Defnyddio gwlân a llechi i wneud tai yn fwy gwyrdd
- Cyhoeddwyd
Bydd deunyddiau traddodiadol fel gwlân a llechi yn rhan o gynllun mentrus cymdeithas dai yng Ngwynedd i ddatgarboneiddio miloedd o'u tai a'u gwneud yn fwy "gwyrdd".
Y bwriad yw gwella'r defnydd o ynni a gwneud y tai yn rhatach i'w gwresogi.
Fe fydd hefyd yn helpu i gwrdd â thargedau'r llywodraeth wrth geisio cyrraedd sero net.
Mae 1.4 miliwn o gartrefi yng Nghymru ac mae eu gwresogi yn gyfrifol am hyd at 11% o gyfanswm ein hallyriadau carbon.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i'r sector cyhoeddus fod yn garbon niwtral erbyn 2030.
Erbyn 2050 y nod yw sicrhau cydbwysedd rhwng faint o allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n cael eu cynhyrchu a faint sy'n cael ei dynnu o'r atmosffer.
Mae hen ffatri ym Mhenygroes ger Caernarfon yn rhan o'r ymdrech yna trwy ddatblygu sgiliau ac arbrofi gyda deunyddiau ar gyfer y gwaith o ddatgarboneiddio tai.
Prosiect eco Tŷ Gwyrddfai yw'r cyntaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig, ac mae'n arwain cynllun mawr i wneud miloedd o dai yn y sir yn fwy gwyrdd yn y 10 mlynedd nesaf.
Julie Stokes-Jones yw rheolwr busnes Tŷ Gwyrddfai, ac mae hi'n dweud fod cymdeithas dai Adra yn bwriadu gweddnewid hen ffatri Northwood Tissues, oedd yn cyflogi hyd at 100 o weithwyr ar y safle tan tua phedair blynedd yn ôl.
"Y bwriad yw creu nifer o pods yma. Fe fydd ganddyn nhw waliau ac wedyn fyddan nhw'n addas ar gyfer hyfforddi a gwaith ymarferol.
"'Da ni eisoes wedi dechrau cynnal rhai cyrsiau plastro, er enghraifft."
Ychwanegodd y bydd y podiau yn adlewyrchu amodau safleoedd adeiladau.
"'Da ni ddim yn mynd i roi gwres yma na dim byd. Mae'n mynd i fod fel gwaith tu allan. Bydd 'na do yma a bydd 'na baneli solar.
"Bydd 'na heat pumps yn cael mynd tu allan i'r adeilad a'r peth mwya' fydd prosiect efo'n partneriaid, Prifysgol Bangor, ble fydd 'na siambr amgylcheddol i 'neud gwaith ymchwil efo tai a'r cynnyrch sydd i symud ymlaen efo datgarboneiddio".
'Cefnogi busnesau a phobl leol'
Mae cael y sgiliau angenrheidiol ar gyfer hynny yn her yn ôl Gareth Hughes, rheolwr Cist, canolfan sgiliau grŵp Llandrillo Menai ar gampws Llangefni.
"'Da ni wedi datblygu'r ganolfan yma er mwyn cefnogi busnesau a phobl leol a hyfforddi pobl ar bethau fel; sut 'da ni'n datgarboneiddio tai, sut yda' ni'n gosod ynni glan mewn tai a ballu," meddai.
"Yr her sydd gennym ni ydi trio cadw gymaint o betha' a da ni'n gallu mor lleol â 'da ni'n gallu - i roi sgiliau i bobl, rhoi cyfleoedd iddyn nhw ennill cytundebau efo tai cymunedol fel Adra, Grŵp Cynefin, Clwyd Alun a Trefi Conwy.
"Mae 'na lot o waith angen cael ei wneud ond 'da ni ar y lôn iawn."
Fe fydd labordy hefyd yn y ffatri i brofi deunyddiau gwahanol allai helpu i wneud ein cartrefi yn fwy effeithiol o ran defnyddio ynni.
Prifysgol Bangor fydd yn gyfrifol am y fenter, a dywed Gwen Sion o'r brifysgol ei fod yn arloesol.
"Oedd hwn yn gyfle cyffrous iawn i'r brifysgol," meddai.
"Mae'n brosiect eitha' unigryw ac mae'n rhoi cyfle i'n hymchwilwyr ni - sydd yn amlwg mewn labordai ac o fewn y brifysgol ym Mangor ar hyn o bryd - i ddod allan i'r gymuned a gneud y wyddoniaeth yn y byd go iawn gan ddefnyddio tai sydd gan Adra a defnyddio'r cyfleusterau sydd 'na yn y ganolfan yma."
Ochr yn ochr â sgiliau newydd fe fydd angen ystyried defnyddio dulliau gwahanol i wresogi ac insiwleiddio tai, gan gynnwys gwlân Cymreig.
Mae Elen Parry yn arwain prosiect Gwnaed a Gwlân, sy'n ceisio gwireddu potensial gwlân fel deunydd naturiol, cynaliadwy ac amlbwrpas.
"Mae'n grêt i ni ddefnyddio mwy o wlân Cymreig. Bydd hyn yn helpu cymunedau a ffermwyr Cymru," meddai.
"Wrth gwrs mae gwlân yn gynaliadwy ac mae'n golygu ein bod ni'n defnyddio llai o blastig yn ein tai. ac mae hynny i gyd yn llawer gwell i'r amgylchedd yn y pendraw."
Mae Mair Jones yn gyd-berchennog ar gwmni Wool Insulation Wales.
Esboniodd eu bod wedi trafod yr opsiwn o ddefnyddio gwlân ar gyfer insiwleiddio mewn cyfarfod yn Nhŷ Gwyrddfai, a hefyd gyda chymdeithasau tai, penseiri, datblygwyr, cyflenwyr a chontractwyr.
"Mae hwn yn ddefnydd gwych o adnodd naturiol sy'n cael ei gynhyrchu fan hyn yng Nghymru," meddai.
"Mae angen lleihau'r defnydd o garbon yn y gadwyn gyflenwi yn y diwydiant adeiladu ac mae gwlân yn cynnig datrysiad gwych i hynny.
"Mae'n adnewyddadwy ac yn gynaliadwy."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2023