Dal i fyny efo cyplau Priodas Pum Mil
- Cyhoeddwyd
Ers 2016 rydyn ni wedi cael bod yn rhan o briodasau degau o gyplau o amgylch Cymru. Mae’r gyfres boblogaidd sy’n dilyn anturiaethau Trystan Ellis-Morris ac Emma Walford yn ceisio trefnu priodas am £5000 mor boblogaidd ag erioed ac maen nhw ar fin dechrau cyfres arall.
Ond beth yw hanes rhai o gyplau gorffennol Priodas Pum Mil? I nodi Wythnnos Cariad Cymru Fyw, dyma gyfle i ddal i fyny gydag ambell un o gyplau'r cyfresi a fu.
Rhian a Stuart, Tregaron, Nadolig 2021
Rhian, nyrs gofal diwedd oes oedd y briodferch a Stuart, uwch-barafeddyg oedd y priodfab yn rhifyn Nadolig Priodas Pum Mil, 2021. Roedden ni’n dal dan gyfyngiadau Covid-19 bryd hynny ac felly priodas fechan gafodd y pâr o Dregaron. Ond er ei bod hi’n fychan roedd hi’n un gofiadwy!
“Ga’th Stu ambiwlans hen i fynd â fe mewn i’r lleoliad a’r sirens yn mynd hefyd!” meddai Rhian wrth gofio’r diwrnod arbennig.
“Roedd Bronwen Lewis yn canu hefyd, a nes i cael bach yn emotional adeg hynny achos do’n i ddim yn disgwyl iddi fod yno o gwbl.”
Roedd Rhian a Stuart wedi bod yn gwylio perfformiadau byw Bronwen Lewis ar y cyfryngau cymdeithasol drwy gydol y cyfnod clo a dywedodd eu bod nhw wedi eu “cadw nhw i fynd” yn enwedig â’r ddau yn dal i weithio drwy’r pandemig.
Ond beth am y cyfnod ar ôl y briodas? Gawson nhw fis mêl?
“Aethon ni i Lake Vyrnwy, ond ni’n mynd ar ein gwyliau ’leni,” eglurodd Rhian.
Ychwanegodd Stuart: “Doedd gennym ni ddim yr amser i ffwrdd [o’r gwaith] ar y pryd.”
Ers y briodas, meddai Rhian, mae bywyd wedi bod yn brysur iddyn nhw fel teulu yn enwedig i’r plant. Mae Tom, sy’n 15 oed, yn gwneud jiwdo dros Gymru ac mae Olivia, sy’n 12 oed, hefyd yn gwneud jiwdo a gymnasteg:
“Felly mae wedi bod yn fishi achos ni’n mynd â nhw i Gaerdydd [ar gyfer jiwdo] sawl gwaith yr wythnos ac maen nhw dros Loegr hefyd yn cystadlu...”
Os ydych chi’n cofio pennod priodas Rhian a Stuart, mae’n debyg y cofiwch chi y byjis.
“Mae dal 'da ni’r byjis. Maen nhw’n bridio’n dda! Ni wedi ennill mewn nifer dda o sioeau dros y ddwy flynedd hefyd. Felly mae’r rheina’n cadw ni’n fishi hefyd.”
Roedd y diwrnod yn “anhygoel a hudolus” meddai’r ddau ac maen nhw’n dweud o bosib heb y gyfres fydden nhw dal ddim wedi priodi gan eu bod nhw ill dau mor “laid back.”
Ar ddiwedd y sgwrs, roedd y ddau yn unfrydol eu barn am yr holl brofiad. Meddai Rhian: “Os oes chance 'da rhywun fynd ar Priodas Pum Mil yna [iddyn nhw] wneud e! Roedd e’r profiad gorau.”
Mair a Lucy, Pentraeth, 2021
Roedd priodas Mair a Lucy o Ynys Môn yn un gofiadwy iawn gan fod iddi thema Alice in Wonderland.
Wrth edrych yn ôl ar y diwrnod, mae Lucy yn dweud: "Oedd o'n yn amazing o ddiwrnod. 'Nawn ni byth anghofio cerdded lawr yr aisle a gweld Richard Holt yno i'n priodi ni."
Mae'r ddwy yn brysio i ganmol ymdrech a gwaith caled eu teulu a'u ffrindiau i roi diwrnod "sbesial iawn" iddyn nhw.
Dywedodd Lucy: "[Fy hoff atgof i o'r diwrnod] ydi gweld Mair yn diswgl amdanaf i a beichio crio. It's forever burned into my memories!"
Mae Mair wedi dechrau'r broses o gael tattoo sleeve Alice in Wonderland hefyd.
"Oedd o'n ddiwrnod reit surreal. Doeddwn i ddim yn nervous tan actually cyrraedd, ond oedd pawb yn y tîm mor lyfli hefo ni. 'Nathon nhw wneud yn siŵr doedd 'na ddim byd i boeni neu fod yn nervous amdan. Oedd pawb mor ffeind efo ni."
