'Gwaith Gisda mor bwysig yn sgil argyfwng costau byw'

  • Cyhoeddwyd
Ron WilliamsFfynhonnell y llun, Gisda
Disgrifiad o’r llun,

"Mae cefnogaeth Gisda i gannoedd o bobl ifanc Gwynedd yn gwbl hanfodol," medd y Parchedig Ron Williams ar ei ymddeoliad

Wrth i'w 37 mlynedd o wasanaeth i elusen Gisda yng Nghaernarfon ddod i ben dywed y Parchedig Ron Williams bod y gwaith "cyn bwysiced heddiw ag erioed" yn sgil costau byw cynyddol a phrinder tai fforddiadwy.

Mae'r elusen yn cefnogi pobl ifanc fregus rhwng 16 a 25 oed yng Ngwynedd, ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig mae wedi cefnogi 765 o bobl ifanc.

"Mae Gisda wedi bod yna ers 1985 yn ymateb i angen y cyfnod," medd Ron Williams, "ac mae'n dristwch, wrth gwrs, bod yr angen yna o hyd ond mae'r angen yn aruthrol.

"Mae hi mor bwysig fod llais pobl ifanc ddigartref a bregus yn cael eu clywed a'u bod yn cael cefnogaeth."

'Gwefr helpu pobl ifanc'

Yn ogystal â chefnogi pobl ifanc mewn hosteli, tai a fflatiau mae'r elusen yn darparu gwasanaethau fel cwnsela, addysg a chyngor ar dai, gwaith, arian a sgiliau bywyd, ac erbyn hyn mae swyddfeydd ym Mlaenau Ffestiniog a Phwllheli yn ogystal â Chaernarfon.

"Roedd hi mor braf gweld person ifanc yn ein cyfarfod blynyddol ni'r wythnos hon yn dweud oni bai am Gisda na fyddai hi lle'r oedd hi heddiw - roedd hi wedi bod drwy gyfnodau anodd," meddai Mr Williams.

"Profiad felly sydd wedi ennyn rhywun ar hyd y blynyddoedd i ddweud y gwir - mae wedi bod yn wefr helpu pobl ifanc i symud o ble maen nhw a rhoi hyder iddyn nhw i wynebu fory a'r dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Gisda

Gweithiwr ieuenctid o'r enw Brian Thirsk, meddai, oedd y sbardun i sefydlu Gisda.

"Dwi'n cofio fo'n dweud bod 'na rywun ifanc wedi torri mewn i ryw ganolfan yng Nghaernarfon ac wrth gwrs eisiau llety oedd y person ifanc a chlust i wrando, a dyma sefydlu Grŵp Ieuenctid Sengl Digartref Arfon.

"Yn y man dyma grŵp ohonon ni'n dod at ein gilydd i gynorthwyo gyda'r gwaith - nifer ohonon ni â chysylltiad ag eglwysi yng Nghaernarfon.

"Mae wedi bod yn fraint cyflawni'r fath waith a bod yn gefn i'r gweithwyr. Dwi wedi ystyried ymddeol sawl gwaith ond mae'r pleser dwi'n ei gael o'r gwaith wedi fy nghadw yno.

"Mae'n braf hefyd bod gwaith yr elusen wedi gallu ehangu gydag amser. Mae'r gweithwyr erbyn hyn yn cefnogi rhieni ifanc, yn codi ymwybyddiaeth o ddigartrefedd mewn ysgolion ac mae yna fentrau cymdeithasol sy'n cynnig cyfleoedd pellach yn y byd gwaith."

I nodi cyfraniad y Parchedig Ron Williams cyfansoddwyd cerdd iddo gan y Prifardd Ifor ap Glyn:

Ffynhonnell y llun, Gisda

Bydd cyfweliad y Parchedig Ron Williams i'w glywed yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg am 12:30 ddydd Sul ac wedyn ar BBC Sounds.