Cwtogi gwyliau haf i bedair wythnos yn dal yn bosibilrwydd
- Cyhoeddwyd
Fe allai gwyliau haf ysgolion gael ei dorri i bedair wythnos fel rhan o adolygiad i galendr y flwyddyn academaidd yng Nghymru.
Mae'r gweinidog addysg wedi dweud na fydd gwyliau'r haf yn cael ei dorri i ddwy neu dair wythnos, ac ni fydd trafod am gwtogi ar gyfanswm y gwyliau blynyddol.
Yn ôl Jeremy Miles mae gwaith ymchwil cychwynnol yn awgrymu bod pobl yn "gymharol hapus" gyda'r drefn fel y mae, ond mae gan bobl "feddwl agored" am newid.
Ond mae undebau wedi cwestiynu a oes wir awch am addasu'r calendr ysgol.
Mae Mr Miles wedi cyhoeddi y bydd ymgynghoriad swyddogol yn digwydd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.
Y disgwyl yw y bydd gwahanol opsiynau yn cael eu cyflwyno yn yr ymgynghoriad wedi'r haf am drefn tymhorau.
Mae cwmni ymchwil Beaufort eisoes wedi gwneud gwaith ymchwil ar farn y cyhoedd am y pwnc gan gynnig tri opsiwn, fyddai'n golygu torri'r gwyliau i dair, pedair neu bum wythnos ac addasu patrwm y tymhorau.
Mae'r ymchwil cychwynnol yn awgrymu bod y cyhoedd yn fodlon gyda'r drefn bresennol o chwech wythnos o wyliau yn yr haf gyda phythefnos o wyliau dros gyfnod y Nadolig a'r Pasg a thri chyfnod o wythnos adeg hanner tymor.
Ond dywedodd Mr Miles bod mwyafrif y gweithlu addysg a thua hanner y dysgwyr oedd yn rhan o'r ymchwil yn gefnogol i wahanol fodel.
"Mae'r adroddiad yn dangos fod pobl yn agored i edrych ar ffyrdd amgen o strwythuro'r flwyddyn ysgol," dywedodd Mr Miles.
"Dw i'n glir nad oes lle i ddadlau dros newidiadau i gyfanswm nifer y gwyliau na chwtogi gwyliau'r haf i ddwy neu dair wythnos.
"Fodd bynnag, dwi'n falch bod yr ymchwil sydd wedi ei gyhoeddi heddiw yn dangos parodrwydd i edrych ar wyliau'r flwyddyn a chael gwell cysondeb o ran hyd tymhorau."
Dywedodd y byddai archwilio opsiynau eraill yn gallu cefnogi lles dysgwyr a staff wrth i'r cwricwlwm newydd gychwyn yn ogystal ag anghydraddoldebau o fewn y byd addysg.
Oes gwir awch am newid?
Mae undebau addysg wedi cwestiynu a oes gwir awydd am newid y calendr addysg ac mae un wedi galw ar y llywodraeth i atal yr ymgynghoriad.
Dywedodd undeb addysg NEU Cymru fod 82.9% o'u haelodau nhw wedi mynegi pryder am y newid ym mhatrwm y tymor.
Ychwanegodd David Evans o'r undeb fod "nawr yn ymddangos yn amser od iawn i gyflwyno rhagor o newidiadau" yn sgil effaith y pandemig a chyflwyno'r cwricwlwm newydd.
Ychwanegodd undeb yr NAHT, mae tystiolaeth sy'n dangos y byddai newidiadau'n fuddiol yn brin.
"Byddai'n well petai llywodraeth Cymru'n canolbwyntio ar ddarparu cefnogaeth i athrawon a dysgwyr a helpu ysgolion i gyflwyno newidiadau cyfredol cyn dechrau ar unrhyw newidiadau pellach i addysg.
"Ry'n ni'n annog y Gweinidog Addysg i atal y cynlluniau i fynd at ymgynghoriad cyhoeddus tan bod tystiolaeth glir fel sail i wneud hynny."
Hwb i staff a disgyblion?
Ond, mae eraill yn dadlau y byddai gwyliau hirach ar adegau eraill o'r flwyddyn academaidd yn hwb i staff a disgyblion.
Ar y llaw arall, mae pryder y gallai torri ar y gwyliau haf arwain at lai o athrawon yn ymuno â'r proffesiwn.
