Cynghrair y Cenhedloedd: Cymru i herio Twrci eto

  • Cyhoeddwyd
CymruFfynhonnell y llun, PA Media

Bydd Cymru yn wynebu Gwlad yr Iâ, Montenegro a Thwrci yng Nghynghrair y Cenhedloedd eleni.

Daeth yr enwau o'r het ddydd Iau, gyda Chymru yn yr ail haen - Cynghrair B - y tro hwn ar ôl disgyn o'r brif haen yn 2022.

Bydd yr holl gemau grŵp yn cael eu chwarae rhwng Medi a Thachwedd 2024.

Twrci orffennodd ar frig grŵp rhagbrofol Cymru ar gyfer Euro 2024, gyda Chymru'n drydydd tu ôl i Croatia.

Y tro diwethaf i Gymru herio Gwlad yr Iâ oedd mewn gêm gyfeillgar yn 2014, tra bod Montenegro wedi bod yn yr un grŵp rhagbrofol â Chymru ar gyfer Euro 2012.

Fis nesaf bydd Cymru yn parhau â'u hymgyrch i gyrraedd Euro 2024 yn Yr Almaen trwy'r gemau ail gyfle.

Fe fyddan nhw'n herio'r Ffindir yn y rownd gynderfynol yng Nghaerdydd nos Iau, 21 Mawrth, ac os yn fuddugol, bydd ffeinal gartref yn erbyn un ai Gwlad Pwyl neu Estonia ar y nos Fawrth ganlynol.

Cynghrair y Cenhedloedd 2024: Gemau B4

Dydd Gwener, 6 Medi - Cymru v Twrci

Dydd Llun, 9 Medi - Montenegro v Cymru

Dydd Gwener, 11 Hydref - Gwlad yr Iâ v Cymru

Dydd Llun, 14 Hydref - Cymru v Montenegro

Dydd Sadwrn, 16 Tachwedd - Twrci v Cymru

Dydd Mawrth, 19 Tachwedd - Cymru v Gwlad yr Iâ