Sir Benfro: Argymell 16% o gynnydd yn nhreth y cyngor

  • Cyhoeddwyd
Pencadlys Cyngor Sir PenfroFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Penfro
Disgrifiad o’r llun,

Byddai cynnydd o 16.31% gyfystyr a £4.20 ychwanegol yr wythnos ar gyfer tŷ Band D yn y sir

Mae aelodau o gabinet Cyngor Sir Penfro wedi argymell 16.31% o gynnydd yn nhreth y cyngor ar gyfer 2024/25.

Roedd adroddiad wedi argymell sawl dewis posib, gan gynnwys 18.94% neu 20.98% o gynnydd, wrth i'r awdurdod ragweld bwlch ariannol o dros £31m.

Byddai cynnydd o 16.31% gyfystyr a £4.20 ychwanegol yr wythnos ar gyfer tŷ Band D yn y sir.

Ond er dewis y cynnydd isaf posib, mae cynghorwyr yn cydnabod y bydd yn dal i fod yn her i drigolion.

"Fe fydd ein penderfyniad ni mewn rhyw ffordd neu'i gilydd yn cael effaith negyddol bosib ar rai o drigolion Sir Benfro," meddai'r Cynghorydd Guy Woodham o Grŵp Llafur y cyngor.

Ychwanegodd y Cynghorydd Michelle Bateman, sy'n aelod annibynnol: "Bydden i ddim eisiau i neb feddwl bod hwn yn benderfyniad rhwydd na'n bod ni'n gweld hyn fel ffordd hawdd o ddod ag arian i mewn i'r awdurdod."

Disgrifiad o’r llun,

Neil Prior: "Heb amheuaeth y penderfyniad anoddaf yr ydym wedi gorfod ei wynebu ers cryn amser"

"Rydym bob amser yn ymwybodol o'r effaith y mae ein penderfyniadau yn ei gael."

Aeth y Cynghorydd Neil Prior ymhellach, gan ei alw'n "heb amheuaeth y penderfyniad anoddaf yr ydym wedi gorfod ei wynebu ers cryn amser".

Er mai dyma'r cynnydd isaf o'r tri dewis mae yna bryderon y bydd newidiadau sylweddol pan ddaw mis Ebrill.

Disgrifiad o’r llun,

Cynghorydd Aled Thomas: "I fi, dim opsiwn da yw e, lleia' falle o ran cynnydd ond opsiwn gwael a grim i bobl Sir Benfro"

Dywedodd y Cynghorydd Aled Thomas: "Ma' mynd i fod lot o doriadau yma i wasanaethau yn Sir Benfro, bins bob pedwar wythnos nawr, cau y day centres, lot o doriadau mawr.

"I fi, dim opsiwn da yw e, lleia' falle o ran cynnydd ond opsiwn gwael a grim i bobl Sir Benfro."

Ychwanegodd y Cynghorydd Huw Murphy: "Mae £300 yn dri mis o drydan i lot o bobl, yn fis o fwyd. Ma' hwn yn arian maen nhw'n colli o'u pocedi mewn treth cyngor.

"Mae'n rhaid i bobl ddeall hynny. Mae consequences i godiad mor uchel â hyn."

'Sefyllfa ariannol ddifrifol'

Trigolion Sir Benfro sy'n talu treth y cyngor band D isaf yng Nghymru ar hyn o bryd, sef £1,342.86.

Mae cynghorwyr eisoes wedi disgrifio'r sefyllfa bresennol fel "y sefyllfa ariannol fwyaf difrifol yn hanes yr awdurdod" a bydd dal angen sicrhau arbedion sylweddol yng ngwariant yr awdurdod.

Bydd premiwm treth cyngor ar ail gartrefi o 200%, gyda 85% o'r premiwm hwnnw a 100% o'r premiwm ar eiddo gwag hefyd yn mynd tuag at ariannu'r gyllideb.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dyw Llywodraeth y Deyrnas Unedig heb ddarparu setliad ariannol digonol i Gymru, ac mae ein cyllideb y flwyddyn nesa' gwerth £1.3b yn llai yn sgil chwyddiant.

"Ry'n ni'n deall bod y setliad yn dal yn is na'r hyn sydd ei angen er mwyn delio'n llawn â'r pwysau mae chwyddiant wedi ei roi ar wasanaethau lleol, ac y bydd rhaid i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau anodd wrth lunio eu cyllidebau."

Mae Llywodraeth y DU yn dadlau fod gan Lywodraeth Cymru y setliad ariannol mwyaf yn hanes datganoli.

Bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan y cyngor llawn pan fydd yn gosod y gyllideb flynyddol ar 7 Mawrth.

Pynciau Cysylltiedig