Seiont Manor: Ailddatblygu gwesty 'i greu 50 o swyddi'
- Cyhoeddwyd
Fe all cynllun i ailddatblygu gwesty yng Ngwynedd greu 50 o swyddi, medd datblygwyr.
Ddydd Llun nesaf bydd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd yn trafod cynlluniau i ehangu gwesty'r Seiont Manor yn Llanrug, ger Caernarfon.
Collodd tua 35 o bobl eu swyddi pan gaeodd y gwesty moethus yn 2020.
Ond nawr bydd cynghorwyr yn ystyried cynlluniau i ehangu'r safle drwy adeiladu 28 ystafell wely ychwanegol - fyddai'n golygu cyfanswm o 61 o ystafelloedd gwely i westeion.
Byddai'r cynlluniau hefyd yn cynnwys adeiladu 39 o gabannau gwyliau, a gwelliannau i'r cyfleusterau i westeion gan gynnwys cyrtiau tenis, bloc llety staff, llefydd parcio ychwanegol ac ystafell biomas.
Yn ôl y datblygwyr, byddai swyddi rheolaeth hefyd ar gael, gyda blaenoriaeth i gyn-weithwyr y gwesty.
Mae swyddogion cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cynlluniau gyda'r ymgeiswyr, Caernarfon Properties Ltd, yn awgrymu byddai'r datblygiad yn creu 50 o swyddi.
Pryderon lleol
Er hyn mae'r cynigion wedi denu gwrthwynebiad gan Gyngor Cymuned Llanrug, sydd wedi mynegi pryderon am y cynnydd tebygol mewn traffig, gan ddweud bod maint y datblygiad yn "anaddas i'r ardal".
Roedd pryderon a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus hefyd yn cynnwys materion priffyrdd, sylwadau bod digonedd o ddarpariaeth llety gwyliau eisoes yn yr ardal, a bod y datblygiad yn "debygol o arwain at gynnydd yn y galw am ail gartrefi ac unedau gwyliau hunanarlwyo, cynnydd mewn prisiau eiddo, mewnfudo a phroblemau ynghylch diffyg tai fforddiadwy".
Ond mae adroddiad swyddogion cynllunio'r cyngor yn argymell caniatáu gydag amodau, gan ddweud byddai'r "datblygiad yn cynnig twristiaeth o safon a fydd yn cefnogi economi'r ardal".
Maent hefyd yn dod i'r casgliad y byddai'n cynnig "effaith llesol cyffredinol ar y Gymraeg yn yr ardal" ac yn "cefnogi'r economi leol tra'n hyrwyddo cymuned Gymraeg gynaliadwy".
Mae disgwyl penderfyniad pan fydd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd yn cyfarfod ddydd Llun, 26 Chwefror.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2019