Gething a Miles yn mynd benben mewn dadl deledu

  • Cyhoeddwyd
Dadl

Mae'r ddau ymgeisydd yn yr ornest i arwain Llafur Cymru ac i fod yn Brif Weinidog nesaf Cymru wedi mynd benben mewn dadl deledu nos Fercher.

Vaughan Gething a Jeremy Miles yw'r unig ddau ymgeisydd yn y ras i olynu Mark Drakeford.

Ymhlith y testunau trafod yr oedd streiciau meddygon iau a rhestrau aros, terfyn cyflymder o 20mya, cynlluniau Tata Steel ac amaethyddiaeth.

Pan ofynnwyd iddynt am streiciau meddygon iau a rhestrau aros, dywedodd Jeremy Miles "ei bod yn deg i bobl fod eisiau cael eu talu'n deg, a'i bod yn bwysig dechrau deialog," tra dywedodd Vaughan Gething y bydd cyllideb nesaf llywodraeth y DU yn rhoi gwell syniad os bydd mwy o adnoddau ar gael.

Disgrifiad o’r llun,

Jeremy Miles yw'r Gweinidog Addysg a'r Iaith Gymraeg ar hyn o bryd

Nid oedd y gymeradwyaeth gyntaf i'r naill ymgeisydd na'r llall ond i weithiwr gofal iechyd yn y gynulleidfa a awgrymodd bod angen gwario mwy o arian ar iechyd yn hytrach nag aelodau ychwanegol o'r Senedd - byddai mesur sy'n mynd drwy Senedd Cymru yn gweld cynnydd o 60 i 96.

O ran y terfyn cyflymder 20mya dadleuol, mae Vaughan Gething yn cydnabod bod yna bethau y gallai'r Llywodraeth fod wedi'u gwneud yn wahanol, gan gynnwys y cyfathrebu a'r gweithredu, ond "mae'n ymwneud â gwrando, nid darlithio" meddai, tra dywedodd Jeremy Miles ei bod hi'n bwysig gwrando ar yr hyn sydd gan bobl i'w ddweud ar y mater ond nad yw'n bwriadu gwrthdroi'r polisi.

Does dim gobaith y bydd ffordd liniaru'r M4 yn cael ei hatgyfodi, meddai'r ddau ymgeisydd.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Vaughan Gething yn weinidog iechyd yn ystod y pandemig, ac mae nawr yn gyfrifol am yr economi

Wrth gael ei holi am gynlluniau Tata Steel i gau'r ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot, dywedodd Mr Miles fod dur yn "sylfaenol i economi Cymru", ac mae'n galw am arloesi yn y diwydiant dur er mwyn ei gadw'n fyw.

Dywedodd Mr Gething, tra bod yno ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot yn ogystal â'r potensial ar gyfer llywodraeth newydd yn San Steffan, yna dylid cadw'r sgwrs yn fyw am barhau â'r gwaith yno.

Dywedodd y ddau ymgeisydd eu bod yn deall pryderon ffermwyr.

Dywedodd Mr Gething fod yr ymgynghoriad yn parhau a'i bod yn bwysig i'r llywodraeth fod yn hyblyg yn eu hymagwedd, tra dywedodd Mr Miles bod "angen i ni sicrhau bod deialog yn parhau," gan ychwanegu bod hyblygrwydd ar ran y llywodraeth yn bwysig.

Gwrthododd Mr Miles y cyfle i feirniadu Mr Gething am dderbyn rhodd o £200k ar gyfer ei ymgyrch gan gwmni sy'n cael ei redeg gan ddyn a gafwyd yn euog ddwywaith am droseddau amgylcheddol.

Bydd pleidlais aelodau Llafur ac aelodau o sefydliadau cysylltiedig yn cau ar 14 Mawrth.

Bydd arweinydd newydd Llafur Cymru, a fydd yn Brif Weinidog nesaf, yn cael ei gyhoeddi ar 16 Mawrth.

Mae rhaglen arbennig Wales Live i'w gweld ar iPlayer.