Galw am osod paneli solar ar bob cartref newydd

  • Cyhoeddwyd
Safle adeiladu

Dylai fod yn rhaid i adeiladwyr tai osod paneli solar ar bob cartref newydd, gwaith adnewyddu mawr ac estyniadau yng Nghymru, yn ôl corff sy'n cynghori'r llywodraeth.

Maen nhw eisiau adolygiad ar unwaith o reoliadau adeiladu i fandadu'r defnydd o dechnolegau adnewyddadwy.

Rhybuddiodd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC) fod angen "ymyriadau ychwanegol sylweddol" i gyrraedd targedau ynni gwyrdd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydden nhw'n ystyried yr argymhellion yn ofalus.

O 2021 ymlaen, roedd tua 55% o alw Cymru am drydan yn cael ei ddiwallu o ffynonellau adnewyddadwy fel solar, gwynt neu ynni dŵr.

Mae Llywodraeth Cymru yn anelu at gyrraedd 100% erbyn 2035.

Ond mae adroddiad CSCC yn dweud nad oes ganddi strategaeth glir ar sut i gyrraedd hynny, gyda chynnydd ar adeiladu cynlluniau ynni gwyrdd newydd wedi arafu'n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf.

Rôl CSCC yw cynghori ar y seilwaith strategol hirdymor sydd ei angen yng Nghymru dros yr 80 mlynedd nesaf.

Gyda phwerau dros bolisi ynni yn cael eu rhannu rhwng Bae Caerdydd a San Steffan, mae'r awduron yn cydnabod ei bod hi'n faes "cymhleth", ond bod mwy y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i roi arweiniad.

O ran tai, er enghraifft, lle mae rheolaeth dros reoliadau adeiladu wedi'i datganoli ers sefydlu'r Senedd, "ar hyn o bryd ychydig sydd i'w ddangos" bod cartrefi yma yn cael eu hadeiladu i safon sy'n fwy eco-gyfeillgar, yn ôl eu hadroddiad.

Mae'r adroddiad yn dweud y dylai adeiladwyr tai gael eu gorfodi i gyflwyno technolegau gwyrdd - fel ffordd o dorri allyriadau nwyon tŷ gwydr a helpu cwsmeriaid gyda'u biliau ynni.

"Mae angen i ni ynysu ein hunain - yn llythrennol - rhag y trafferthion rydyn ni wedi bod yn eu cael gyda phrisiau cyfnewidiol nwy a thrydan," esboniodd Nick Tune, comisiynydd CSCC.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ffordd Pen y Ffridd ym Mangor yn cael ei hadeiladu i fod yn gyfeillgar i'r hinsawdd

Mae stryd sy'n gyfeillgar i'r hinsawdd yn cael ei hadeiladu ar hyn o bryd yn Ffordd Pen y Ffridd ym Mangor, Gwynedd.

Mae'r cartrefi dwy a thair stafell wely, sy'n cael eu hadeiladu ar gyfer cymdeithas dai Adra, yn cynnwys gwell insiwleiddio, paneli solar, pympiau gwres ffynhonnell aer a phwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan.

"'Dan ni wedi gwneud o ers dros ddwy flynedd yn barod ond... mae o'n costio fyny at ryw £20,000 i roi'r mesuriadau gwyrdd 'ma mewn i'r tai," esboniodd Cyfarwyddwr Datblygu Adra, Daniel Parry.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Daniel Parry ei fod yn costio tua £20,000 i roi'r mesuriadau gwyrdd i'r tai

Roedd y grantiau sydd ar gael ar gyfer tai cymdeithasol yn ei wneud yn opsiwn ymarferol a deniadol i'r cwmni.

Ond fyddai'n "mynd yn anodd" i ddatblygwyr preifat "oherwydd mae costau'n codi", gyda'r costau yn debygol yn cael eu hadlewyrchu ym mhris y tŷ.

Dywedodd Ifan Glyn, Cyfarwyddwr Cymru yn Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr, na fyddai'r diwydiant eisiau gweld rheoliadau fyddai'n cyfyngu ar ba dechnolegau ddylai gael eu gosod.

"Mae'r adroddiad yma yn cefnogi rhai technolegau solar yn bennaf ac y dylid wneud o'n orfodol i'w gosod nhw mewn tai newydd," meddai.

"Ein barn ni ydi bod polisi Llywodraeth Cymru yn y maes yma, sy'n bodoli yn barod, hynny yw, i beidio bod yn rhy bresgriptif, rhoi rhyddid i adeiladwyr i fod yn hyblyg ac i arloesi.

"'Dan ni yn lot mwy gefnogol o'r ffordd yna o wneud pethe, yn hytrach na bod yn rhy bresgriptif."

Argyfwng hinsawdd a natur

Pan ofynnwyd iddi a allai safonau amgylcheddol llymach atal datblygwyr rhag adeiladu yng Nghymru, dywedodd Dr Jenifer Baxter, dirprwy gadeirydd CSCC ein bod "ar hyn o bryd yn byw mewn... argyfwng hinsawdd a natur".

"Yr hyn rydyn ni'n ei ddisgwyl yw i'n holl adeiladwyr tai... ddefnyddio'r dechnoleg sy'n cyfrannu cyn lleied â phosibl at wenwyno'r blaned."

Disgrifiad o’r llun,

Dr Jenifer Baxter yw dirprwy gadeirydd CSCC

O ran cynlluniau mwy o faint fel ffermydd gwynt a solar, mae'r comisiynwyr yn cynnig y dylai o leiaf 10% o bob datblygiad newydd fod yn eiddo i'r gymuned.

Maen nhw hefyd yn galw am ddatganoli swyddogaethau Ystâd y Goron yng Nghymru, fel sydd wedi digwydd yn Yr Alban ers 2016.

Byddai hyn yn golygu y byddai arian sy'n cael ei godi o brydlesu defnydd wely'r môr ar gyfer ffermydd gwynt mawr oddi ar arfordir Cymru yn cael ei gadw gan Lywodraeth Cymru yn hytrach na'i anfon i Drysorlys y Deyrnas Unedig.

Fe wnaeth llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ddiolch i CSCC am "y gwaith sydd wedi'i wneud i'r adroddiad hwn".

"Byddwn nawr yn ystyried yr argymhellion yn ofalus," meddai.