Dim cynllunio 'wyneb yn wyneb' cyn taith angheuol sgowt - cwest

  • Cyhoeddwyd
Ben LeonardFfynhonnell y llun, Llun teulu

Mae un o ddau arweinydd sgowtiaid aeth a grŵp i wersylla yng ngogledd Cymru wedi dweud wrth gwest nad oedd unrhyw gynllunio "wyneb yn wyneb" wedi digwydd ar gyfer y daith.

Bu farw Ben Leonard, 16 oed, ar ôl iddo gael anaf difrifol i'w ben pan ddisgynnodd oddi ar glogwyni'r Gogarth yn Llandudno ar 26 Awst, 2018.

Dywedodd Gareth Williams, 31 oed, a oedd yn arweinydd cynorthwyol i'r Reddish Scouts wrth y cwest ym Manceinion ei fod wedi cael cais i fynychu'r daith gan yr arweinydd, Sean Glaister.

Er iddo gael e-bost gydag amserlen y daith, dywedodd Mr Williams nad oedd wedi cael unrhyw fapiau, asesiadau risg na dogfennau eraill.

Fe ofynnodd bargyfreithiwr y cwest, Sophie Cartwright beth oedd ei ddealltwriaeth o'r hyn yr oedd wedi cytuno i wneud, beth oedd ei rolau a'i gyfrifoldebau.

Fe atebodd gan ddweud ei fod wedi bod yno i helpu gyda chludo pawb, ond mai "pâr arall o ddwylo" yn unig ydoedd, heb unrhyw "rôl" benodol.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ben Leonard yn cerdded ar Y Gogarth pan fu farw ym mis Awst 2018

Y bwriad gwreiddiol ar gyfer y daith oedd cerdded i gopa'r Wyddfa, ond bu'n rhaid newid y cynlluniau oherwydd rhagolygon y tywydd.

O ganlyniad, fe aeth y grŵp ar daith i Landudno yng Nghonwy ac i gerdded ar y Gogarth.

Fe gafodd Ben Leonard a dau o'i ffrindiau eu gwahanu o'r grŵp gan ddilyn llwybr arall, pan lithrodd Ben a syrthio.

Dywedodd Mr Williams wrth reithgor y cwest nad oedd yn credu bod Mr Glaister wedi bod i'r gwersyll yn Eryri ble arhosodd y grŵp, ac nad oedd yn ymwybodol bod rhag-archwiliad o'r ardal honno na'r ardaloedd eraill yr oedd y grŵp fod ymweld wedi digwydd.

Dywedodd Mr Williams, a oedd wedi gadael Cymdeithas y Sgowtiaid yn 2020, nad oedd yn credu fod ganddo hyfforddiant o safon ar adeg y daith, ac nad oedd yn creu bod ei rôl fel arweinydd cynorthwyol wedi cael ei gymeradwyo.

Fe ofynnwyd iddo hefyd am ei ddealltwriaeth o'r term "in loco parentis", sef bod â chyfrifoldeb am blant yn absenoldeb rhieni neu warcheidwaid.

Dywedodd wrth y cwest ei fod yn gwybod beth oedd ystyr y term oherwydd y cwest, ond nad oedd wedi meddwl amdano.

Dywedodd wrth y llys fod Sean Glaister yn "fachgen neis" ac yn "frwdfrydig", a'i fod yn credu mai Mr Glaister oedd yr "arweinydd oedd yn gyfrifol" yn ystod y penwythnos hwnnw, "ei daith ef oedd hon" meddai.

Mae'r cwest yn parhau.