Diffyg triniaeth epilepsi yng ngorllewin Cymru

  • Cyhoeddwyd
epilepsy monitoringFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae pobl sy'n byw gydag epilepsi yng ngorllewin Cymru yn profi diffyg triniaeth a chefnogaeth leol, yn ôl elusen Epilepsy Action Cymru.

Dywedon nhw fod rhai cleifion yn aros hyd at 18 mis ar gyfer apwyntiad gyda niwrolegydd.

Mae'r elusen nawr wedi dechrau ymgyrch sy'n galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i benodi nyrs arbenigol yn yr ardal er mwyn darparu cyngor gwell.

'Anodd ymdopi'

Mae Elaine Edwards, o Sir Gaerfyrddin, wedi byw gydag epilepsi am 20 mlynedd.

Dywedodd fod y cyflwr wedi gwneud ei bywyd yn anodd, yn enwedig yn y cyfnod cyn iddi dderbyn diagnosis.

"O'n i ddim yn deall beth oedd yn digwydd yn fy nghorff i, beth oedd yn digwydd yn fy mhen i," meddai.

"O'n i'n gweithio llawn amser...ond oedd na chyfnodau wedi 'ny, dyddiau pan oedd e'n amhosib a oedd dim rheswm 'da fi, o' ni ddim yn deall pam.

Ffynhonnell y llun, Elaine Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Nid yw Elaine Edwards wedi gallu derbyn triniaeth leol am ugain mlynedd

"Oedd o'n anodd iawn i fi ymdopi gyda bywyd pob dydd," ychwanegodd.

Yn ôl Elaine, doedd dim triniaeth ar gael yn ei hardal leol ac roedd rhaid iddi hi deithio i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd er mwyn gweld arbenigwr.

"Fel oedolyn o'n i'n dymuno cadw fy annibyniaeth cymaint â phosib ond doedd dim hawl gyrru, oedd rhaid dibynnu ar rywun i fynd â fi i'r Heath," meddai.

"Oedd e'n her ychwanegol."

Mae'n dweud y byddai'r cynnig o gefnogaeth arbenigol yn yr ardal leol yn gwneud gwahaniaeth enfawr.

Disgrifiad o’r llun,

Aberystwyth yw un o'r ardaloedd sy'n dioddef diffyg triniaeth epilepsi.

"Bydd cael hwnna'n lleol yn golygu gallwn i wedi adeiladu perthynas gyda nyrs arbenigol, rhywun oedd yn ymdrin yn ddyddiol gyda phroblemau epilepsi," dywedodd.

"Bydde 'di bod yn wych."

Yn ddiweddar, mae Elaine wedi cael cynnig i weld arbenigwr yn Abertawe, ond dal heb dderbyn unrhyw gefnogaeth yn ei hardal leol.

'Rhywbeth mawr o'i le'

Ar hyn o bryd, mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda dau nyrs epilepsi arbenigol rhan amser.

Mae Epilepsy Action Cymru yn dweud bod angen darparu mwy o nyrsys arbenigol i orllewin Cymru.

Dywedodd Jan Paterson, rheolwr yr elusen yng Nghymru: "Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda ar ei hôl hi hefo'i gwasanaeth nhw.

"Ydyn nhw ddim yn deall bod y bobl sy'n byw gydag epilepsi yn aros hyd at 18 mis i weld niwrolegydd?

"Ma' rhywbeth mawr o'i le yn mynd ymlaen ac mae'r bobl yn dioddef gydag epilepsi yn ei chanol hi a dydy o ddim yn deg o gwbl," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfradd y nifer o nyrsys epilepsi sydd i bob claf yn isel

Yn ôl Epilepsy Action Cymru, mae yna 32,000 o bobl gydag epilepsi yng Nghymru ond dim ond naw nyrs arbenigol sy'n ymdrin ag oedolion.

Mae hyn yn gyfartalog i 3,500 o gleifion i bob nyrs - y gyfradd sy'n cael ei argymell yw 300 o gleifion ar gyfer pob nyrs.

Mae Ms Paterson wedi cysylltu gyda'r bwrdd iechyd, gan bwysleisio'r effaith gall nyrs arbenigol ei chael yn yr ardal.

"Fase'n neud andros o wahaniaeth oherwydd fase'r nyrsys yma'n gallu bod yn y linc rhwng y niwrolegydd a'r cleifion," dywedodd.

"Os oes dim cefnogaeth yno iddyn nhw trwy'r nyrsys, wedyn maen nhw'n dibynnu ar elusennau fel ni i sefyll mewn i roi cymorth iddyn nhw.

"A dydyn ni heb gael ein hyfforddi mewn iechyd," ychwanegodd.

Fe wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wrthod cais BBC Cymru am gyfweliad.

Mewn datganiad, dywedodd Cyfarwyddwr Nyrsio'r bwrdd iechyd, Mandy Rayani: "Mae'r bwrdd iechyd yn cymryd camau i adolygu mynediad at wasanaethau niwrolegol a'r gallu o fewn yr adnoddau nyrsio epilepsi arbenigol i gwrdd ag anghenion y boblogaeth leol.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dweud ei fod yn adolygu adnoddau nyrsio yn gyson

"Gan adnabod yr angen i wella'r adnoddau nyrsio epilepsi sydd ar gael, rydym wedi penodi nyrs epilepsi arbenigol ychwanegol i'n gwasanaethau paediatreg.

"Mae'r bwrdd iechyd wedi ymrwymo i adolygu yn barhaus ac i wella gwasanaethau i'r boblogaeth leol."

Fe wnaeth BBC Cymru hefyd ofyn i'r bwrdd iechyd gadarnhau amseroedd aros ar gyfer cleifion epilepsi, ond ni chafodd y wybodaeth yma ei ddarparu.

'Hanfodol bwysig'

I Elaine, mae hyn yn golygu nad yw pobl yn y gorllewin yn derbyn y gefnogaeth neu driniaeth orau oherwydd lle maen nhw'n byw.

Dywedodd byddai nyrs epilepsi arbenigol ychwanegol yn ei hardal yn medru lleihau'r pwysau ar y system.

"Maen nhw'n hanfodol bwysig, ac wrth 'neud y pethau hyn galle nhw dynnu pwysau bant o'r rhestr aros ar gyfer pawb," dywedodd.

"Mae'r nyrsys yn darparu gwasanaeth arbennig, maen nhw'n rhan o'r tîm niwrolegol, maen nhw'n gweithio ochr yn ochr wrth ganolbwyntio ar epilepsi fel arbenigedd.

"Bydde cael nyrs epilepsi fyddai'n cefnogi oedolion yn gwneud byd o wahaniaeth a dwi'n credu bod hynny'n fuddsoddiad allweddol i Hywel Dda," ychwanegodd.