Mae pennaeth Ysgol Gymraeg Aberystwyth, Clive Williams yn "falch" bod y llywodraeth yn ail-edrych ar y drefn gyfredol gan fod honno wedi bod mewn grym ers blynyddoedd.
"I nifer o deuluoedd, yr ysgol yw'r unig angor, yr unig beth cadarn sydd gyda nhw. Felly ma' bod yn yr ysgol yn rhoi sicrwydd iddyn nhw o safbwynt gofal, bwyd a lles cyffredinol hefyd."
Ond, dywedodd fod ymateb staff a disgyblion yn gymysg.
"Ma' nifer fawr iawn o'r staff yn hoff o'r sefyllfa fel y mae hi ac yn falch o gael cyfnod hir o wyliau haf er mwyn, efallai, cael ymlacio'n llwyr ac anghofio am y swydd am ychydig.
"Ond, nifer hefyd yn croesawu bod angen cyfnod hirach efallai yn ystod hanner tymor yr hydref lle mae 'na ddau hanner tymor hir iawn yn dilyn ei gilydd.
"Mae'r farn yn amrywiol iawn ac mae'n anodd cael cytundeb ar y peth."
Dywedodd Dollie, 11, o Flwyddyn 6 ei bod yn "hoffi gwyliau haf hir" ond ei fod yn gallu bod yn "anodd".
"Weithiau chi ddim yn gweld ffrindiau chi dros y gwyliau haf achos bo' nhw mewn gwledydd pell neu rhywbeth. Weithiau, chi jyst mo'yn bod yn yr ysgol!"
Mae Gruffydd, 11, yn hapus â'r drefn arferol: "Yn yr haf, chi'n gallu neud lot mwy yn yr haul, ond Nadolig, chi'n styc yn y tŷ."
"Falle bydde' fe'n neis cael rhyw hanner wythnos ar ôl Nadolig," dywedodd Owain, 11.
"Ond cadw pethe' 'r un peth, fi'n meddwl."
Mae Emma, 10 yn hapus fel y mae: "Dw i'n hoffi'r ysgol ond dw i'n caru'r ysgol felly na, dw i ddim yn meddwl fod o [y gwyliau haf] yn rhy hir.
Y tywydd yw'r prif beth i Heledd, 9, ystyried: "Fi'n meddwl bydde fe'n neis i gael wythnos o wyliau haf i fynd i hanner tymor mis Mai achos mae'n heulog fan 'na ac yn yr haf mae'n gallu bod yn eitha' glawog, eitha' gwyntog.
Wrth glywed yr opsiwn o gwtogi'r gwyliau haf, ymateb cadarnhaol oedd gan Georgia Ruth, sy'n rhiant yn yr ysgol.
Ond, mae'n cwestiynu pa mor ymarferol fyddai hynny.
"Ti'n dod i arfer efo pethe - fel 'na oedd e pan oedden ni'n blant - ti 'di arfer gyda hyd y gwyliau haf.
"Ond fi'n meddwl y bydden i'n agored i hwnna."
Mae rhai wedi codi pryderon am effaith posib cwtogi'r gwyliau haf ar y diwydiant twristiaeth, gan y byddai'r cyfnod o wyliau teuluol yn llai yn yr haf.
Ond, yn ôl perchennog gwesty Richmond yn Aberystwyth, fyddai'r newid ddim yn cael llawer o effaith ar ei fusnes gan nad teuluoedd yw mwyafrif ei gwsmeriaid.
Dywedodd Richard Griffiths y gallai gael effaith ar fusnesau eraill, fodd bynnag.
"I'r rhai sy'n bodoli er mwyn gwyliau ysgol, fel parciau carafanau a'r theme parks, bydd hynny'n cael effaith wahanol."
'Blaenoriaethu hyn yn syfrdanol'
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar addysg, Laura Anne Jones ei bod yn "syfrdanol" fod y llywodraeth yn "blaenoriaethu hyn", o ystyried y trafferthion sy'n wynebu byd addysg fel effaith y pandemig ac iechyd meddwl plant.
Ychwanegodd fod y llywodraeth hefyd yn dangos "diystyrwch llwyr am effaith ehangach penderfyniadau o'r fath", fel yr effaith ar y diwydiant twristiaeth.
Bydd ymgynghoriad swyddogol yn dechrau wedi'r haf a chyfle i bobl ddweud eu dweud cyn unrhyw benderfyniad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2021