Streic meddygon iau i gael effaith ar driniaethau

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dr Lowri Thomas ym mis Ionawr: 'Streicio er mwyn y cleifion'

Mae pennaeth y gwasanaeth iechyd yng Nghymru'n rhybuddio bod disgwyl i streic gan feddygon iau gael effaith sylweddol ar wasanaethau'r wythnos hon.

Bydd aelodau Cymdeithas Feddygol y BMA yng Nghymru yn gweithredu'n ddiwydiannol am dridiau o ddydd Mercher fel rhan o'r ymdrech i sicrhau cyflogau uwch.

Dyma'r eildro eleni iddyn nhw streicio.

Dywed Judith Paget, pennaeth y GIG yng Nghymru, y bydd gofal brys mewn achosion sy'n bygwth bywyd yn parhau i gael ei ddarparu a bydd y streic ond yn effeithio ar lawdriniaethau sydd ddim yn achosion brys.

"Rydyn ni'n disgwyl y bydd y streic yn cael effaith sylweddol ar weithgareddau nad ydynt yn rhai brys a gweithrediadau dewisol wrth i nifer o driniaethau gael eu gohirio," meddai.

Yn ôl y BMA, maen nhw wedi penderfynu cynnal rhagor o streiciau "oherwydd nad ydi Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnig sy'n ddigon da i ddod â'r anghydfod i ben".

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn awyddus i adfer lefelau tâl, ond bod angen rhagor o arian gan Lywodraeth y DU er mwyn gallu gwneud hynny.

Mae'r aelodau wedi cael cynnig codiad o 5% gan Lywodraeth Cymru ond mae hynny'n is na'r 6% sy'n cael ei argymell gan y corff taliadau annibynnol.

Mae meddygon iau'r BMA yn dweud hefyd bod eu cyflogau wedi gostwng bron i draean yn ystod y pymtheg mlynedd diwethaf.

Ffynhonnell y llun, ANDY RAIN/EPA-EFE/REX/SHUTTERSTOCK

Dywed cadeiryddion pwyllgor meddygon iau BMA Cymru: "Mae meddyg ar ddechrau gyrfa yng Nghymru yn ennill cyn lleied â £13.65 yr awr ac am hynny fe allen nhw fod yn cyflawni triniaethau sy'n achub bywyd ac yn ysgwyddo lefelau anferthol o gyfrifoldeb."

Mae bron i 4,000 o feddygon iau yng Nghymru, sef 40% o'r gweithlu meddygol.

Maen nhw'n feddygon sydd wedi cymhwyso, ac yn cynnwys y rheiny sydd newydd adael y brifysgol hyd at y rheiny sydd wedi bod yn y swydd am flynyddoedd lawer.

Mae pob meddyg sy'n dal i hyfforddi - boed hynny'n hyfforddi i fod yn feddyg teulu neu'n ymgynghorydd mewn ysbyty - yn cael ei ystyried yn feddyg iau.

O'r 65% o feddygon iau a bleidleisiodd yn ystod y balot ar weithredu diwydiannol y llynedd, fe benderfynodd 98% eu bod o blaid streicio y gaeaf hwn.

'Gweld y GIG o ochr wahanol'

Yn y cyfamser wrth siarad ar raglen Bore Sul Radio Cymru dywedodd yr economegydd iechyd yr Athro Ceri Phillips sydd bellach yn is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ei fod bellach yn "gweld y gwasanaeth iechyd o ochr gwbl wahanol".

Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr economegydd Ceri Phillips sydd bell yn is-gadeirydd bwrdd iechyd ei fod yn 'gweld y GIG o ochr gwbl wahanol'.

"Cynt roeddwn i'n asesu y gwasaneth iechyd o'r tu allan ond o fod bellach yn is-gadeirydd y bwrdd iechyd dwi'n sylweddoli faint o waith y mae'r bobl yn y gwasanaeth iechyd yn 'neud.

"Y broblem yw bod y storis sy'n dod mas yn cyfeirio at beth mae'r gwasanaeth iechyd ddim yn 'neud, y pethe gwael ond pryd wyt ti mewn yn y sefyllfa ti'n gweld be ma' doctors, nyrsys ac eraill yn ei wneud bob dydd i drio gwella iechyd pobl ac maen nhw'n eitha llwyddiannus.

"Mae'r GIG wedi bod yn rhy llwyddiannus. Mae pobl yn byw nawr lot yn hwy nag oedden nhw flynyddoedd yn ôl ac felly mae angen mwy o help, gofal a thriniaethau."

O ystyried y galw mawr sydd ar ysbytai ychwanegodd bod rhaid "i ni 'neud pethe'n wahanol".

"Mae'n rhaid sicrhau nad yw pobl na sydd angen triniaeth ysbyty yn mynd yno a sicrhau bod mwy yn cael ei wneud yn y gymuned.

"Mae'n rhaid i ni sicrhau bod GPs yn cael digon o arian i weithredu yn y gymuned fel bod dim pwysau ar ysbytai.

"Ar hyn o bryd os nad yw pobl yn gallu mynd at y meddyg teulu maen nhw'n ffonio'r ambiwlans ac yn mynd i'r ysbyty sydd ar agor 24/7."

Disgrifiad o’r llun,

Meddygon iau ar y linell biced y tu allan i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ym mis Ionawr 2024

Wrth ymateb i streic y meddygon iau dywedodd mai dim ond 5% o gyllid sydd ar gael a gall Llywodraeth Cymru ddim gwneud mwy.

Dywedodd hefyd nad yw'n credu mai troi at y sector breifat yw'r ateb.

Bydd y streic 72 awr yn dechrau ddydd Mercher ac fe fydd streic arall am bedwar diwrnod o ddydd Llun, 25 Mawrth.

Y cyngor gan fyrddau iechyd yw i bobl ddefnyddio gwefan GIG 111 Cymru, dolen allanol i gael gwybodaeth am y gwasanaeth mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion.