Miles a Gething yn mynd benben mewn dadl deledu

  • Cyhoeddwyd
Vaughan Gething a Jeremy MilesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Vaughan Gething a Jeremy Miles yn mynd benben mewn dadl deledu nos Fercher

O Richard Nixon yn chwysu dan y camerâu nôl yn y 60au, i Gordon Brown a David Cameron yn eiddgar i swyno'r Democratiaid Rhyddfrydol gyda "I agree with Nick [Clegg]" cyn etholiad 2010.

Neu efallai Donald Trump yn prowlan y llwyfan o gylch Hillary Clinton yn ras arlywyddol 2016.

Ydi, mae rhai dadleuon teledu yn sicr wedi hawlio'u lle yn y llyfrau hanes, a'u dylanwad ar y bleidlais yn cael ei drafod hyd heddiw.

Go brin y bydd yr ornest rhwng Jeremy Miles a Vaughan Gething yn cael y fath sylw rhyngwladol, ond nos Fercher cawn gyfle i weld y ddau sydd eisiau bod yn brif weinidog nesaf Cymru yn cytuno neu'n anghytuno ar bolisïau a blaenoriaethau o flaen cynulleidfa fyw.

Cyfle i fesur y gwario a'r addewidion, ond hefyd gobeithio i ddysgu mwy am natur, gwerthoedd a phersonoliaeth dau ddyn sy'n hyderus eu bod nhw'n barod i arwain y genedl.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jeremy Miles yw gweinidog y Gymraeg ac addysg Llywodraeth Cymru

Wrth gael eu holi'n unigol yr wythnos ddiwethaf roedd hi'n amlwg bod timau'r ddau yn awyddus iawn i'w paratoi yn drwyadl.

Roedd 'na holi mawr a fydd 'na gyfle i wneud sylwadau agoriadol? Pwy fydd yn cloi? Fydd 'na stôl? Fydd 'na le i nodiadau ar y podiwm?

Oes, mae 'na ymarfer mawr ar y negeseuon craidd a'r atebion fydd yn 'glanio' gyda'r gynulleidfa.

Wrth ruthro o gyfarfod i gyfweliad, o brotest i hystings, mae'r ddau yn sicr yn mynd amdani yn y ras yma.

Y ddau yn sôn am golli cwsg, am fachu pob cyfle i ffonio teulu ac am fwyta gormod o frechdanau garej wrth groesi Cymru. Mae'r stamina ar brawf.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Vaughan Gething yn weinidog iechyd yn ystod y pandemig ac mae nawr yn dal briff yr economi

"Ry'n ni'n hyderus ond mae hi'n hynod agos," meddai un.

Mae hi "yn y bag" meddai'r llall, cyn honni'n frysiog wedyn mai jôc oedd hynny.

Canran fach iawn o'r boblogaeth sydd â llais yn yr etholiad yma - aelodau Llafur yng Nghymru a'r undebau sy'n gysylltiedig â'r blaid.

Cyfanswm o ryw 120,000 o bobl, er does neb yn hollol siŵr, a does dim disgwyl i'r mwyafrif o'r rheiny bleidleisio beth bynnag.

Dau ddyn o'r un blaid, dau aelod o'r un cabinet - mae hi'n amlwg bod 'na fwy yn uno nag yn gwahanu'r ddau weinidog yma.

Pwysleisio profiad mae Vaughan Gething, tra bod Jeremy Miles yn honni fod ganddo gynlluniau mwy manwl i wireddu ei addewidion.

Pwy felly sydd â'r cythraul i gyrraedd y brig, a'r apêl i ddenu'r rheiny sydd eto i benderfynu?

Gobeithio y bydd 'na gyfle nos Fercher i fynd heibio'r consensws i dyrchu am y dewis yn yr ornest allweddol yma.

Efallai y bydd 'na chwysu a chytuno, ond mae un peth yn sicr, wedi awr o drafod, fe fydd y ddwy garfan yn hawlio buddugoliaeth.

Bydd rhaglen arbennig Wales Live yn fyw am 21:00 nos Fercher ar BBC One Wales.

Pynciau cysylltiedig