanol sectorau, gan gynnwys o Estyn, yn gweithio gyda'r gweinidog i edrych ar y rhesymau y tu ôl i absenoldeb a dod o hyd i atebion - gan gynnwys ar ddarparu trafnidiaeth fforddiadwy," meddai llefarydd.

"Mae hyn ar ben y pwerau sydd eisoes ar gael i awdurdodau lleol i wneud unrhyw drefniant y maen nhw'n meddwl sy'n addas i hwyluso cludiant o'r cartref i'r ysgol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfnod Covid wedi effeithio ar bresenoldeb plant, medd adroddiad Estyn

Mae adroddiad Estyn yn nodi ffactorau eraill sydd yn cael effaith ar bresenoldeb - yn ôl penaethiaid mae llai o bwyslais gan rieni a gofalwyr ar fynychu'r ysgol yn rheolaidd ers y pandemig.

Mae'r adroddiad yn galw am ymgyrch genedlaethol i hyrwyddo pwysigrwydd presenoldeb.

Mae hefyd yn argymell bod y llywodraeth yn edrych ar sut y gall cynlluniau i newid patrwm y flwyddyn ysgol helpu i gefnogi presenoldeb yn sgil clywed bod gorffen yn hwyr ar gyfer y Nadolig a thymor hir yr hydref "yn aml yn golygu bod disgyblion yn colli mwy o ysgol, yn enwedig yn yr wythnosau ychydig cyn gwyliau'r Nadolig".

Barn y penaethiaid am ddirwyon i rieni oedd eu bod yn gallu gweithio mewn rhai amgylchiadau ond doedden nhw ddim yn arwain at welliannau yn ddigon cyflym pan oedd plant yn absennol yn gyson.

Wrth ymateb i adroddiad Estyn, dywedodd undeb arweinwyr ysgolion NAHT Cymru bod angen "buddsoddiad sylweddol" i fynd i'r afael â'r broblem ac na ddylai ysgolion gael eu gadael i geisio datrys y broblem ar eu pennau eu hunain.