'Tynnu gwallt allan' o achos pwysau gwaith a 'hunlosg'
- Cyhoeddwyd
Mae dynes sydd wedi bathu term Cymraeg ar gyfer burnout wedi disgrifio sut i'r pwysau a "phryder" a brofodd hi gyfrannu at newid ei gyrfa.
Mae burnout, neu 'hunlosg', fel mae Dr Sara Wheeler yn ei alw, yn cael ei gydnabod gan Sefydliad Iechyd y Byd fel cyflwr o flinder corfforol ac emosiynol.
Yn ôl undeb TUC Cymru, mae un o bob chwe gweithiwr yng Nghymru'n gweithio tua 6.5 awr yr wythnos yn ddi-dâl, sy'n cyfrannu at gynnydd mewn achosion.
Maen nhw hefyd yn dweud bod pwysau gwaith yn gwneud i rai droi at alcohol a chyffuriau presgripsiwn i "ddelio gyda bywyd pob dydd".
Yn ddiweddar fe adawodd Dr Sara Wheeler y byd academaidd yn sgil pryder am burnout - neu 'hunlosg' fel mae hi'n ei ddisgrifio.
"Mae'r pwysau a rôl o fod yn academydd wedi mynd yn fwy dros amser," meddai'r cyn-ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor a Phrifysgol Wrecsam.
"Pan o'n i'n ddarlithydd o'n i wastad yn teimlo mod i un cam i ffwrdd o burnout, achos doedd gennych chi ddim amser i gymryd eich amser i ffwrdd - roedd gennych chi ddigon o leave, ond nunlle i gymryd o."
Dywedodd ei bod wedi dechrau mynd yn "bryderus iawn", gan gynnwys tynnu ei gwallt allan, a'i bod wedi canfod ei hun yn marcio gwaith ar ddydd Nadolig.
"O'n i'n teimlo mor bryderus do'n i methu sgwennu dim byd, methu 'neud dim byd - roedd yr awen wedi mynd a doedd hwnna ddim yn rhywbeth o'n i 'di teimlo o'r blaen," meddai.
Ar ôl gadael ei swydd, yn rhannol oherwydd newidiadau i'w rôl yn dilyn ailstrwythuro, mae hi bellach yn gweithio'n llawrydd ar brosiectau creadigol.
"Roedd rhywfaint o rhyddhâd mewn gadael, ac eto mwy o bwysau mewn ffordd, achos roedd rhaid ail-adeiladu fy mywyd a'n hunaniaeth," meddai. "Mae celf a sgwennu'n greadigol wedi helpu hyn."
Mae hefyd wedi gwneud ymchwil i burnout - gan ddarganfod nad oedd term sefydlog ar ei gyfer yn y Gymraeg.
Ar ôl gofyn am syniadau ar y cyfryngau cymdeithasol, dechreuodd ddefnyddio'r term 'hunlosg'.
"Mae'r seicoleg o allu d'eud o'n Gymraeg mor bwysig dwi'n meddwl," meddai.
"Achos mae'n cynnwys y syniad yma o'r 'hun', mae'n well na burnout, mae'n well na'r Saesneg, oherwydd y syniad bod yr hunaniaeth dan fygythiad."
Rhowch ganiatâd i'ch hun
Yn ôl Dr Wheeler, mae'n bwysig "rhoi brêc i'ch hunan" er mwyn osgoi cyrraedd sefyllfa o hunlosg.
"I bobl sydd ella'n teimlo bod nhw'n mynd lawr y lon o burnout, rhoi brakes arni cyn gynted â fedrwch chi, achos mae'n deimlad annifyr iawn bod cymaint allan o control bod chi jyst yn gallu sbïo ar y wal," meddai.
"Os 'dych chi'n teimlo bod angen i chi fynd allan o'r ffordd o'r holl stress sydd ganddoch chi, gwnewch hynny.
"Gwnewch y pethau fysa chi ddim fel arfer yn rhoi caniatâd i'ch hunan wneud."
Fe wnaeth Sarah Jones, o Senghennydd ger Caerffili, hefyd brofi teimladau o burnout gyda'i swydd yn y maes gwerthu, ar ôl teimlo ei bod hi wedi gwthio ei hun "gormod".
