Cofio Emyr Glyn Williams

  • Cyhoeddwyd
Emyr Glyn WilliamsFfynhonnell y llun, Emyr Glyn Williams
Disgrifiad o’r llun,

Emyr Glyn Williams

Yn gynharach eleni bu farw un o ffigurau amlycaf sin cerddorol a diwylliannol Cymru, Emyr Glyn Williams.

Yn awdur ac yn wneuthurwr ffilmiau, roedd yn bennaf yn cael ei gysylltu gyda cherddoriaeth a bu'n sbardun i nifer fawr o grwpiau gan roi'r cyfle cyntaf i artistiaid aeth ymlaen i fod yn enwau cyfarwydd yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Un fu'n cyd-weithio gydag o ers dyddiau cynnar recordiau Ankst yn yr 1980au, ydi cyd-sylfaenydd y cwmni, Alun Llwyd.

Mewn rhaglen arbennig ar Radio Cymru, fe dalodd deyrnged i'w ffrind, gan sôn am angerdd Emyr Glyn Williams tuag at ryddhau cerddoriaeth - o'r tro cyntaf iddyn nhw gyfarfod, hyd y diwedd.

Neshi gwrdd ag Em gynta tra roeddan ni'n coleg. Roedd Gruffudd (Jones) a fi wedi cychwyn Ankst fel label. Roeddan ni wedi dod yn ffrindia efo Dicw - Richard Wyn Jones - a Jerry Hunter, oedd mewn band o'r enw Arfer Anfad a natho ni gyfarfod trwmpedwr y band yna - Emyr Glyn Williams.

Wnaethon ni bondio dros gariad o REM a gwahanol fands, Americanaidd yn bennaf, a rhyddhau EP Arfer Anfad. Mi gafodd Em swydd efo (cwmni teledu) Criw Byw yng Ngharerdydd a ddechreuon ni rannu tŷ yng Nghaerdydd.

Wedyn jest cyn rhyddhau albym Y Cyrff, Llawenydd Heb Ddiwedd, mi ymunodd Em efo cwmni Ankst a gadael Criw Byw... oedd yn sioc - yn rhoi'r gorau i yrfa sefydlog, llewyrchus a dod i weithio yn 65 Conway Road yng Nghaerdydd efo ni.

Ffynhonnell y llun, Barn
Disgrifiad o’r llun,

Emyr Glyn Williams, Gruffudd Jones ac Alun Llwyd yn nyddiau Ankst

Y peth cynta 'nath Em - oedd yn classic Em - oedd talu am pressing finyl o Llawenydd Heb Ddiwedd, achos doedd Ankst methu fforddio hynny ac roedd o'n benderfynol bod y record yna ar finyl, ac mi ddaeth y record allan ar finyl.

Ddysgish i gymaint gan Em yn gerddorol. Wnaeth o agor y drws i gymaint o gerddoriaeth i fi do'n i ddim wedi clywed cynt - REM yn un enghraifft, a bandiau fel Buffalo Tom a Pixies a lot o fandiau oedd yn torri drwodd yn America yn y cyfnod yma ac roedd Em wastad i mewn i hynny.

Ac roedd o'n gweld y gerddoriaeth oeddan ni'n ei rhyddhau ar yr un lefel â hwnnw - oedd o'r un mor bwysig, ac roedd y safon yn bwysig, a'i gael o allan yna yn bwysig.

Dyna be' dwi'n cofio mwya' am Em - yr angerdd yna a'r gred grediniol yna bod y recordiau oedda ni'n rhyddhau lawn cyn bwysiced ag unrhyw record arall yn y byd a bod hi'n bwysig bod yna gynulleidfa yn cael clywed y recordiau yna.

Gorky's Zygotic Mynci

Mi ddaeth o a bandiau i mewn 'wrach na fyddan ni'n dau - Gruffudd a finna - wedi meddwl amdanyn nhw.

Bob tro dwi'n meddwl am Em dwi'n meddwl am Gorky's - 'nath o fynnu bod ni'n arwyddo nhw. Y cyfnod yna mi roedd ganddon ni stondin yn y Steddfodau Cenedlaethol, ac yn Steddfod Builth dwi'n meddwl oedden ni, ac mi ddaeth y ddau foi yma i mewn a mymblo rwbath a rhoi casét i ni - ac Euros (Childs) a Rich (James) oedda nhw.

