Page yn falch i weld chwaraewyr Cymru yn newid clybiau
- Cyhoeddwyd
Mae rheolwr Cymru Robert Page wedi croesawu’r ffaith bod nifer o’i chwaraewyr wedi symud clybiau yn ystod ffenestr drosglwyddo mis Ionawr er mwyn chwarae’n fwy cyson.
Roedd Page wedi gofyn i aelodau blaenllaw ei garfan, nad oedd yn chwarae’n rheolaidd, i symud cyn y gêm gynderfynol gemau ail gyfle Euro 2024 yn erbyn y Ffindir – a’r rownd derfynol bosib – ym mis Mawrth.
Symudodd yr amddiffynnwr Connor Roberts o Burnley i Leeds United, tra bod dau chwaraewr Bournemouth - yr ymosodwr Kieffer Moore a’r asgellwr David Brooks - hefyd wedi sicrhau symudiadau ar fenthyg, i Ipswich Town a Southampton.
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2023
“Mae Brooksy wedi gadael Bournemouth i fynd i Southampton, sy'n gyfuniad a wnaed yn y nefoedd i Brooksy a Southampton yn fy marn i - y ffordd maen nhw'n chwarae,” meddai Page.
“Mae Kieffer wedi mynd allan a chael effaith ar unwaith yn Ipswich, gan sgorio dwy ar ei ymddangosiad cyntaf.
“Mae wedi bod yn ffenestr bositif iawn i ni.
"Maen nhw wedi ystyried yr hyn rydyn ni wedi gofyn iddyn nhw ei wneud - mynd i chwarae gemau - ac mae'n debyg mai dyma'r sefyllfa iachaf rydyn ni wedi bod ynddo o ran chwaraewyr yn chwarae pêl-droed domestig cyn ymuno â’r garfan.
“Yr hyn sydd ei angen arnom nawr yw sicrhau eu bod yn cadw’n heini ac ar gael i’w dewis erbyn mis Mawrth.”
Roedd Page yn siarad ym Mharis nos Iau yn wedi i'r enwau gael eu tynnu o’r het ar gyfer grwpiau Cynghrair y Cenhedloedd eleni.
Bydd Cymru yn wynebu Gwlad yr Iâ, Montenegro a Thwrci yng Nghynghrair B, yr ail haen, ar ôl disgyn o'r brif haen yn 2022.
"Rwy'n meddwl ei fod yn grŵp positif. Ni’n eithaf bodlon," meddai Page.
"Ni’n gwybod popeth am Dwrci ar ôl eu chwarae yn ddiweddar.
"Roeddwn i'n meddwl bod ein perfformiad gartref [1-1 ym mis Tachwedd 2023] yn dda iawn ac, ar ddiwrnod arall, gallem fod wedi ennill y gêm.
"Oddi cartref fe aethon ni i lawr i 10 dyn ar ôl 40 munud a, heb hynny, byddai'r canlyniad [colli 2-0 ym Mehefin 2023] wedi bod yn wahanol. Felly rydyn ni'n gwybod popeth amdanyn nhw.
“O ran y timau eraill, bydd yn rhaid i ni wneud ychydig mwy o waith ymchwil.
"Os ydyn ni'n perfformio fel wnaethon ni yn erbyn Croatia [buddugoliaeth o 2-1 ym mis Hydref 2023] a Thwrci gartref, fe ddylai'r canlyniadau ofalu am eu hunain. Rydyn ni'n eitha' hyderus."