'Methiannau systematig yn niwylliant Undeb Rygbi Cymru'

  • Cyhoeddwyd
URCFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'n bosib bod chwaraewyr rygbi benywaidd wedi profi "enghreifftiau pryderus" o "driniaeth anffafriol", yn ôl adroddiad a ysgrifennwyd gan Undeb Rygbi Cymru (URC) flynyddoedd cyn i'r honiadau o rywiaeth gael eu datgelu gan BBC Cymru.

Mae rhannau o adolygiad annibynnol 2021 - oedd heb ei weld o'r blaen - wedi cael eu cyhoeddi fel rhan o adroddiad y Senedd a ddaeth i'r casgliad "bod methiannau systematig yn niwylliant URC".

Yn gynharach eleni fe wnaeth BBC Cymru ddatgelu fod yna honiadau o rywiaeth, hiliaeth a chasineb at fenywod o fewn URC.

Dywedodd URC fod yr adroddiad o 2021 wedi arwain at "newid sylweddol".

Erbyn hyn mae manylion wedi dod i law am adolygiad o rygbi merched Cymru yn 2021.

Mae'n dod i'r casgliad bod URC "yn wynebu nifer sylweddol o risgiau, nid yn unig o ran rhaglen perfformiad y merched, ond fel corff llywodraethol cenedlaethol ar gyfer rygbi yng Nghymru".

Ffynhonnell y llun, Aviva
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Amanda Blanc adael fel cadeirydd Bwrdd Rygbi Proffesiynol URC fis Tachwedd 2021

Yn y gorffennol roedd URC wedi gwrthod galwadau i gyhoeddi'r adroddiad - gan gynnwys galwad gan gyn-aelod o fwrdd URC, Amanda Blanc, a oedd wedi beirniadu'r diwylliant yn yr undeb.

Mae URC wedi ymddiheuro am yr honiadau a ddaeth i'r amlwg yn rhaglen Wales Investigates y BBC ac wedi penodi panel annibynnol i edrych ar y diwylliant oddi fewn i'r sefydliad.

'Dim ymrwymiad i rygbi merched'

Mae rhannau o adolygiad 2021 wedi'u cynnwys yn adroddiad Pwyllgor Chwaraeon y Senedd ar URC.

Mae un casgliad yn yr adolygiad o dan y teitl "Risg Cyfreithiol" yn nodi: "Mae'n bosib y gallai unigolion o fewn y gêm (yn y presennol a'r gorffennol) herio URC gydag enghreifftiau pryderus o'r hyn a allai gael ei ddiffinio fel triniaeth anffafriol a diffyg darpariaeth gyfartal."

Mae casgliad arall yn nodi bod "yr amharodrwydd i ymrwymo'n llawn i berfformiad merched o ran buddsoddiad, proffil, diwylliant ac arweinyddiaeth yn ategu'r farn bod URC yn gorff llywodraethol ar gyfer rygbi dynion a bod yna ddim diddordeb yng ngêm y merched".

Disgrifiad,

Mae angen cynllun gweithredu clir gan URC, meddai Delyth Jewell, cadeirydd Pwyllgor Chwaraeon y Senedd

Wrth roi tystiolaeth ger bron y Pwyllgor Chwaraeon, dywedodd prif weithredwr dros dro URC, Nigel Walker, bod 40 o argymhellion yn adolygiad 2021 a dywedodd wrth y pwyllgor, "mae'n amlwg bod Rygbi Cymru wedi methu rygbi merched".

Mae adroddiad y Senedd hefyd yn rhoi sylw i'r nifer o gwynion am rywiaeth, casineb at fenywod, homoffobia a hiliaeth yn URC.

Yn y pum mlynedd diwethaf roedd URC wedi derbyn chwe adroddiad am ymddygiad rhywiaethol, hiliol a homoffobig.

