Mam yn cefnogi gwahardd gyrwyr meddw ar ochr y ffordd

  • Cyhoeddwyd
Miriam BriddonFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Miriam Briddon ei lladd mewn gwrthdrawiad ger Ciliau Aeron yn 2014

Mae mam menyw ifanc o Geredigion gafodd ei lladd gan ddyn oedd wedi bod yn yfed a gyrru yn cefnogi rhoi'r hawl i'r heddlu wahardd gyrwyr dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau ar ochr y ffordd.

Mae penaethiaid heddlu wedi dechrau trafod mathau posib o brofion a'r newidiadau cyfreithiol a fyddai eu hangen er mwyn cyflwyno'r newid.

Un o gefnogwyr y syniad yw Ceinwen Briddon, sy'n ymgyrchu am gosbau llymach am yfed a gyrru ers i yrrwr meddw achosi marwolaeth ei merch 21 oed, Miriam, yn 2014.

Roedd Ms Briddon yn rhan o ymgyrch flaenorol a arweiniodd at roi'r hawl yn 2022 i farnwyr roi dedfryd oes i yrwyr sy'n lladd tra dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol.

Pum mlynedd o garchar oedd y ddedfryd i'r gyrrwr a laddodd Miriam Briddon mewn gwrthdrawiad ger Ciliau Aeron.

Plediodd Gareth Entwhistle yn euog i achosi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal dan ddylanwad alcohol, ac fe gafodd ei ryddhau o'r carchar hanner ffordd trwy'r ddedfryd.

Cafodd hefyd ei wahardd rhag gyrru am bum mlynedd.

'Dylai'r ddedfryd adlewyrchu'r drosedd'

"Buaswn i'n herio unrhyw un i ddweud wrtha'i sut fysan nhw'n teimlo pe tasen nhw wedi lladd person," dywedodd Ceinwen Briddon.

"Sut fysan nhw'n teimlo tasen nhw wedi chwalu bywyd teulu? Gallen nhw fyw gyda'r syniad o bobl yn eu casáu, neu oroesi cyfnod maith yn y carchar?

"Rwy'n teimlo'n gryf y dylai hyd y ddedfryd adlewyrchu'r drosedd."

Disgrifiad o’r llun,

Fe gyflwynodd teulu Miriam Briddon ddeiseb yn Downing Street yn 2016 yn galw am gosbau llymach am ladd trwy yfed a gyrru

"Fe fyddai'r gallu i wahardd pobl am yrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau ar bwys ffordd yn golygu cael tynnu'r risg yna o'r ffordd yn syth," meddai'r swyddog sy'n arwain ar blismona'r ffyrdd ar draws y DU, Prif Gwnstabl Heddlu Sussex, Jo Shiner.

"Ac hefyd y bobl hynny heb y gallu i fod wrth y llys, yn enwedig os maen nhw ymhell dros y terfyn cyfreithiol."

Mae hi hefyd yn galw am sawl cam arall, gan gynnwys atafaelu cerbydau pobl sy'n euog o yrru dan ddylanwad, gwneud defnydd llawn o'r pwerau dedfrydu presennol a'r posibilrwydd o erlyn gyrrwr o lofruddiaeth.

Dywedodd: "Rwy' wir yn credu os yw rhywun yn gwneud penderfyniad i yrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, bod hwnnw'n benderfyniad ymwybodol i fynd i mewn i gerbyd a chreu risg i bobl eraill."

Pynciau cysylltiedig