Arweinydd Llafur nesaf: Pwy yw Jeremy Miles?
- Cyhoeddwyd
Ymhen ychydig oriau, fe gawn ni wybod pwy yw arweinydd nesaf Llafur Cymru a'r un a fydd yn dod yn brif weinidog.
Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething a'r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles sydd wedi bod yn ceisio denu cefnogaeth y tua 16,000 o bobl oedd yn gymwys i bleidleisio.
Ond beth ydyn ni'n ei wybod am y ddau sydd eisiau olynu Mark Drakeford?
Dyma olwg ar fywyd a gyrfa Jeremy Miles hyd yn hyn.
Dydy Rebecca Miles Harpwood ddim yn cofio cecru gyda'i brawd mawr o gwbl pan roedd y ddau'n blant yn tyfu i fyny.
"A'r rheswm am 'na oedd oherwydd hyd yn oed yn fachgen ifanc roedd fy mrawd â'r gallu yma i allu rhesymu, o berswadio rhywun, o ddangos bod yna ffordd arall, yn hytrach na dadlau," meddai.
"Ac wrth gwrs mae e wedi gallu defnyddio'r sgiliau yna ers hynny."
Mae Jeremy Miles yn troi at y sgiliau yna eto nawr yn y gobaith o gael ei ethol yn Arweinydd Llafur Cymru ac yn Brif Weinidog.
Ganwyd Jeremy Miles ym 1971 a chafodd ei fagu ym Mhontarddulais mewn teulu dosbarth gweithiol.
Roedd ei ddau dad-cu yn wleidyddol, gydag un yn gadeirydd ar hen gyngor sir Gorllewin Morgannwg.
Roedd hwnnw'n enwedig yn "ddylanwad mawr ar fy mrawd," meddai Rebecca, "y syniad yma bod rhywun yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl a rhoi'r tegwch yna i bawb."
"A dwi'n meddwl bod y syniad yna o weithio gyda'n gilydd i gyrraedd rhywle wedi ei wreiddio ac wedi sbarduno 'mrawd o oedran ifanc iawn."
Ag yntau'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Ystalyfera - yng nghymuned lofaol Cwm Tawe - yn ystod yr 80au, cafodd Jeremy Miles ei ddylanwadu hefyd gan streic y glöwyr.
"Roedd y sgwrs yn aml iawn yn troi o gwmpas gwleidyddiaeth a dealltwriaeth o wleidyddiaeth y chwith yn yr 80au yng nghyd-destun hanesyddol - roedd hwnna wastad yn rhywbeth oedd yn exciting iawn iddo fe," meddai'r cyfarwyddwr teledu Euros Lyn, oedd yn un o ffrindiau agosaf Jeremy Miles yn yr ysgol.
"Roedd e mor ddeallus a chydwybodol. Roedd e wastad ar dop y dosbarth ym mhob peth."
Aeth Jeremy Miles i Brifysgol Rhydychen i astudio'r gyfraith.
Yn ystod ei gyfnod yn y coleg daeth allan fel dyn hoyw.
Ei chwaer Rebecca oedd aelod cyntaf y teulu i gael gwybod: "Roedd e'n dipyn o sioc a dweud y gwir.
"Fy ymateb cyntaf i wrth gwrs oedd, 'waw, rwy mor falch bod ti'n teimlo bod ti wedi gallu ymddiried yndda'i, a dyw e ddim yn gwneud unrhyw wahaniaeth i fi o gwbl'."
Ond roedd hi'n fwy anodd i rieni Mr Miles ddod i delerau â'r newyddion.
Serch hynny mae'n dweud bod ei berthynas gyda'i fam a'i dad wedi dod yn fwy agos o ganlyniad.
Yn dilyn cyfnod yn darlithio yng Ngwlad Pwyl, gweithiodd Jeremy Miles yn Llundain fel cyfreithiwr i gwmnïau teledu ITV a NBC Universal.
Daeth ei ymdrech gyntaf i gael ei ethol yn wleidydd pan safodd yn etholiad cyffredinol 2010 dros y Blaid Lafur yn Beaconsfield yn Sir Buckingham - etholaeth ddiogel i'r Ceidwadwyr.
Daeth Mr Miles yn drydydd - bron i 26,000 o bleidleisiau y tu ôl i'r enillydd, Dominic Grieve.
Ceisiodd wedyn am enwebiad Llafur yn Aberafan ar gyfer etholiad cyffredinol 2015, gan golli i Stephen Kinnock o un bleidlais.
Ac felly fe drodd ei olygon at Fae Caerdydd a chael ei ethol yno yn 2016, a'i benodi i gabinet Carwyn Jones flwyddyn yn ddiweddarach fel y Cwnsler Cyffredinol.
Alun Davies oedd y gweinidog llywodraeth leol ar y pryd. "Roedd e'n heavyweight yn y cabinet," dywedodd.
"Roedd pobl yn gwrando pan roedd e'n siarad.
"Doedd e ddim yn darllen nodiadau, roedd e'n gwybod yn union beth roedd e eisiau ei ddweud."
Am gyfnod wedyn Jeremy Miles oedd yn gyfrifol am bolisi Brexit Llywodraeth Cymru, cyn cael ei benodi'n weinidog addysg yn 2021.
Dydy Euros Lyn ddim yn synnu bod Mr Miles bellach yn cystadlu am yr arweinyddiaeth.
"S'neb yn gwybod yn yr ysgol lle mae neb yn mynd i fynd," meddai Euros, "ond roedd ei rinweddau e'n amlwg iawn."
"Roedd ei ddeallusrwydd e, ei egwyddorion e, ei empathi e a'i allu e i ddeall safbwyntiau pobl eraill yn rhinweddau rhagorol i fod yn arweinydd.
"Felly nawr, yn gallu edrych nôl, mae'r rhinweddau yna'n amlwg yn gaffaeliad i'r swydd mae e'n chaso."
Ac yn ôl Alun Davies, "roedd hi'n glir reit o'r dechre" bod Mr Miles yn "arweinydd i'r dyfodol".
Mae'n dweud bod gallu Jeremy Miles i drin pobl yn ei atgoffa o gyn-brif Weinidog Cymru Rhodri Morgan, ond ei fod hefyd yn gydwybodol ac yn "gwneud ei waith cartref" fel prif weinidog presennol Cymru Mark Drakeford.
Bydd Mr Miles yn gobeithio bod hynny'n argoeli'n dda i'w obeithion o ddilyn yn ôl traed y ddau ŵr yna.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth
- Cyhoeddwyd7 Chwefror
- Cyhoeddwyd4 Chwefror