Aberpergwm: 'Dylai Llywodraeth Cymru fod wedi atal estyniad'

  • Cyhoeddwyd
ymgyrchwyr
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr wedi disgrifio'r her gyfreithiol fel eu "safiad olaf"

Mae llys wedi clywed y gallai, ac y dylai, gweinidogion Llywodraeth Cymru fod wedi ymyrryd i atal estyniad i bwll glo olaf y Deyrnas Unedig.

Mae 'na fwriad i gloddio am 42 miliwn tunnell ymhellach o lo yn Aberpergwm ger Glyn-nedd yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Fe gollodd ymgyrchwyr newid hinsawdd eu her gyfreithiol wreiddiol i ddyfodol y safle, ond cafon nhw ganiatâd i apelio.

Mynnu mae cyfreithwyr Llywodraeth Cymru nad oedd ganddyn nhw unrhyw awdurdod dros sut y cafodd cynlluniau'r lofa eu caniatáu.

Mae trwydded glofa Aberpergwm yn dyddio nôl i ganol y 1990au, ond cafodd ei newid yn 2013 i ehangu maint yr ardal lle gellid cloddio yn y dyfodol, os oedd amodau penodol yn cael eu hateb.

Yn 2020 fe ofynnodd y datblygwr Energybuild i Awdurdod Glo'r DU am ganiatâd i fwrw ati i gloddio mewn rhan o'r ardal ehangach yma.

Penderfynodd yr awdurdod fod y cwmni wedi ateb y gofynion a gafodd eu gosod yn wreiddiol, gan ddweud bod ganddo "ddyletswydd gyfreithiol" i ganiatáu'r gwaith.

'Safiad olaf'

Cafodd grymoedd dros byllau glo eu datganoli o San Steffan i Fae Caerdydd fel rhan o Ddeddf Cymru 2017.

Mewn gwrandawiad Llys Apêl yng Nghaerdydd, dadl cyfreithwyr ar ran y Coal Action Network oedd bod hyn yn golygu y gallai gweinidogion fod wedi camu mewn ac atal mwy o gloddio yn Aberpergwm wedi hynny.

Roedd ymgyrchwyr wedi ymgynnull o flaen y llys gan ddisgrifio'r her gyfreithiol fel eu "safiad olaf", gan alw ar Lywodraeth Cymru i "weithredu ar ei pholisïau newid hinsawdd".

Tu mewn roedd 'na ddadlau ynglŷn â phryd yn union daeth y caniatâd i ehangu'r lofa i fodolaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Mae glofa Aberpergwm yn cyflogi 184 o bobl, gan gynnwys 20 o brentisiaid

Tra nad oes amheuaeth y byddai gan weinidogion rôl wrth ganiatáu unrhyw geisiadau newydd am lofeydd yng Nghymru, a ydy'r hyn sydd wedi'i gynnig yn Aberpergwm yn cyfri fel hynny?

"Dyw gweithrediadau glofaol erioed wedi bodoli a dim glo o gwbl wedi'i gymryd o'r ardal estynedig yna," meddai Estelle Dehon KC ar ran yr ymgyrchwyr.

Mynnodd Gregory Jones KC ar ran Llywodraeth Cymru na allai'r awdurdod glo fod wedi "troi yn ôl" o'r drwydded oedd wedi'i gymeradwyo cyn bod gan weinidogion Cymreig unrhyw ddylanwad.

"Roedd y drwydded wedi'i gynnig, gyda chaniatâd a phecyn o wahanol amodau oddi fewn iddo," meddai.

Yn dilyn y gwrandawiad fe fydd y Llys Apêl yn cyhoeddi dyfarniad, sy'n gallu cymryd rhai misoedd.

Pynciau cysylltiedig