Gohirio llawdriniaethau ac apwyntiadau cyn streic meddygon iau
- Cyhoeddwyd
Fe fydd streic 72 awr gan feddygon iau yng Nghymru wythnos nesaf yn cael "effaith sylweddol" ar wasanaethau yn ôl y Gweinidog Iechyd.
Mae un bwrdd iechyd yn amcangyfrif y bydd 80% o lawdriniaethau a 75% o apwyntiadau cleifion allanol yn cael eu gohirio yn ystod y streic a fydd yn para o 07:00 ddydd Llun tan 07:00 ddydd Iau.
Ond mae Eluned Morgan AS yn mynnu y bydd gofal brys i gleifion sy'n ddifrifol wael yn cael ei gynnal yn ystod y cyfnod o weithredu diwydiannol.
Yn ôl Cymdeithas Feddygol y BMA, mae'r gweithredu yn "ddewis olaf" yn yr ymdrech i sicrhau cyflogau teg ar adeg o straen sylweddol ar feddygon iau.
Yn y cyfamser mae Llais, y corff sy'n cynrychioli cleifion yng Nghymru, yn poeni am effaith gohirio miloedd o driniaethau ac apwyntiadau ar iechyd a lles cleifion.
Effaith y streic
Mae meddygon iau yn cynrychioli amrywiaeth eang o feddygon sydd wedi graddio o ysgol feddygol ac yn y broses o hyfforddi i fod yn feddygon arbenigol neu'n feddygon teulu.
Tan eu bod nhw'n cael eu dyrchafu i fod yn feddygon ymgynghorol mae nhw'n cael eu hystyried yn feddygon iau - ond gall rhai fod â naw mlynedd neu ragor o brofiad.
Mae tua 4,000 ohonyn nhw yn gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, sy'n cynrychioli 40% o'r gweithlu meddygol.
Does dim modd gwybod yn union sawl un fydd yn dewis mynd ar streic, ond fe fydd yr effaith ar wasanaethau yn sylweddol.
Bydd gweithredu diwydiannol yn amharu fwyaf ar wasanaethau ysbytai a bydd unigolion sy'n hyfforddi i fod yn feddygon teulu hefyd yn streicio.
Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, sy'n gyfrifol am ysbyty mwyaf Cymru - Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd - fydd un o'r byrddau iechyd a fydd yn teimlo'r effaith fwyaf.
Mae 900 o feddygon iau yn gweithio i'r bwrdd a'r disgwyl yw y bydd yn rhaid llenwi 800 o shifftiau yn ystod tridiau'r streic.
Bydd hyn yn golygu bod angen i feddygon ymgynghorol, meddygon arbenigol a nyrsys â sgiliau ychwanegol ymgymryd â dyletswyddau meddygon iau, gan gynnwys gweithio shifftiau nos.
Mae swyddogion yn mynnu na fydd unrhyw un yn gweithio y tu hwnt i'w gallu proffesiynol.
O ganlyniad mae'r bwrdd iechyd wedi gohirio 80% o lawdriniaethau a 75% o apwyntiadau cleifion allanol.
'Aros yn hwy am driniaeth'
Mae Donna Coleman o Llais, y corff cenedlaethol sy'n siarad ar ran cleifion, yn poeni am yr effaith ar adeg pan fo rhestrau aros y gwasanaeth iechyd eisoes yn fwy nag erioed.
"Y peth sy'n becso ni fwya' yw bod y pobl sy'n aros i gael triniaeth mewn ysbyty, bydd rhaid iddyn nhw aros rhagor o amser nawr.
"Amser ma' rhywun wedi bod yn dost neu isie cael rhyw fath o driniaeth, y broblem yw maen nhw wedi neud plans i mynd mewn i'r ysbyty a ma' teulu'n aros i nhw fod yn well."
Ychwanegodd: "Ma' fe'n effeithio ar mental health nhw, effeithio ar arian nhw, a popeth fel'na. A wedyn mae'n rhaid i' nhw aros yn hirach, a ma' hwnna'n gofidio pobl a gofidio'r teulu i gyd."
Mae Llais yn annog byrddau iechyd i roi gwybodaeth fanwl i unigolion fydd yn cael eu hapwyntiadau neu eu triniaethau wedi'u gohirio.
"Ni'n credu dylai'r byrddau iechyd i gyd yng Nghymru siarad â'r pobl sy'n aros, neu sydd wedi cael triniaeth wedi canslo a 'neud yn siŵr bod rhyw fath o gymorth iddyn nhw a bod pobl yn gallu siarad 'da rhywun.
"[Mae angen] rhif teliffon iddyn nhw alw i ffindo mas beth sy'n digwydd iddyn nhw nesa' achos ni wedi clywed o'r blaen - amser ma' pobl yn aros i cael triniaeth, ma' bywydau nhw ar stop.
"Os nad y'n nhw'n gwybod be' sy'n digwydd, wedyn ma' hwnna'n anodd iawn i ymdopi ag ef. Ac os oes rhywun 'da nhw i siarad 'da i ddweud be' sy'n digwydd nesa, ma' hwnna'n bwysig iawn."
'Rhai wedi gadael meddygaeth'
Yn ôl Cymdeithas Feddygol y BMA mae meddygon iau wedi cael gostyngiad cyflog mewn termau real o 29.6% ers 2008/09, o ganlyniad i godiadau cyflog llai na chwyddiant.
