GISDA yn 'newid fy mywyd wedi i fi gael fy ngwrthod'
- Cyhoeddwyd
Mae Vex Vaughan, 19 o Gricieth, yn "hynod o hapus" wedi i GISDA - elusen sy'n cefnogi pobl ifanc bregus a digartref yng Nghaernarfon, Pwllheli a Blaenau Ffestiniog - roi "bywyd newydd" iddyn nhw wedi cyfnod anodd.
"Cyn i mi ddod i GISDA roedd o'n teimlo fel fy mod i'n cael fy ngwrthod o hyd - doedd y foster carers ddim i weld isio fi ac ro'n i'n stryglo yn ofnadwy gyda fy iechyd meddwl," meddai wrth Cymru Fyw.
"Ond ers blwyddyn a hanner dwi wedi bod yn un o hosteli GISDA ac mae hyn wedi newid bywyd fi'n llwyr."
Mae elusen GISDA wedi cael ei henwebu ar restr fer Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru.
Dywed y rheolwyr bod llawer mwy o alw am ei gwasanaeth ers Covid, a bod diffyg llety addas i bobl ifanc symud ymlaen iddo yn sgil rheolau newydd Rhentu Doeth Cymru yn "broblem fawr".
"Ma' gynnon ni restrau aros am ein llety a'n prosiectau ac mae cynnydd mawr wedi bod yn y galw ers Covid," medd Elizabeth George, rheolwr busnes GISDA.
"Be' 'dan ni wedi'i weld ydi bod yna fwy o bobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl ac yn bryderus.
"Ar gyfartaledd mae pobl ifanc yn aros yn ein hosteli am ddwy flynedd ac yna mae'r bobl ifanc yn symud ymlaen i fyw yn fwy annibynnol ond dyw hi ddim yn hawdd dod o hyd i lety addas a fforddiadwy bellach.
"Mae diffyg llety yn yr ardal yn broblem fawr. Fydden i'n meddwl mai effaith deddfwriaeth newydd Rhentu Doeth Cymru yw hyn wrth i landlordiaid deimlo bod gosod tai wedi mynd yn ormod o drafferth ac felly maen nhw'n mynd lawr y lôn Airbnbs.
"Mae hwnna yn cael effaith mawr ar y stoc tai fforddiadwy sydd ar gael i bobl ifanc 'dan ni'n eu cefnogi i allu symud ymlaen."
Adeg cyflwyno'r rheolau newydd i landlordiaid dywedodd Llywodraeth Cymru mai eu nod oedd codi safonau o fewn y sector rhentu preifat.
'Dwi'n berson cryfach'
Mae Vex yn un o 62 sy'n cael llety ar hyn o bryd gan GISDA.
"Mae GISDA wir wedi newid fy mywyd i," meddai.
"Maen nhw wedi rhoi sgiliau i fi fyw'n annibynnol ac wedi rhoi cyfleoedd gwaith i fi - bellach dwi'n actores wedi i GISDA wneud prosiect gyda chwmni Frân Wen a dwi'n dilyn cwrs mewn coleg ym Mangor.
"Cyn hir fydda i'n ymddangos mewn ffilm fer.
"Dwi'n gymaint o berson cryfach wedi i fi ddod yma a does 'na'm byd yn stopio fi rŵan rhag bod yn fi."
Ychwanegodd Elizabeth George: "Mae cael ein henwebu ar gyfer y wobr rhagoriaeth yn wych ac ry'n ni'n falch bo' ni'n gallu darparu pob elfen o'n gwaith yn Gymraeg.
"Be 'dan ni wedi ei ddysgu dros y blynyddoedd yw na fedrwch chi edrych ar un broblem.
"'Dan ni'n gweithio mewn ffordd therapiwtig ac yn edrych ar bob un person ifanc yn unigol ac yn gyfannol.
"Does yna ddim pwynt datrys un broblem fel cynnig swydd, er enghraifft, neu gynnig lle i fyw - rhaid datrys problemau eraill fel iechyd meddwl.
"Mae'r cyfan yn plethu mewn i'w gilydd - rydan ni yn edrych ar amgylchiadau a stori pob un person ifanc."
'Mwy o straen ar staff'
Mae GISDA yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Gyngor Gwynedd, y Loteri Genedlaethol, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a grantiau o ffynonellau eraill ond "mae mwy o wasgfa ariannol", medd Ms George "wrth i ni beidio cael mwy o arian".
"Mae mwy o alw am y gwasanaeth a dydi'r arian ddim yn mynd i fyny - er enghraifft, dydy'r grant cymorth tai ddim yn cael ei godi eleni a chafodd o ddim ei godi llynedd chwaith ac felly mae angen gwneud mwy o waith am lai o arian.
"Mae hynny'n rhoi mwy o straen ar staff ac mae'n gwneud recriwtio yn fwy anodd. Mae rhywun yn bryderus am yr effaith tymor hir.
"Flwyddyn nesaf bydd GISDA wedi bod mewn bodolaeth ers 40 mlynedd - yn amlwg dyw o ddim yn rhywbeth i ddathlu bod elusen yn parhau i orfod cynnig cymorth i bobl ifanc bregus ac mae'n rhaid codi ymwybyddiaeth bod y galw ar gynnydd.
"Dwi fy hun wedi bod yma ers dros saith mlynedd a'r un yw'r sgyrsiau a'r problemau - mae yna ddiffyg trafnidiaeth, diffyg cyfleoedd gwaith, diffyg llety - yr hyn dwi isio yw datrysiadau rhanbarthol a chenedlaethol i'r problemau yma."
Bydd y Gwobrau Rhagoriaeth Ieuenctid yn cael eu cyflwyno yn Llandudno, ddydd Iau 22 Chwefror.
"Mae'n ysbrydoledig gweld yr enghreifftiau gwych a niferus o waith ieuenctid sy'n cael eu cydnabod yn y gwobrau eleni," medd Jeremy Miles, gweinidog y Gymraeg ac addysg.
"Mae'n galonogol gweld pobl a sefydliadau yn cydweithio i sicrhau bod Cymru'n wlad lle gall pob plentyn, person ifanc a theulu ffynnu."
Ychwanegodd llefarydd y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi £13m o gyllid uniongyrchol eleni i helpu i sicrhau bod awdurdodau lleol a sefydliadau gwaith ieuenctid gwirfoddol yn cefnogi pobl ifanc yn eu hardaloedd lleol.
"Mae'r cyllid hwn," meddai, "wedi treblu ers 2018, gan adlewyrchu'r rôl hanfodol y mae'n ei chwarae wrth gefnogi pobl ifanc i gyrraedd eu potensial."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ionawr
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2017