Cwpan FA Lloegr: Casnewydd i groesawu Manchester United

  • Cyhoeddwyd
James Clarke yn dathlu sgorio gyda'i gyd-chwaraewyrFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

James Clarke (sy'n eistedd) yn dathlu sgorio ail gôl Casnewydd nos Fawrth - fe hefyd wnaeth sgorio yn y gêm gyntaf yn erbyn Eastleigh yn Rodney Parade

Fe fydd Casnewydd yn wynebu Manchester United ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr wedi iddyn nhw drechu Eastleigh nos Fawrth.

Bu'n rhaid i'r ddau dîm ailchwarae wedi gêm gyfartal 1-1 yn Rodney Parade.

Fe gafodd yr Alltudion y dechrau gorau bosib pan wibiodd Aaron Wildig heibio golwr Eastleigh cyn taro'r bêl i'r rhwyd dri munud wedi'r gic gyntaf.

Daeth y tîm cartref yn gyfartal dri munud wedi dechrau'r ail hanner, diolch i ergyd bwerus Paul McCallum.

Gydag awr ar y cloc fe aeth yr ymwelwyr ar y blaen unwaith yn rhagor diolch i beniad James Clarke o gic gornel.

A gydag ychydig dros ddeg munud yn weddill fe sgoriodd prif sgoriwr yr Alltudion, Will Evans i'w gwneud hi'n 1-3.

Ond er i Eastleigh wthio am gôl hwyr, doedd yna ddim stori tylwyth teg i fod yn Stadiwm Silverlake i'r tîm sy'n chwarae yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Manchester United ennill o 2-0 yn erbyn Wigan Athletic yn y drydedd rownd

Yn ôl rheolwr Casnewydd, Graham Coughlan, y gêm yn erbyn Manchester United yn y rownd nesaf fydd "y fwyaf yn hanes yr Alltudion".

Mae'r clwb wedi cadarnhau y bydd eisteddle dros dro - fydd yn dal 1000 yn rhagor o gefnogwyr - yn cael ei godi cyn iddyn nhw herio'r cewri o'r Uwch Gynghrair, a'r gobaith yw y bydd yn barod ar gyfer y gêm ddarbi yn erbyn Wrecsam yn Adran Dau ddydd Sadwrn.

Mae gan Gasnewydd hanes o achosi ambell i sioc yng Nghwpan FA Lloegr - mae Leicester City a Middlesbrough wedi colli yn Rodney Parade yn ddiweddar, tra bod Tottenham Hotspur hefyd wedi methu a threchu'r Alltudion.

Mae'r ffaith y bydd y gêm yn erbyn Manchester United yn cael ei dangos ar y teledu yn golygu bod Casnewydd yn debygol o dderbyn tua £400,000.

'Ma fe'n hurt'

Dywedodd Jonathan Richards, sy'n gefnogwyr brwd o Gasnewydd, y gallai'r arian a ddaw o'r ornest yn erbyn United gael effaith hir dymor ar y clwb.

"Ma fe'n hurt i feddwl bod Manchester United i ddod ar ôl i ni gael Manchester City, Tottenham a thimau eraill - un arall i ychwanegu at y rhestr.

"Ni yn yr ail adran, ni ddim fod i chware'r timau hyn!

"Wi'n siŵr y bydd 'na groeso mawr iddyn nhw [Manchester United] - yr holl chwaraewyr 'na sy'n ennill mwy mewn wythnos na faint ma' carfan ni gyd wedi costio bron a bod.

"Mae angen diolch i Graham Coughlan, pan ddaeth sôn bod Huw Jenkins am brynu'r clwb roedd 'na sïon y byddai'n colli ei swydd, ond mae e wedi mynd ati i barhau i weithio a dwi'n meddwl fod hyn yn ffordd dda i ddiolch iddo fe... Ma fe di 'neud gwyrthiau gyda charfan mor fach â chyn lleied o arian."

Ychwanegodd Mr Richards: "Mae hi'n gyfnod hynod gyffrous a bydd yr arian yma yn help mawr yn ystod yr haf wrth i ni gryfhau'r garfan at y tymor nesaf."

Bydd y Red Devils - sydd wedi ennill Cwpan FA Lloegr 12 o weithiau - yn teithio i Rodney Parade ar ddydd Sul 28 Ionawr.