"O'n i methu cael anadl fi'n iawn, o'n i isie crio trwy'r amser, ac o'n i'm yn gwybod pam," meddai.
"Nes i 'weud 'reit, ma' rhywbeth ddim yn iawn fan hyn, mae'r wên ddim yna ac mae'n rhaid i fi 'neud rhywbeth amdani'.
"O'n i isio neud popeth i bawb, cadw pawb yn hapus, ond do'n i ddim yn cadw Sarah yn hapus."
Fe ddechreuodd Sarah gyda nofio dŵr oer, cyn dechrau mynd i sesiynau anadlu gyda dosbarthiadau Reset With Ruth yn Y Barri.
Mae hi bellach yn mynd mewn i ddŵr oer bob dydd, ac mae ei hymarferion anadlu hyd yn oed wedi helpu ei merch 15 oed gyda'i harholiadau TGAU.
"Ma' fe wedi newid sut dwi'n byw o ddydd i ddydd… ma' fe'n neud i chi switcho bant, mynd mewn i ryw fath o meditation, ac mae'n dda iawn," meddai.
"Ma' fe'n bwysig iawn achos fi ddim isie bod y person sydd isie rhedeg i ffwrdd a ddim isie 'neud gwaith, ddim isie siarad 'da'r teulu - dwi isie bod y person fi yn."
Yn ôl Shavannah Taj o undeb TUC, mae dwysedd gwaith wedi cynyddu i lawer o bobl, gyda thechnoleg ehangach yn golygu bod llawer nawr yn ateb e-byst a chynnal cyfarfodydd y tu allan i oriau gwaith.
"Mae gweithwyr yn dweud wrthym ni eu bod nhw'n troi at alcohol a chyffuriau presgripsiwn er mwyn ymdopi gyda bywyd pob dydd, oherwydd y pwysau a'r hunlosg," meddai wrth raglen BBC Wales Live.
Ychwanegodd bod eraill wedi troi at gamblo er mwyn ceisio gwneud mwy o arian a dianc o'u sefyllfa.
'Rhaid cael cydbwysedd'
Mae'r baich hefyd yn gallu bod yn uwch ar fenywod oherwydd ffactorau fel gofal plant, y menopos, a dyletswyddau gofalu.
"Rywsut mae'n rhaid i ni gyd fod yn superwomen sy'n mynd i'r gwaith a dod adref, gwneud popeth adref, a bod yn wych o hyd - sydd ddim yn realistig," meddai Ms Taj.
Ym mis Ionawr 2023 fe gyhoeddodd TUC Cymru adroddiad oedd yn cynnwys galw am Weinidog Gwaith o fewn Llywodraeth Cymru, a threfniadau gweithio hyblyg.
"Os 'dyn ni eisiau cael y gorau allan o'n gweithlu, mae'n rhaid cael mesurau yn eu lle i sicrhau bod y cydbwysedd gwaith-bywyd yn realiti."
Dr Liza Thomas-Emrus yw prif glinigydd Gwasanaeth Gwella Lles (WISE) Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.
Mae'n dweud bod hunlosg yn "broblem fawr", a bod yr argyfwng costau byw yn ychwanegu at y pwysau wrth i bobl weithio oriau hirach neu gymryd swyddi ychwanegol.
"Yn aml iawn mae pobl yn ceisio dod o hyd i ddatrysiad cyflym fel yfed mwy o alcohol neu gymryd moddion, ond yn anffodus dyw hynny ddim yn datrys unrhyw beth," meddai.
Y chwe pheth all wneud gwahaniaeth, meddai, yw - cwsg, perthnasau a chysylltiadau cymdeithasol, maeth, ymarfer corff, cyfyngu sylweddau niweidiol, ac iechyd meddwl.
Mewn datganiad, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n gweithio gyda chyflogwyr ac undebau i "hyrwyddo gweithio teg", gan gynnwys "hyrwyddo amodau gwaith sy'n cynnig cydbwysedd gwaith-bywyd".
"Mae pwerau dros hawliau yn y gweithle wedi eu cadw gan Senedd y DU, ac rydyn ni wedi galw'n gyson ar Lywodraeth San Steffan i wneud eu dyletswyddau a chryfhau amddiffyniadau gwaith, a'u gorfodaeth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd6 Medi 2023