URC yn ymddiheuro yn dilyn honiad o ymosodiad rhyw
- Cyhoeddwyd
Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi ymddiheuro ar ôl i fenyw oedd yn arfer gweithio iddynt ddweud fod cyd-weithiwr wedi ymosod arni'n rhywiol ddwywaith tra'n gweithio yn Stadiwm Principality.
Mae ITV yn adrodd bod y fenyw, sydd ddim yn cael ei henwi, yn honni fod y cyd-weithiwr wedi ymosod arni mewn cwpwrdd.
Dywedodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney fod yr ymddygiad sy'n cael ei ddisgrifio yn yr adroddiad yn "hollol annerbyniol"
"Mae'n hynod o bwysig i mi, fy mod ar ran pawb yn Undeb Rygbi Cymru, yn ymddiheuro'n ffurfiol i'r unigolyn o dan sylw," meddai.
Daw yn dilyn sgandal am rywiaeth o fewn URC, a arweiniodd at adolygiad annibynnol o'r undeb.
Daeth yr adolygiad i'r casgliad fod diwylliant y gwasanaeth yn gwahaniaethu ar sail rhyw, bod casineb tuag at fenywod yno, ac agweddau hiliol a homoffobaidd.
Wedi i ITV adrodd yr honiadau newydd ddydd Mawrth, dywedodd Ms Tierney ei bod yn "amlwg na lwyddodd ein diwylliant o fewn y gweithle ar y pryd i atal y digwyddiad".
"Hoffwn bwysleisio unwaith eto ein bod yn ymddiheuro'n llawn i unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan ddigwyddiadau a heriau sydd wedi eu nodi yn yr adolygiad annibynnol diweddar.
"Ry'n ni'n parhau i annog unigolion i ddefnyddio ein llinell ffôn gyfrinachol 'Chwythu'r Chwiban' os nad ydynt yn gyfforddus yn trafod unrhyw fater gyda'u rheolwr llinell.
"Mae Undeb Rygbi Cymru yn parhau i groesawu trafodaeth gydag unrhyw unigolyn sydd wedi cael ei effeithio gan unrhyw fater sydd wedi cael ei godi - fel y gallwn ymddiheuro iddynt a pharhau i ddysgu a gwella'n darpariaeth yn y dyfodol."
Ychwanegodd fod URC yn credu bod yr achos dan sylw yn un o'r rheiny a gafodd eu hystyried gan yr adolygiad, a bod y panel adolygu "wedi cynnig argymhellion penodol i ni ac ry'n ni fel undeb wedi ymrwymo i gyflwyno'r newidiadau hynny".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ionawr
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2023