Sut mae bywyd priodasol wedi newid pethau?
"I fod yn really honest," eglura Lucy gan chwerthin "does dim byd llawer wedi newid ers priodi.
"'Da ni'n teimlo fath â bod teulu ni di completio. Hwnna ydi'r thing massive i ni."
Ers y briodas maen nhw wedi cael aelod newydd yn y teulu.
"'Da ni 'di cael ci bach."
Ac mae Penny fach wedi ffitio mewn i'r dim meddan nhw gan ddweud ei bod hi'n fywiog iawn!
Mae Lucy yn dweud ei bod hi a Mair wedi cael diwrnod i ffwrdd o'r gwaith ar 25 Ionawr eleni felly byddan nhw'n gallu dathlu dydd Santes Dwynwen:
"'Dan ni 'di bod reit lwcws blwyddyn yma a 'da ni off am ddiwrnod Santes Dwynwen! Fyddwn yn mynd am dro i Ynys Llanddwyn – predictable I know!
"Ond mi ydan ni’n mynd yno yn aml efo Mair yn dod o Niwbwrch yn wreiddiol. Fydda ni’n mynd â fflasg o banad, cyn mynd yn ôl i reality efo school run a sortio te ac ati."
Mae'n chwerthin gan ychwanegu: "Ella 'na i neud steak dinner i gadw'r wraig yn hapus."
Maen nhw edrych yn ôl ar y diwrnod gyda emosiwn:
"Oeddan ni mor overwhelmed efo be' nath pawb i ni a mor lwcus cael watsiad o nôl pryd bynnag 'dan ni isio.
"I unrhyw berson sydd yn meddwl mynd ar Priodas Pum Mil – go for it! Mae o'n experience once in a lifetime a mi fyswn yn 'neud o eto ac eto."
Emma ac Euron, Caernarfon, 2021
Priodas Baganaidd gafodd Emma ac Euron mewn seremoni lle caiff rhubanau eu clymu o amgylch dwylo'r pâr sy'n priodi.
Mae Emma yn cofio yn annwyl rhai o'i hoff atgofion o'r diwrnod:
"[Dw i'n cofio] cerdded trwy'r coed at Euron, a chofio chwerthin cynt yng nghefn y car yn trio rhoi wellingtons ar! Atgofion hapus a emosiynol iawn."
Cafodd eu priodas ei chynnal yn yr amffitheatr ym mharc Glynllifon dan arweiniad y Derwydd Kristoffer Hughes.
"['Nes i] ddim sylwi yn syth bod Kristoffer Hughes yn sefyll yna'n priodi ni! Mi 'nes i hollol anwybyddu Euron a rhedeg syth at Kristoffer i rhoi hug mawr iddo! Methu coelio'i fod o am ein priodi ni!"
Dywedodd y ddau fod y diwrnod yn un llawn "syrpreisys, hapusrwydd, cariad a chwerthin" gan gynnwys cael Rhys Mwyn fel DJ yn y parti!
Roedd cyffyrddiadau bach wedi gwneud y diwrnod hyd yn oed yn fwy emosiynol fel cynnwys lluniau o aelodau'r teulu maen nhw wedi eu colli yn y blodau.
Ond ers y briodas, oes llawer wedi newid?
Priododd y ddau yn y cyfnod pan oedd y wlad dan gyfyngiadau Covid-19 ac felly aethon nhw ddim ar fis mêl. Ond mae Euron yn prysuro dweud:
"Fi bia hi, a hi bia fi. Dyma be' ydan ni yn teimlo ar ôl priodi. Teimlo ar goll pan rydan ni ar wahân. Tîm ydan ni sy'n wyneb rhywbeth efo'n gilydd."
Ac maen nhw wedi wynebu cyfnodau heriol ers y briodas yn enwedig pan gollodd Euron ei waith. Ond yn sgil hynny mae o wedi ail-gydio mewn peintio. Dywedodd Emma:
"Ddaru o 'neud un i mi Dolig o gastell bach yn Caernarfon. Dwi wrth fy modd efo fo."
Derbyniodd Emma gytundeb blwyddyn yn gweithio fel athrawes feithrin yn Ysgol Maesincla'n ddiweddar. Dywedodd ei bod hi'n "caru gweithio yna – ysgol, plant, a staff arbennig iawn."
Mae ganddyn nhw hefyd aelod bach newydd yn y teulu, ac ydy, mae o'n un fflyffi! Croesawon nhw Llew, sy'n Staffy Cross Lurcher, atyn nhw a Millie.
"Mae Millie, sy'n 14 oedd ym mis Mai, wrth ei bodd efo fo, fel ydan ni."
Ac fel pob un o'r cyplau sydd wedi sgwrsio efo Cymru Fyw i nodi Wythnos Cariad, mae Emma ac Euron hefyd yn siarad am y profiad o fod ar Priodas Pum Mil gyda dim byd ond hapusrwydd.
Gyda help y tîm a'u teulu a ffrindiau roedden nhw "wedi cael diwrnod gwych."