'Mwy o sbwriel fêps untro ar strydoedd Cymru'

FêpFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae angen edrych "ar frys" ar heriau fêps untro, meddai prif weithredwr elusen Cadwch Gymru'n Daclus.

Yn ôl Owen Derbyshire mae yna gynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y fêps untro sydd i'w gweld wedi eu taflu ar strydoedd Cymru.

Wrth siarad ar raglen Bore Sul ar Radio Cymru, dywedodd y byddai'n "croesawu sgwrs ynglŷn â'r posibilrwydd o'u gwahardd".

Yn ddiweddar mae Llywodraeth Cymru wedi galw ar i Lywodraeth y DU eu gwahardd fel rhan o'r camau i fynd i'r afael â'u defnydd ymysg pobl ifanc.

Fêps wedi'u taflu ar 20% o strydoedd

Fe wnaeth Cadwch Gymru'n Daclus ddechrau mesur faint o fêps tafladwy oedd ar strydoedd y wlad yn 2022, gan eu darganfod ar 6% o strydoedd Cymru.

Ond erbyn 2023 mae hynny wedi cynyddu'n sylweddol, yn ôl Owen Derbyshire.

"Maen nhw nawr ar 20% o'n strydoedd ni yn ein dinasoedd ni, a fysech chi'n gallu dadlau bod hwnna'n creu mwy o broblem na 'bytiau' sigarets," meddai.

"Achos mae 'na fatris ynddyn nhw a phlastig caled, sydd really yn creu niwed i'n bywyd gwyllt ni a'r amgylchedd hefyd.

"Felly mae hwnna yn rhywbeth mae'n rhaid mynd i'r afael â fo."

Owen Derbyshire
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Owen Derbyshire mae fêps yn fwy o broblem na stympiau sigarets oherwydd eu bod yn cynnwys batris a phlastig caled

Wrth ystyried y posibilrwydd o waharddiad, dywedodd ei fod yn rhywbeth y byddai'n "croesawu sgwrs amdano".

Dywedodd ei fod yn derbyn bod e-sigarets yn helpu pobl sydd eisiau ceisio rhoi'r gorau i ysmygu, ond gyda'r fêps untro mae'n anodd gweld cyfiawnhad "sydd yn cyd-fynd gyda'n gweledigaeth ni o ran beth ni i ishe Cymru i fod sydd yn galluogi i'r fêps untro 'ma barhau".

"Mae lot o broblemau gwleidyddol a chyfreithiol ynglŷn â sut yn union byddech chi'n gwneud hynna, ond wrth ystyried maint yr her mae'n sicr yn rhywbeth dylen ni edrych arno ar frys."

Llywodraeth Cymru eisiau gwaharddiad

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi galw am wahardd fêps sy'n cael eu defnyddio unwaith a'u taflu, a hynny oherwydd pryder am y defnydd ohonyn nhw ymysg pobl ifanc.

Does gan Lywodraeth Cymru ddim grym i wahardd y fêps, ond mae'n galw ar Lywodraeth y DU i wneud hynny.

Dywed Llywodraeth y DU eu bod wedi dechrau galw am dystiolaeth i geisio canfod ffyrdd o leihau nifer y bobl ifanc sy'n prynu ac yn defnyddio fêps.

FêpsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder hefyd fod lliwiau llachar a blasau amrywiol fêps yn eu gwneud yn ddeniadol i bobl ifanc

Wrth drafod problemau sbwriel yn ehangach, dywedodd Owen Derbyshire nad yw'r sefyllfa bresennol o gael grwpiau cymunedol yn mynd allan i gasglu sbwriel yn wythnosol yn gynaliadwy.

"Mae angen i unigolion newid eu hymddygiad, a hefyd mae'r system sydd gyda ni - ein system bwyd ni, ein system egni ni, ein system gynhyrchu ni - does dim ohono'n gynaliadwy," meddai.

"Felly mi fydd angen i bobl newid eu hymddygiad, ond mae hefyd angen polisïau newydd.

"Mi fydd angen i fusnesau edrych ar y ffordd maen nhw'n gwneud pethau mewn ffyrdd gwahanol hefyd."

Pynciau cysylltiedig