Cafodd pleidlais ymhlith meddygon iau ei chynnal ar ôl i Lywodraeth Cymru roi codiad cyflog o 5% iddyn nhw - sy'n llai na'r 6% a gafodd ei argymell gan gorff annibynnol.
Fe bleidleisiodd 98% o'r meddygon o blaid mynd ar streic.
Yn ôl Dr Deiniol Jones, sy'n aelod o bwyllgor meddygon iau y BMA ac sy'n gweithio i Iechyd Cyhoeddus Cymru, oni bai fod Llywodraeth Cymru yn cynnig cyflog teg fe fydd rhagor o feddygon yn dewis gweithio dramor neu'n gadael y proffesiwn yn gyfan gwbl.
"Dyw'r tâl ddim yn dda, mae'r gwaith yn anodd iawn, mae oriau hir, a does dim digon o feddygon. Mae pobol yn gwybod os nag o'n ni'n delio gyda tâl meddygon, bydd mwy o feddygon yn gadael."
"Fi'n 'nabod llawer o feddygon sy' 'di gadael y wlad, ac yn anffodus, fi'n nabod ychydig o feddygon sy' 'di gadael meddygaeth.
"Maen nhw 'di mynd i waith gwell, gyda tâl da, a mae'n drist iawn. Maen nhw mo'yn bod yn feddygon, maen nhw mo'yn helpu pobol, felly ar hyn o bryd dydyn nhw ddim yn gallu gweithio yn yr NHS gyda'r tâl 'ma, gyda'r gwaith yma yn anffodus."
Dyw Dr Jones ddim yn derbyn dadl Llywodraeth Cymru na allan nhw fforddio cynnig rhagor o dâl.
"Ni'n deall mae'n benderfyniad anodd, ond mae ganddyn nhw ddewis, mae ganddyn nhw llawer o opsiynau a mae rhaid i ni wneud rhywbeth.
"Mae meddygon yn gadael - does dim digon o feddygon. Dyw llawer o bobol ddim yn gallu gweld meddyg o gwbl ar hyn o bryd. Mae eisiau i ni ddelio gyda thâl.
"Dydyn ni ddim mo'yn streicio. Ni jyst mo'yn cael tegwch... 'den ni ddim mo'yn mwy o tâl, ni jyst mo'yn adferiad tâl."
Ar ôl cael 8.8% o godiad mae meddygon iau yn Lloegr wedi gwrthod cynnig Llywodraeth y DU o 3% ychwanegol ar gyfartaledd.
O ganlyniad mae meddygon iau yn Lloegr wedi bod ar streic ar sawl achlysur yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys streic wnaeth bara chwe diwrnod ar ddechrau'r flwyddyn hon.
Tra bod disgwyl pleidlais streic i ddigwydd cyn bo hir yng Ngogledd Iwerddon mae meddygon iau yn Yr Alban wedi derbyn codiad cyflog o 17.5% dros gyfnod o ddwy flynedd.
Llywodraeth Cymru 'methu fforddio'
Mae'r Gweinidog Iechyd yn mynnu na all fforddio cynnig rhagor o dâl i feddygon iau.
Petai'r meddygon yn cael cyflogau uwch, yn ôl Eluned Morgan, fe fyddai'n rhaid torri gwasanaethau iechyd eraill.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi clustnodi cannoedd o filiynau o bunnau o gyllidebau eraill er mwyn cynnal y gwasanaeth iechyd yn ystod y flwyddyn ariannol hon a'r flwyddyn ariannol nesaf.
Dywedodd Eluned Morgan ei bod yn "siomedig bod meddygon iau wedi pleidleisio dros weithredu diwydiannol, ond rydym yn deall cryfder teimladau ymhlith aelodau'r BMA".
"Ry'n ni'n dymuno mynd i'r afael â'u huchelgais i adfer cyflogau, ond mae ein cynnig ar lefel uchaf y cyllid sydd ar gael i ni ac yn adlewyrchu'r penderfyniad y daethon ni iddo gyda'r undebau iechyd eraill," meddai.
"Byddwn ni'n parhau i bwyso ar lywodraeth y Deyrnas Unedig i drosglwyddo'r cyllid angenrheidiol ar gyfer codiadau cyflog llawn a theg i weithwyr y sector cyhoeddus."
Ychwanegodd eu bod yn "parhau i fod wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol â Chymdeithas Feddygol Prydain a chyflogwyr y Gwasanaeth Iechyd, ac ry'n ni'n ddiolchgar iddyn nhw am gydweithio i sicrhau diogelwch cleifion yn ystod y streic.
"Dydyn ni ddim yn disgwyl i weithgareddau nad ydyn nhw'n rhai brys a gweithgareddau dewisol gael eu cynnal yn ystod y cyfnod yma. Y disgwyl yw y bydd gwasanaethau yn debyg i'r rhai sy'n cael eu darparu'n gyffredinol ar Ŵyl Banc.
"Fodd bynnag, os oes gennych angen clinigol i fynd i adran achosion brys, dylech barhau i wneud hynny.
"Ry'n ni'n annog pawb i ystyried yr opsiwn gorau iddyn nhw, gan gynnwys y gwasanaeth 111 ar-lein neu dros y ffôn, neu eu fferyllfa leol."
Os ydy streic y meddygon iau wedi effeithio arnoch chi mewn unrhyw ffordd cysylltwch gyda cymrufyw@bbc.co.uk i rannu eich stori
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd4 Awst 2023