Arweinydd Llafur: Pwy yw dewis aelodau ifanc y blaid?
- Cyhoeddwyd
Fe fydd aelodau Llafur Cymru yn dechrau pleidleisio i ddewis arweinydd newydd y blaid wythnos nesaf.
Er y bydd cyfle i aelodau undebau llafur fwrw eu pleidlais hefyd, y disgwyl yw mai aelodau'r blaid fydd y gyfran uchaf o'r bleidlais, gyda thua 16,000 yn dewis rhwng , dolen allanol neu Vaughan Gething.
Ymhlith y rheiny fydd aelodau Llafur Ifanc, rhwng 14 a 27 oed, fydd yn rhan o'r bleidlais i ddewis prif weinidog nesaf Cymru.
Hyd yma yn y ras, does fawr ddim gwahaniaeth rhwng y ddau ymgeisydd o safbwynt polisi.
Mae gan y ddau gefnogaeth - sy'n gwneud hi'n anodd ar hyn o bryd i weld pwy sydd ar y blaen.
"Cyn edrych ar y polisïau a sut ma' nhw'n edrych o flaen y media, fi'n edrych ar y person a dwi'n meddwl fod gan Jeremy y qualities 'da ni mo'yn fel arweinydd nesa' Llafur Cymru," meddai Dafydd Rizzo, sy'n aelod o Lafur ifanc.
"Mae e' di buddsoddi £2m yn fwy mewn iechyd meddwl mewn ysgolion... mae e' 'di dod â phleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed.
"Ond dwi'n teimlo mae angen edrych i ffwrdd os mai fe fyddai'r prif weinidog hoyw cyntaf... ydy mae'n really symbolaidd ond dyw hynna ddim yn gwneud e'n wahanol fel person, fel arweinydd gwahanol."
Fe fydd yn etholiad hanesyddol pwy bynnag fydd yn fuddugol - Jeremy Miles fyddai'r prif weinidog hoyw cyntaf, a Vaughan Gething fyddai prif weinidog du cyntaf Cymru.
"Dwi ddim yn ei gefnogi dim ond ar y ffaith mae e'n ddu, ond mae hynna'n ffactor da, achos mae e wedi cael first-hand experience gyda hiliaeth pan oedd yn ifanc fel fi," meddai Bowen Cole, aelod arall o Lafur Ifanc.
"Os bydd rhywun yn gwybod sut i ddelio â hiliaeth, dwi'n credu mai fe yw'r un i wneud e."
'Siomedig' nad oes menyw'n ymgeisio
Does dim menyw yn y ras. Ac i un aelod ifanc, fydd hefyd yn ymgeisydd yn yr etholiad cyffredinol, mae'r blaid wedi colli cyfle.
"Mae e'n siomedig does dim mwy o fenywod yn teimlo nad ydyn nhw'n gallu bod mewn swydd mwy arweinyddol," meddai Joanna Stallard.
"Ond dwi'n deall pam dydy menywod ddim yn trio bod yn arweinydd.
"Nes i ffeindio fe'n anodd i benderfynu i fod yn ymgeisydd yn yr etholiad eleni... dwi'n gwybod y bygythiadau sydd ar-lein."
Vaughan Gething fydd yn cael ei phleidlais hithau.
Yn ôl Mr Gething, mae am weld y gall pobl ifanc fod yn llwyddiannus: "Dwi am i bobl fod yn llwyddiannus yng Nghymru... i wneud yn siŵr nad oes rhaid i chi adael i sicrhau hynny.
"Ond hefyd mae'n bwysig gwrando ar obeithion ac uchelgeisiau pobl ifanc i greu gwlad rydan ni eisiau byw ynddi gyda'n gilydd."
Dywed Jeremy Miles y byddai ganddo "syniadau newydd" i Gymru fel prif weinidog.
"Rwy'n credu bod gyda fi syniadau newydd, ffresh a ffyrdd newydd o weithio hefyd a fydd yn cynnig cyfle da i Gymru dros y cyfnod nesa 'ma," meddai.
Mae Mr Gething wedi sicrhau cefnogaeth y prif undebau ond mae Jeremy Miles wedi derbyn mwy o gefnogaeth ymhlith cyd-aelodau'r Senedd yn y Bae.
Fe fydd y bleidlais yn agor ar 16 Chwefror gan barhau yn agored tan 14 Mawrth.
Mae disgwyl i'r blaid gyhoeddi pwy yw'r arweinydd newydd ar 16 Mawrth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2023