Dyn yn euog o lofruddio menyw 46 oed yn Llangatwg

  • Cyhoeddwyd
Georgina DoweyFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Georgina Dowey yn 46 oed

Mae dyn wedi ei gael yn euog o lofruddiaeth wedi i fenyw gael ei chanfod wedi'i chrogi a'i churo mewn tŷ yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Roedd Matthew Pickering, 49 oed, wedi cyfaddef dynladdiad ond wedi gwadu llofruddio Georgina Dowey, 46 oed, mewn eiddo yn Stryd Beaconsfield, Llangatwg.

Clywodd y llys fod corff Ms Dowey wedi cael ei ganfod ar 7 Mai, 2023, bron ddiwrnod wedi'i marwolaeth, gyda bag du dros ei phen a 32 o anfiadau unigol.

Bydd Pickering yn cael ei ddedfrydu ar 5 Chwefror.

Yn ystod yr achos, clywodd Llys y Goron Abertawe fod Mr Pickering a Ms Dowey mewn perthynas dros gyfnodau, a bod gan y ddau broblemau alcohol a chyffuriau.

Dywedodd yr erlynydd Michael Jones KC fod Ms Dowey wedi dioddef trais domestig mewn perthynas flaenorol.

Roedd ei ffordd o fyw yn gaotig, meddai, gan ei gwneud "hyd yn oed yn fwy bregus".

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Georgina Dowey, 46, ei ddarganfod ar Ffordd Beaconsfield, Llangatwg, ar 7 Mai

Fe welodd y rheithgor luniau o gamera CCTV o siop gyfagos oedd yn dangos Mr Pickering yn gadael y tŷ i brynu nwyddau, gan gynnwys cannydd (bleach), wedi marwolaeth Ms Dowey.

Mewn datganiad dywedodd fod hynny er mwyn glanhau gwaed oddi ar y llawr.

Honnodd Pickering fod y ddau wedi cael ffrae a orffennodd gyda Ms Dowey wedi'i chrogi ar lawr yr ystafell ymolchi.

Cafodd corff Ms Dowey ei ddarganfod wedi i dad Pickering ffonio 999 oherwydd pryder am iechyd meddwl ei fab er nad oedd yn gwybod beth oedd wedi digwydd.

Pan gafodd Pickering ei arestio, fe'i clywyd ar gamera'r heddlu yn dweud ei fod "yn amddiffyn fy hunan", a bod Ms Dowey wedi bod "yn ddim byd ond trafferth".

Wedi'r rheithfarn, dywedodd y Barnwr Paul Thomas KC y dylai Pickering baratoi "am un ddedfryd yn unig, sef carchar am oes".

Mewn datganiad, fe gadarnhaodd yr Arolygydd Dditectif David Butt o Heddlu'r De bod "dyn wedi ei gael yn euog o lofruddiaeth yn dilyn achos yn Llys y Goron Abertawe ar ôl marwolaeth Georgina Dowey, 46 oed, yng Nghastell-nedd y llynedd".

Fe ychwanegodd fod yr "euogfarn hwn yn dangos bod cyfiawnder wedi'i roi am lofruddiaeth Georgina - gan ei phartner ei hun".

Ychwanegodd ei fod yn "cydymdeimlo gyda theulu Georgina" ac yn "diolch i'r gymuned leol a'r llygad-dystion am y gefnogaeth yn ystod yr ymchwiliad".

Pynciau cysylltiedig