Cyhoeddi cynllun i warchod byd natur a'r amglychedd
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun newydd i atal colledion ym myd natur wedi'i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.
Mae'n cynnwys sefydlu corff annibynnol newydd i'w dwyn i gyfrif ar faterion amgylcheddol fel gollyngiadau carthffosiaeth neu lygredd aer.
Mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus yng Nghymru ddatblygu cynlluniau i adfer natur hefyd.
Mae'n hen bryd i fanylion y ddeddfwriaeth ddod i law yn ôl y gwrthbleidiau ac ymgyrchwyr, sydd wedi annog gweinidogion i "fwrw ati".
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi wynebu beirniadaeth ynglŷn â pha mor hir mae'n cymryd i fynd i'r afael â'r hyn sydd wedi'i ddisgrifio fel bwlch o ran y mesurau sydd yn eu lle i warchod yr amgylchedd ar ôl Brexit.
Roedd pobl yn arfer gallu cwyno'n rhad ac am ddim i'r Comisiwn Ewropeaidd os oedden nhw'n teimlo nad oedd eu llywodraeth a'u cyrff cyhoeddus yn gwneud digon i gydymffurfio â ddeddfau gwyrdd a hybu natur.
Gallai'r comisiwn benderfynu ymchwilio ar eu rhan a gorfodi cenhedloedd i weithredu - roedd yna enghreifftiau nodedig o Gymru gan gynnwys mynd i'r afael ag allyriadau peryglus o bwerdy glo Aberddawan ym Mro Morgannwg.
Fe sefydlodd Llywodraeth y DU gorff annibynnol o'r enw The Office for Environmental Protection (OEP) yn 2021 i gwblhau rôl debyg yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, tra bod Llywodraeth yr Alban wedi ffurfio Environmental Standards Scotland yn ystod yr un flwyddyn.
Roedd hyn yn golygu mai Cymru oedd yr unig ran o'r DU heb drefniadau parhaol yn eu lle.
Dadl y gweinidog newid hinsawdd Julie James AS yw bod ei chynlluniau yn cynnig cyfle i "neidio o flaen y gwledydd eraill" a mynd "o'r safle ola' i fod yn gyntaf".
"Ry'n ni wedi gallu dysgu o'r problemau a'r anawsterau sydd wedi bod â'r modelau yn Lloegr a'r Alban, yn ogystal â dysgu o'r pethau a aeth yn dda," esboniodd.
Bydd y corff llywodraethiant amgylcheddol newydd yn cynnwys oddeutu wyth comisiynydd gydag ystod o arbenigedd, a 12 o staff ychwanegol i gefnogi eu gwaith.
Byddan nhw'n craffu ar berfformiad Llywodraeth Cymru, awdurdodau cyhoeddus a rhai cyrff preifat fel cwmnïau dŵr sy'n gweithredu yng Nghymru hefyd, gan ganolbwyntio ar bynciau neu gwynion sydd wedi'u codi gan y cyhoedd.
Tra'n dechrau drwy gynnig cymorth a chyngor ar wella perfformiad amgylcheddol neu gyrraedd targedau, fe fydd ganddo'r gallu i fynd â chyrff i'r llys hefyd, petai angen.
Mae'r cynlluniau'n rhan o bapur gwyn - neu amlinelliad - hirddisgwyliedig o fesur newydd ar egwyddorion a llywodraethiant amgylcheddol a thargedau bioamrywiaeth.
Bydd yn cyflwyno targedau cyfreithiol ar atal colledion ym myd natur - y prif nod yw atal dirywiad bioamrywiaeth erbyn 2030, a gweld "gwellhad clir" erbyn 2050.
Bydd targedau mwy penodol yn ymwneud â rhywogaethau neu gynefinoedd yn dilyn, meddai'r gweinidog.
Bydd cyrff cyhoeddus yn cael cais i baratoi a chyhoeddi cynlluniau gweithredu adfer natur yn eu hardaloedd nhw, gyda'r llywodraeth yn gyfrifol am gyflwyno strategaeth gyffredinol.
Croeso i'r cynlluniau 'hirddisgwyliedig'
"Dyma gam allweddol, sydd wir ei angen i adfer natur - targedau uchelgeisiol i arwain y llywodraeth hon a rhai'r dyfodol, gyda chorff annibynnol i fonitro cyrhaeddiad a'u dwyn i gyfri," meddai Ruth Chambers, o felin drafod y Green Alliance.
"Rhaid i'r llywodraeth nawr fwrw ati a sicrhau bod y mesurau yma'n cael eu cyflwyno cyn gynted a phosib."
Ychwanegodd Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru eu bod hwythau hefyd yn croesawu'r cynlluniau ond "mae'u hangen arnom ni cyn gynted â phosib! Ry'n ni mewn argyfwng natur!".
Dywedodd Delyth Jewell AS, llefarydd Plaid Cymru ar yr amgylchedd fod na "angen gwirioneddol am ddeddfwriaeth ar frys".
"Ry'n ni wedi bod yn aros yn rhy hir ar gyfer hyn - mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod y trefniadau yn gweithio a bod y cyhoedd yn eu deall nhw," meddai.
Rhybuddiodd Janet Finch-Saunders, AS ar ran y Ceidwadwyr Cymreig ei bod hi'n "hen bryd" gweld mesurau'n cael eu cyhoeddi, gyda'r pwyllgor amgylchedd yn y Senedd wedi bod yn galw amdanyn nhw dro ar ol tro.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Medi 2023
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2023