Mae tri aelod o staff URC wedi'u disgyblu wedi honiadau o ymddygiad rhywiaethol, hiliol neu homoffobig yn y pum mlynedd ddiwethaf.

'Ymddygiad gwenwynig'

Wrth ymateb i gwestiwn gan Bwyllgor Chwaraeon y Senedd am gytundebau peidio â datgelu, dywedodd URC eu bod wedi defnyddio pedwar "cytundeb setlo" yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf a bod y rhai hynny yn ymwneud â honiadau o rywiaeth, homoffobia a hiliaeth.

Dywedodd y Pwyllgor Chwaraeon bod "ymddygiad gwenwynig" wedi bod o fewn URC ers tro a bod cyfleoedd i ymdrin ag "ymddygiad pryderus" wedi'u colli.

Roedd hyn yn cynnwys "cwynion swyddogol, URC yn gweithredu sawl cytundeb setliad oedd yn gysylltiedig â honiadau o rywiaeth, homoffobia a hiliaeth am nifer o flynyddoedd; yr adolygiad i gêm y merched ac ymddiswyddiad Amanda Blanc".

Dywed yr adroddiad bod "nifer o fethiannau systematig yn niwylliant URC" a "bod y ffaith nad yw uwch reolwyr wedi adnabod na thaclo'r broblem yn fethiant llywodraethu difrifol".

Dywed y pwyllgor ei bod yn "annerbyniol mai dogfen gan y BBC a wnaeth i URC weithredu'n gadarnhaol".

Ffynhonnell y llun, Huw Evans agency
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Nigel Walker bod 'record Henry Engelhardt yn siarad drosto'i hun'

Wrth siarad yn ddiweddar ar bodlediad y BBC fe ddefnyddiodd Henry Engelhardt, cyfarwyddwr anweithredol annibynnol URC a chyn brif weithredwr cwmni yswiriant Admiral, y gair "cyffrogarwch" [sensationalism] wrth gyfeirio at raglen y BBC.

Ond yn fuan wedyn mynnodd pennaeth dros dro Undeb Rygbi Cymru, Nigel Walker, fod y corff, gan gynnwys Mr Engelhardt, yn parhau i deimlo edifeirwch am yr hyn oedd yn digwydd yn yr undeb.

Yn ei adroddiad fe wnaeth y Pwyllgor Chwaraeon nifer o argymhellion gan gynnwys y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod unrhyw gyllid ar gyfer Undeb Rygbi Cymru yn y dyfodol yn cydymffurfio â phob agwedd o'r strategaeth Trais yn erbyn Menywod.

Fe wnaeth y Pwyllgor hefyd alw ar Lywodraeth Cymru i adolygu sut mae Gweinidogion a gweision sifil yn ymateb i bryderon sy'n cael eu codi gyda nhw am ymddygiad amhriodol mewn sefydliadau yng Nghymru.

'Yr argymhellion wedi'u cyflawni'

Dywedodd URC: "Ry'n ni eisoes wedi derbyn... bod gennym lawer o waith i'w wneud er mwyn sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â methiannau'r gorffennol ac unwaith eto yn ymddiheuro'n ddiffuant am y cyfleoedd a gollwyd ac i unrhyw un sydd wedi'i effeithio.

"Fe wnaethon ni gomisiynu'r adroddiad annibynnol i berfformiad gêm y menywod yn 2021 er mwyn adnabod pryderon a'n helpu i ail-siapio ein cefnogaeth i chwaraewyr rhyngwladol.

"Fe arweiniodd at newid sylweddol ac ry'n ni'n falch o allu dweud bod argymhellion yr adroddiad wedi'u cyflawni.

"Ry'n ni'n falch iawn o'r ffordd mae ein carfan wedi ymateb i'r newidiadau hyn ac yn gobeithio fod y canlyniadau yn amlwg i'w gweld."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n ystyried yr adroddiad yn llawn ac yn ymateb i'r pwyllgor maes o law.