Straen i gyfri am un o bob tri o absenoldebau staff y GIG
- Cyhoeddwyd

Mae absenoldebau yn sgil straen ymhlith staff y GIG wedi codi dros 60% mewn tair blynedd
Mae straen, iselder neu orbryder i gyfri am hyd at un o bob tri absenoldeb staff o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, yn ôl ystadegau.
Yn ei anterth, yn sgîl Covid, roedd un o'r cyflyrau iechyd meddwl hyn wrth wraidd 14,500 o absenoldebau staff.
Dydi'r niferoedd dal heb ddychwelyd i'r lefelau a welwyd cyn y pandemig, yn ôl ffigyrau sydd wedi eu casglu gan BBC Cymru.
Dywed un undeb bod y ffigyrau'n "sobreiddiol" a bod blinder dros y blynyddoedd diwethaf yn parhau i roi staff dan bwysau.
10,000 o absenoldebau oherwydd straen
Roedd yna hefyd 10,000 o absenoldebau'n ymwneud â straen o fewn pum bwrdd iechyd a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn ystod naw mis cyntaf 2023.
Fe roddodd chwe phrif fwrdd iechyd Cymru sydd ag ysbytai cyffredinol a'r gwasanaeth ambiwlans atebion i gais rhyddid gwybodaeth a amlygodd bod hyd at 33% o'r holl absenoldebau salwch staff yn sgîl straen, gorbryder, iselder neu gyflwr seiciatryddol arall.

Cyn y pandemig, roedd y cyflyrau hynny ond yn cyfri am oddeutu chwarter yr absenoldebau.
Yn 2017, roedd 9,023 o absenoldebau staff yn gysylltiedig ag iechyd meddwl.
Fe gynyddodd y ffigwr hwnnw i dros 13,000 yn ystod prif flwyddyn y pandemig, ac eto i dros 14,500 yn 2021 - cynnydd o 61% o'i gymharu â phedair blynedd ynghynt.
Er gostyngiad yn 2022 roedd y ffigwr - dros 14,200 - yn dal yn uchel.
Yn ôl y byrddau iechyd, roedd y ffigwr yn parhau i ostwng, yn araf, hyd at ddiwedd Medi 2023.
Datgelodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan bod 33% o absenoldebau staff yn ymwneud â straen neu orbryder yn ystod tair o'r pedair blynedd diwethaf.
31% oedd y ffigwr cyfatebol o fewn Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn 2020 ac yn 2021.

Mae staff y GIG yn parhau dan bwysau wrth wynebu heriau newydd, medd un undeb
Ar y cyfan, yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin, 6.4% oedd cyfradd salwch holl staff y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, sy'n is na'r 12 mis blaenorol.
Dywed ystadegwyr Llywodraeth Cymru mai gostwng yn gyffredinol y mae'r gyfradd hirdymor.
Roedd yn ei anterth yn ystod tonnau Covid, gyda chyfradd salwch rhwng 7.5% a 7.9% yn y misoedd mwyaf heintus.
Nôl yn 2021, fe bwysleisiodd Archwilio Cymru'r angen i roi mwy o gefnogaeth i warchod lles iechyd meddwl staff, dolen allanol, gan ddweud bod "gofalu am y rheini sy'n gofalu am eraill yn bwysicach nawr nag erioed".
Dywedodd trefnydd rhanbarthol undeb Unison Cymru, Tanya Bull: "Mae cyfraddau absenoldebau staff oherwydd straen a chyflyrau cysylltiedig eraill yn sobreiddiol, ond ddim yn syndod.
"Gweithlu'r GIG wnaeth gario baich y pandemig, yn aml dan risg i'w hunain a'u teuluoedd i roi gofal hanfodol i bobl Cymru.
"Mae'r blinder sydd wedi crynhoi dros flynyddoedd y pandemig yn parhau i roi straen ar staff wrth iddyn nhw wynebu heriau newydd.
"Ynghyd â'r argyfwng costau byw, does dim syndod bod staff y GIG yn parhau i ddiodde' gorflinder a straen.
"Mae heriau'n parhau o ran staffio a phwysau ariannol ar fyrddau iechyd a dyw cytundebau cyflog ar gyfer staff GIG Cymru ddim wedi dal i fyny gyda chostau byw sy'n cynyddu, gan greu pryderon ychwanegol yn ymwneud â chyllidebau'r aelwyd."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n cydnabod mai'r gweithlu ymroddgar yw asgwrn cefn ein gwasanaeth iechyd a gofal, a ry'n ni'n diolch iddyn nhw am eu hymdrechion parhaus wrth gynnal y gwasanaethau hynny.
"Ry'n ni wedi ymroi i sicrhau bod staff yn gallu dod o hyd i gefnogaeth o safon pan maen nhw ei angen o fwyaf, ac yn cyfrannu £1.5m bob blwyddyn i'r gwasanaeth Canopi - sy'n cynnig cefnogaeth seicolegol am ddim i staff ar hyd y wlad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2023