Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Dirgelwch a doniau’r dyfodol?
- Cyhoeddwyd
Dyw hi ddim yn anarferol fod 'na deimlad o ansicrwydd ar drothwy Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn dilyn Cystadleuaeth Cwpan y Byd.
Ar ôl i un cyfnod ddod i ben, mae 'na wawr newydd yn codi a nifer o dimau yn dechrau ar gyfnod o ailadeiladu ac edrych tua'r dyfodol - ac yn hynny o beth dyw'r ymgyrch yma ddim yn eithriad.
Mi fydd y genedl gyfan yn gobeithio y bydd Cymru yn gallu camu ymlaen wedi Cwpan y Byd ble cafodd yr hunan barch ei adfer wrth i Gymru gyrraedd yr wyth olaf - rhywbeth oedd yn destun llwyddiant wedi'r 12 mis cythryblus ddaeth cyn hynny.
Y broblem i Warren Gatland yw bod 'na sawl ffactor wedi codi ers y gystadleuaeth yn Ffrainc sydd wedi gwneud y dasg gymaint yn anoddach.
Mae 'na absenoldebau yn sgil anafiadau, enwau mawr fel Halfpenny a Biggar wedi ymddeol a rhai hyd yn oed am greu gyrfa newydd ar draws gefnfor yr Iwerydd!!
Mae hyn oll yn golygu bod 'na bwyslais wedi bod ar y genhedlaeth nesa' a rhoi cyfle i'r to ifanc - mae 'na bump sydd eto i ennill capiau rhyngwladol a naw eto i gael blas o gystadlu ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Mae afiaith ac egni'r ifanc wrth gwrs yn rhywbeth i'w gymeradwyo, a dwi'n siŵr fydd enwau megis Cameron Winnett, Mackenzie Martin ac Alex Mann i enwi tri, yn chwaraewyr â dyfodol disglair.
Ond y gwir yw, mae'r rhain yn ddibrofiad ar lefel rhanbarthol, cyn sôn am gamu i'r llwyfan rhyngwladol - ond dyma yw realiti'r sefyllfa ac mae angen pwyll ac amynedd cyn gweld a fyddan nhw'n blodeuo ar y lefel yma.
Cwestiwn y crys rhif 10 a cholli Dupont
Dyw'r wawr newydd ddim wedi'i neilltuo i Gymru chwaith.
Ers baglu yn rownd yr wyth olaf yn Ffrainc ma' Jonny Sexton - maswr ac arweinydd ysbrydoledig Iwerddon - wedi rhoi'r gorau i'r gêm, ac nid ar chwarae bach y mae llenwi 'sgidiau rhywun fuodd mor ganolog ac allweddol i'r Gwyddelod am bron i 15 mlynedd.
Bydd angen i dîm Andy Farrell ddygymod â'i absenoldeb ar y penwythnos agoriadol yng nghrochan y Stade Velodrome ym Marseille mewn gêm allai fod yn hollbwysig wrth benderfynu tynged y gystadleuaeth.
Absenoldeb maswr arall sydd wedi creu problem debyg i hyfforddwr Lloegr Steve Borthwick, a rhyfedd o beth fydd peidio gweld cymeriad ffyrnig a chystadleuol Owen Farrell wedi iddo benderfynu cymryd saib o'r gêm ryngwladol.
Er nad yw'n ffit ar gyfer y gêm gyntaf, chwaraewr talentog a chreadigol yr Harlequins, Marcus Smith sy'n barod i gydio yn yr awenau yn y tymor hir, a diddorol fydd gweld a fydd Lloegr o'r diwedd yn gwerthfawrogi ei ddawn naturiol ac yn cael y gorau allan ohono ar y cae chwarae.
Nid y rhif 10 yw'r broblem i Ffrainc ond yn hytrach colli un o, os nad y chwaraewr gorau yn y byd sef y mewnwr Antoine Dupont.
Mi fydd Dupont yn cael ei warchod eleni er mwyn rhoi cyfle iddo baratoi i gynrychioli tîm saith bob ochr Ffrainc yn y Gemau Olympaidd ym Mharis - a chymaint yw ei ddylanwad, mae Ffrainc heb eu capten yn agor cil y drws i'r gwledydd eraill.
Gobeithion Cymru a phwysigrwydd y gêm gyntaf
Dyw'r disgwyliadau ddim yn uchel o bosib eleni i Gymru am y rhesymau a nodwyd yn barod, ac mi ddylai hynny gael ei ystyried wrth asesu'r ymgyrch yn y pendraw.
Bydd natur y perfformiadau bron yr un mor bwysig a gweld a fydd y tîm cenedlaethol yn gallu adeiladu ar y seiliau a osodwyd yn Ffrainc.
Mi fydd yr Albanwyr yn dod i Gaerdydd fel ffefrynnau, ond yn dod heb brofi buddugoliaeth yn y brifddinas ers 2002 sef gêm olaf Bill McLaren tu ôl i'r meic.
Mae 'na bwysau ar yr hyfforddwr Gregor Townsend wedi Cwpan y Byd siomedig, ac ai'r dewin neu'r diafol fydd yn cael ei arddangos gan Finn Russell?
A fydd cywion Gatland yn pylu neu'n ffynnu o dan y pwysau?
Cymaint o gwestiynau, cymaint o ddirgelwch - a dyna pam fod cystadleuaeth hynaf y byd rygbi mor unigryw. Mae'n argoeli i fod yn dipyn o daith!
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr
- Cyhoeddwyd16 Ionawr
- Cyhoeddwyd16 Ionawr