Epilepsi: 'Angen mwy o ofal ac ymwybyddiaeth'
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Sir Gaerfyrddin sydd ag epilepsi yn dweud bod "bendant angen mwy" o ofal ac ymwybyddiaeth o'r cyflwr.
Roedd Efa Griffiths o'r Hendy yn 14 oed pan gafodd hi wybod bod ganddi epilepsi, ar ôl iddi "ddechrau anghofio geirie a chael rhyw fath o episodes".
Bydd digwyddiad ym Mae Caerdydd nos Fercher, fydd yn rhoi cyfle i gleifion ac arbenigwyr rannu eu profiadau gydag Aelodau'r Senedd.
Daw wrth i elusen ddweud bod rhai cleifion yn gorfod disgwyl hyd at flwyddyn i weld niwrolegydd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "ymwybodol o rai pryderon a godwyd am wasanaethau epilepsi ledled Cymru", a'u bod wedi cael trafodaethau cychwynnol ynglŷn â gwneud gwelliannau.
'Roeddwn i ar goll'
Roedd Efa'n gwybod bod rhywbeth o'i le pan ddechreuodd deimlo'n wahanol.
"Ro ni'n mynd yn hollol blank, yn colli ymwybyddiaeth o beth oedd yn mynd 'mlan rownd fi a'n hollol anymwybodol fod pobl rownd fi."
Dywedodd ei bod bellach ar feddyginiaeth "a nawr wedi bod yn seizure-free am ddeng mlynedd".
Dywedodd bod ei phrofiad hi o gael ei thrin am y cyflwr wedi bod yn "eitha da ar y cyfan" er nad yw'r nyrs mae'n ei gweld yn flynyddol yn arbenigo'n benodol ar epilepsi.
"Er bod y nyrs fi 'di bod yn siarad gyda dros y ffôn yn wych, dyw e ddim yr un peth ag apwyntiad wyneb yn wyneb."
Aeth ymlaen i ddweud bod galw am "fwy o nyrsys lleol sy'n arbenigo mewn epilepsi yn unig".
A hithau'n 14 oed pan gafodd hi'r diagnosis "doedd dim nyrs arbenigol cyson, felly doeddwn i ddim yn gallu adeiladu perthynas gydag unrhyw un profiadol oedd yn 'neud i fi deimlo bach ar goll".
'Dal i ddisgwyl'
Mae dwy ferch Catrin Jones, o Rostryfan ger Caernarfon, wedi cael diagnosis o epilepsi.
Mae Esmi, sy'n bedair oed, a Nanw, sy'n dair oed, "yn cael ystod eang o wahanol drawiadau" dywedodd Catrin ar Dros Frecwast.
"Ma' nhw'n gallu amrywio o gyfnodau o absenoldeb i drawiadau i lle ma'r corff yn mynd yn stiff ac yn ysgwyd."
"Er bod meddyginiaeth wedi lleihau nifer y trawiadau yn sylweddol, ma' nhw yn parhau i effeithio ar y merched yn gyson. Ma'r ferch ieuengaf yn dal i gael trawiad bob bore.
"Yn anffodus mi gawson ni ddiwrnod ddoe lle bu'r ferch ieuengaf gael chwe trawiad gwahanol yn ystod y diwrnod."
Mae Catrin yn poeni am y gofal sydd ar gael i'w merched: "Heblaw am Epilepsy Action dwi ddim yn siwr lle 'sa ni 'di bod."
"O'ddan ni wedi bod yn ffodus i gael nyrs epilepsi yn y cychwyn, ond yn anffodus ar hyn o bryd da ni'n disgwyl i weld os fydd gynnon ni un arall yn fuan.
"Da ni newydd gael gwybod bod y nyrs gyfredol ddim yn mynd i barhau yn ei swydd felly da ni'n disgwyl i glywed os fydd rhywun arall yn cymryd ei lle hi a pryd fydd hynny."
'Prinder nyrsys sy'n poeni pobl fwyaf'
Bydd anghysondeb yn y gwasanaethau i gleifion sydd ag epilepsi yn cael ei drafod mewn digwyddiad yng Nghaerdydd nos Fercher.
Bydd cleifion ac arbenigwyr o fewn y maes yn rhannu eu profiadau gydag Aelodau'r Senedd yn y digwyddiad sydd wedi ei drefnu gan elusen Epilepsi Action Cymru.
Mae'r elusen yn dweud bod rhai cleifion yn gorfod disgwyl hyd at flwyddyn i weld niwrolegydd.
Dywedodd Jan Paterson ar Dros Frecwast mai "prinder nyrsys sy'n poeni bobl mwya'".
"Dyna pam da ni'n headio lawr i Gaerdydd i campaignio a lobïo i trio cael rhagor o nyrsys.
"Dim ond 11.5% o nyrsys sydd 'na i edrych ar ôl 32,000 o bobl yma yng Nghymru a tydi hynna ddim hanner digon.
"Ma' hynny'n rhoi gormod o bwysau ar y doctoriaid a'r nyrsys sydd yna'n barod.
Mae Cymru Fyw wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.
'Ddim yn ddigon'
Ychwanegodd Ms Paterson: "Ma' gynnon ni'n gwasanaeth cwnsela ni sydd wedi ei ariannu gan y Loteri ond ma hynny ond yn cefnogi pobl ar yr ochr emosiynol ond ma' hynny'n gadael y nyrsys i allu delio efo'r cleifion o ran yr ochr meddygol.
"Ond dydi hynna dal ddim yn ddigon.
"'Da ni dal yn gofyn am fwy o arian i roi fewn i'r gwasanaeth ar gyfer pobl 'efo epilepsi."
Er bod meddyginiaeth yn helpu Efa Griffiths, mae'n dweud bod y cyflwr yn "dal i effeithio arna i yn ddyddiol".
"Mae'n effeithio fy nghof... fi'n gallu cymysgu stwff lan yn rhwydd, gorbryder, wedi bod trwy gyfnodau o fod yn isel hefyd.
"Mae mwyafrif yn meddwl bod epilepsi dim ond yn seizures, ond mae'r cyflwr lot yn fwy 'na just hwnna."
'Ymwybodol o rai pryderon'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ymwybodol o rai pryderon a godwyd am wasanaethau epilepsi ledled Cymru, ac rydym wedi cael trafodaethau cychwynnol gydag Epilepsy Action Cymru a byrddau iechyd ynglŷn â gwneud gwelliannau.
"Bydd hyn yn parhau trwy'r Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol newydd ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol unwaith y bydd wedi'i sefydlu'n ddiweddarach eleni.
"Mae byrddau iechyd unigol yn parhau i fod yn gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau i sicrhau bod gwasanaethau diogel o ansawdd uchel yn cael eu darparu yn unol ag anghenion eu cymunedau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd25 Awst 2021