Ail gartrefi: Diffyg tai 'yn newid poblogaeth Ceredigion'
- Cyhoeddwyd
Mae diffyg tai yn newid poblogaeth Ceredigion, yn ôl aelod o gyngor y sir.
"Dau o'r prif bryderon i'n pobl ifanc yw nad oes tai fforddiadwy na swyddi ar gael iddyn nhw", meddai Barry Rees, cyfarwyddwr corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion, wrth ASau.
Dywedodd Mr Rees wrth bwyllgor seneddol ddydd Mercher bod data'n dangos gostyngiad mewn poblogaeth iau yn y sir, a phobl oed gweithio.
Daw wrth i un o'r ardal ddisgrifio'r her o geisio prynu tŷ fel "amhosib".
Roedd Mr Rees yn rhoi tystiolaeth fel rhan o ymchwiliad Pwyllgor Dethol Materion Cymreig i newidiadau poblogaeth yng Nghymru.
Gofynnodd cadeirydd y pwyllgor, Stephen Crabb, "a yw ail gartrefi yn lladd cymunedau yng Ngheredigion?"
Dywedodd Mr Rees fod "rhywfaint o wirionedd" yn hynny, gan ychwanegu bod "nifer gymharol uchel o ail gartrefi - 1,700 ohonyn nhw".
"Mae'n dibynnu, wrth gwrs, ar y lleoliad. Mae Ceinewydd er enghraifft - pentref hardd - yn leoliad gwyliau o ddewis."
Dywedodd Mr Rees: "Mae hefyd yn leoliad lle mae pobl yn chwilio am ail gartrefi.
"Mae 27% o'r holl gartrefi yng Ngheinewydd yn ail gartrefi.
"Dydyn nhw ddim bob amser yn dai fforddiadwy... mae rhai o'r rhain yn eithaf drud ond, yn ôl diffiniad, maen nhw oddi ar y farchnad i'n pobl ifanc."
Prynu tŷ yn 'amhosib'
Un sy'n teimlo'r boen yna ar hyn o bryd yw Geraint Davies, rheolwr y Pentre Arms yn Llangrannog gerllaw.
Mae'n rhentu ar hyn o bryd ac yn awyddus i brynu cartref, ond yn teimlo bod hynny'n "amhosib ar y foment".
"Affordable housing, sdim i gael yma, ddim bo fi'n gallu gweld.
"Ers post-covid mae prisie di mynd yn sky high."
Yng nghanol Ionawr roedd y dafarn yn dawel ddydd Mercher, a theimlad gwahanol iawn i brysurdeb yr haf.
"Ni'n fishi trwy'r haf sy'n dangos, fi'n credu, faint o ail gartrefi sy' yma ar yr arfordir."
Yn ogystal â'r her i'r busnes, dywedodd ei fod yn anodd cadw staff drwy'r gaeaf hefyd "achos mae ishe nhw yn yr haf arno' ni".
Mae Barry Rees hefyd yn credu bod canran uchel o ail gartrefi yn cael "effaith sylweddol" ar ddyfodol y Gymraeg.
"Mae gennym bobl ifanc yn gadael yr ardal a phobl hŷn yn dod i'r ardal... rydym yn cynhyrchu llawer o siaradwyr Cymraeg ond mae'r newid demograffig yn golygu eu bod yn tueddu i symud i ffwrdd."
Nid problem i Gymru wledig yn unig yw'r rhesymau tu ôl y diffyg tai, medd Ifan Glyn o Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr wrth yr ASau.
"Dyw pobl ddim yn gallu fforddio prynu cartrefi, dydyn nhw ddim yn gallu fforddio rhenti, ac mae'r rhestr tai cymdeithasol yn hirach nag y bu erioed.
"Mae 'na brinder yng Nghymru achos does dim digon o gwmnïau adeiladu tai," meddai Ifan Glyn.
"Yn ôl yn yr 80au, roedd tua 40% o dai yn cael eu hadeiladu gan gwmni bach.. dim ond 10 y cant yw'r ffigwr hwnnw bellach.
"O ganlyniad, mae ein tai yn cael eu hadeiladu gan nifer fach o gwmnïau mawr iawn a dim ond mewn rhai ardaloedd yng Nghymru y maen nhw'n cael eu hadeiladu, felly mae bylchau mewn ardaloedd mwy gwledig a'r cymoedd."
Ond y broblem fwyaf, yn ôl Ifan Glyn yw'r broses gynllunio, sy'n "rhy hir, costus ac yn llawn risg".
"Mae angen symleiddio'r broses gynllunio... er mwyn cael rhai o'r cwmnïau adeiladu bach yn ôl i'r farchnad."
Mae Mark Harris, o'r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi, yn cytuno bod y system gynllunio yn un her sy'n wynebu adeiladwyr tai yng Nghymru.
"Mae'r rhan fwyaf o fy aelodau yn adeiladwyr cartrefi preifat cenedlaethol neu fwy, felly mae'r rhan fwyaf o'u tai newydd sy'n cael eu hadeiladu yn ne-ddwyrain Cymru a gogledd Cymru.
"Nid ydyn nhw'n tueddu i adeiladu datblygiadau sylweddol mewn ardaloedd gwledig."
'Prinder tai newydd'
Dywedodd Mr Harris: "Mi fyddai fy aelodau yn hoffi darparu'r tai preifat sydd eu hangen ar Gymru.
"O ran y tai preifat ni'n adeiladu, mae tua 30% yn dai fforddiadwy... Os edrychwch chi ar Gynllun Cenedlaethol 2040 Llywodraeth Cymru, mae hynny'n awgrymu bod Cymru angen 7,400 o gartrefi ychwanegol y flwyddyn ac rydym ar hyn o bryd yn adeiladu tua 5,500 o gartrefi'r flwyddyn."
"Felly mae'n amlwg bod prinder tai newydd yng Nghymru."
Ychwanegodd Ifan Glyn ei fod yn credu bod angen i'r cynllun cenedlaethol fod yn "fwy uchelgeisiol".
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "gweithio'n galed i gynyddu nifer y cartrefi fforddiadwy", gan fuddsoddi "mwy o arian nag erioed er mwyn creu mwy o gartrefi cymdeithasol fforddiadwy i'w rhentu".
Ychwanegodd y llefarydd bod £330m wedi ei roi i gynorthwyo gyda phrynu tai drwy gynllun Cymorth i Brynu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd27 Medi 2022
- Cyhoeddwyd6 Medi 2023