A mi neshi wrando ar y casét ar beiriant pleser a ma' rhaid fi fod yn onast, ro'n i'n meddwl 'o ia - fine' ond roedd Ems yn deud "ma'n rhaid i ni roi hwn allan ar finyl 10inch" ac roedd o'n gwybod yn iawn yn syth bin be' oedd rhaid gwneud efo'r record yna.

Roedd o'n coelio gymaint yn Gorky's. Roedd o'n grediniol bod Gorky's yn rhywbeth gwirioneddol arbennig - fel ydw i yn teimlo hefyd - ond roedd angerdd Em reit o'r cychwyn yn rhoi gwerth i Gorky's, yn gweld gwerth celfyddydol, gwerth Ewropeaidd a gwerth rhyngwladol i Gorky's.

Roedd o'n meddwl bod rhywbeth yn fanna oedd yn bwysig i'w warchod a buddsoddi ynddo fo a'i amddiffyn a'i ddatblygu... a dyna ydi band Ems i fi... Gorky's.

Disgrifiad o’r llun,

Gorky's Zygotic Mynci mewn cyngerdd yn The Garage, Llundain, yn 1997

Roedd o'n trysori Datblygu wrth gwrs a pan gollon ni Dave mi 'nath o'n siŵr bod dymuniad ola' Dave - sef rhyddhau y casgliad - yn dod yn wir a'i 'neud o'n union fel oedd Dave isho. Efo Geraint Jarman 'run peth, roedd ganddo ffyddlondeb i Jarman - ac roedd o isho dathlu'r genhedlaeth honno ac isho cefnogi'r genhedlaeth newydd hefyd.

Y record olaf

Roedd Em wastad yn fy ngwthio, a'r tro ola' welish i fo mi roddodd o amlen i fi a phan agorish i'r amlen, be' oedd ynddo fo oedd cyfarwyddiadau step by step o sut i ryddhau'r record ola' oedd Ankstmusik yn mynd i'w ryddhau.

Wnaeth o ddeud "dwi 'di talu am hwn, dwi isho chdi roi hyn a hyn allan i ffrindiau 'dan ni wedi cyfarfod ar hyd y siwrna, dwisho chdi roi hyn a hyn o gopïau i'r band, hyn a hyn i'r dosbarthwr... dwi 'di talu amdana fo, plîs edrych ar ei ôl... cofia mai dim ond tri trac ochr un, pedwar ochr dau..."

Manylder llwyr, wedi llawysgrifennu'r epistol yma o gyfarwyddiadau a neshi ffeindio fo mewn ffordd od yn gysur, 'reit dwi am daflu fy hun yn ôl rŵan i ryddhau y record ola' efo enw Ankst arno fo'.

Ffynhonnell y llun, Huw Stephens
Disgrifiad o’r llun,

Alun Llwyd ac Emyr Glyn Williams

Felly hyd yn oed ar ôl ein gadael ni roedd o'n benderfynol bod hwn am ddod allan, ond classic Em bod o isho gwario arian ar rywbeth oedd ddim ar finyl, ond sydd rŵan am gael dod allan ar finyl am y tro cynta'.

Casgliad o Peel Sessions Llwybr Llaethog fydd o - ac mae'n gasgliad anhygoel o dda ac anhygoel o bwysig gan fod o'n gyfnod gwleidyddol tu hwn ac mae o wedi sgwennu traethawd gwych am y cyfnod, gwleidyddiaeth y cyfnod a'r gerddoriaeth... a fydd hi allan yn unol â chyfarwyddiadau manwl iawn Emyr Glyn ar bapur amdano fo.

Mae hwnna bron yn dysteb i Ankstmusik, i Ankst ac yn bennaf i weledigaeth Emyr achos roedd o'n berson creadigol, roedd o'n berson gwleidyddol, roedd o'n berson angerddol ac roedd o'n berson oedd yn coelio mewn buddsoddi bob dim oedd ganddo fo mewn pwysigrwydd y gelfyddyd yna, a hyrwyddo a rhyddhau'r gelfyddyd yna.

Dwi ddim yn meddwl wna i weld rhywun arall efo'r agwedd yna a gwerthoedd yna a jest yr angerdd i sicrhau bod hynny'n digwydd.

  • Bu farw Emyr Glyn Williams yn 57 oed ar 17 Ionawr, 2024. Gwrandewch ar raglen deyrnged Huw Stephens iddo ar BBC Sounds.