Gallai treth y cyngor godi i 470,000 o gartrefi Cymru
- Cyhoeddwyd
Fe allai treth y cyngor gynyddu ar gyfer hyd at 470,000 o gartrefi yng Nghymru - ond bydd y mwyafrif yn gweld dim newid, neu doriad - dan gynlluniau newydd sy'n cael eu cyhoeddi ddydd Mawrth.
Am y tro cyntaf ers 20 mlynedd mae cartrefi'n cael eu hail-brisio, ac fe allai bandiau newydd gael eu creu er mwyn ceisio gwneud y system yn decach.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi bwriadu cyflwyno'r newidiadau ym mis Ebrill 2025, ond mae ymgynghoriad yn dweud y gallan nhw gael eu cyflwyno yn arafach.
Mae tri opsiwn dan ystyriaeth - ac mewn dau o'r rheiny byddai saith allan o bob 10 cartref mewn bandiau is yn gweld eu treth yn gostwng neu'n aros ar ei lefel bresennol.
Mae'r opsiynau hefyd yn cynnwys cyflwyno bandiau treth uwch ar gyfer cartrefi gwerth dros £1.2m.
Mae 1.5 miliwn o gartrefi yng Nghymru, sy'n golygu y byddai tua 470,000 o'r cartrefi drytaf yn gweld cynnydd mewn treth cyngor.
Mae prisiau eiddo wedi cynyddu'n sylweddol ers ailbrisiad diwethaf Cymru yn 2003.
Yn Lloegr a'r Alban, mae biliau'n dal i fod yn seiliedig ar werth eiddo o 1991.
Mae'n rhy gynnar i ddweud faint y gallai biliau newid, a byddai system o ostyngiadau yn lleihau'r pris i nifer hefyd.
Mae tua hanner y cartrefi yng Nghymru yn derbyn gostyngiad o ryw fath.
Mae treth y cyngor yn codi tua £2.4bn i lywodraeth leol yn flynyddol.
'Pawb yn gwybod bod angen newid'
Yn ôl Llywodraeth Cymru, nid ymdrech i godi mwy o arian yw hyn, ond maen nhw wedi rhybuddio y bydd "enillwyr a chollwyr" yn sgil y newidiadau.
Gofynnwyd i Asiantaeth y Swyddfa Brisio edrych o'r newydd ar werth eiddo yng Nghymru fel rhan o'r cytundeb cydweithredu rhwng Llafur a Phlaid Cymru.
Roedd y ddwy blaid wedi cytuno i geisio diwygio'r dreth, sy'n cael ei feirniadu gan rai am fod yn annheg i'r rhai sydd ar yr incwm isaf, gan nad yw'n seiliedig ar yr hyn y gall pobl fforddio ei dalu a'r ffaith bod y baich mwyaf yn disgyn ar y rhai lleiaf cefnog.
Dadansoddiad ein gohebydd gwleidyddol Daniel Davies
Mae adroddiad gan felin drafod yr IFS yn dangos pam fod newid treth y cyngor mor anodd yn wleidyddol.
Mae'n dweud y gallai biliau ostwng mewn ardaloedd difreintiedig er mwyn gwneud y system yn fwy teg, ond byddai ardaloedd gwledig yn gweld eu biliau'n cynyddu am fod prisiau tai wedi codi cymaint.
Byddai'r opsiwn mwyaf radical sy'n cael ei ystyried gan y llywodraeth yn torri biliau 12% ar gyfartaledd ym Mlaenau Gwent ac 11% yn Sir Ddinbych.
Ond byddai biliau Sir Fynwy yn codi 16% ar gyfartaledd, a Bro Morgannwg 15% - dwy ardal sy'n debygol o fod yn seddi cystadleuol rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Dywedodd elusen sy'n helpu pobl sydd â dyledion, mai'r dreth oedd y prif reswm bod eu cleientiaid yn profi trafferthion ariannol.
Yn ôl Luke Young, cyfarwyddwr cynorthwyol Cyngor ar Bopeth Cymru, roedd y dreth fel "tŷ â tho diffygiol".
"Mae pawb yn gwybod bod angen newid y to ond rydyn ni'n dal i godi trawstiau er mwyn ei gynnal, gydag eithriad yma a rhywfaint o gefnogaeth ychwanegol acw," meddai.
Byddai cael mwy o fandiau yn helpu i "wasgaru'r boen" ymhlith grwpiau incwm gwahanol, yn ôl Mr Young, ond mynnodd na fyddai hynny yn datrys y broblem sylfaenol.
Ers 2019 mae cynnydd o 11% wedi bod yn nifer y bobl sy'n dod at yr elusen gydag ôl-ddyledion ar eu taliadau treth cyngor.
Mae disgwyl i'r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, wneud datganiad yn y Senedd brynhawn dydd Mawrth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2023