Cynghorydd trais yn erbyn menywod wedi cael ei threisio
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorydd cenedlaethol Cymru ar drais yn erbyn menywod wedi datgelu ei bod hi ei hun wedi cael ei threisio.
Dywedodd Johanna Robinson wrth BBC Cymru ei bod hi'n rhannu ei phrofiad am y tro cyntaf "ar ran yr holl bobl sydd ddim yn gallu, neu'n penderfynu peidio siarad" am y peth.
Mae elusennau wedi canmol Ms Robinson am drafod ei phrofiadau'n agored.
Yn ôl ystadegau diweddaraf heddluoedd Cymru, cafodd 67,983 o achosion o dreisio eu cofnodi yng Nghymru a Lloegr yn y flwyddyn hyd at ddiwedd Medi 2023.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn gobeithio sicrhau mai Cymru yw'r wlad fwyaf diogel i ferched drwy Ewrop.
'Doeddwn i ddim yn gallu gwneud synnwyr o'r peth'
Mae Ms Robinson yn honni iddi gael ei threisio yn ei 20au, gan ddyn roedd hi'n ei adnabod, tra'r oedd hi'n cysgu.
Fe gymrodd amser, meddai, i ddeall beth oedd wedi digwydd. "Roeddwn i'n gwybod bod rhywbeth wedi digwydd i mi ond doeddwn i ddim yn gallu rhoi llais i'r profiad.
"Doedd neb wedi egluro wrtha i beth oedd achos o dreisio... roeddwn i'n meddwl mai rhyw nad oeddwn i ei eisiau oedd e, ond wrth gwrs, dyna ydi treisio."
Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, fe gysylltodd hi gyda'r heddlu. Chafodd neb ei erlyn ond mae'n dweud bod y swyddog heddlu wedi bod yn "arbennig" ac mae hi'n annog pobl "i ddefnyddio'r system gyfiawnder".
Mae hi wedi rhannu ei phrofiadau gyda'r heddlu er mwyn helpu gyda hyfforddiant a gyda phobl yn ei gwaith.
Dywedodd wrth raglen Wales Live: "I'r rheiny sydd wedi cael profiadau fel yma sy'n ystyried dweud rhywbeth, mae'n bosib y byddan nhw'n teimlo y gallan nhw siarad os ydyn nhw'n gallu uniaethu â rhywun.
"Does dim rhaid i chi ei ddweud e i'r hyn sydd wedi digwydd fod yn wir.
"A'r peth arall ydi hyd yn oed os nad ydi rhywbeth fel hyn wedi digwydd i chi, dwi eisiau pobl i wybod bod hyn yn digwydd a chefnogi pobl sydd yn penderfynu siarad yn agored.
"Dwi'n gwneud hyn gan fy mod i eisiau i hyn stopio."
Ym mis Medi 2023, fe siaradodd Johanna yn gyhoeddus am y profiad o gael ei haflonyddu gan ddyn mewn gêm bêl-droed rhwng Caerdydd ac Abertawe.
Dywedodd ei bod hi'n teimlo "cyfrifoldeb" i siarad ond ei bod yn disgwyl i bobl ei beirniadu am wneud hynny.
Er bod nifer o bobl wedi bod yn gefnogol, dywedodd ei bod wedi gweld rhai sylwadau oedd yn dweud ei bod hi'n "rhy hen a hyll i gael ei haflonyddu".
Mae'n dweud bod 'na gyfrifoldeb ar bawb i ddelio â thrais yn erbyn merched a dynion.
'Oes o stigma i rai'
"Mae clywed rhywun yn rhannu be' ddigwyddodd iddi yn bwerus iawn, iawn pan mae'n cael ei wneud mor huawdl ag y mae Johanna wedi gwneud," dywedodd Ann Williams o'r linell gymorth Byw Heb Ofn.
Mae gweld bod y fath beth wedi digwydd i rywun o statws Ms Robinson, meddai, yn gwneud i bobl sylweddoli "gallai o ddigwydd i unrhyw un" ac yn "gwneud i'r peth deimlo'n fyw iawn".
"Mae'n gallu teimlo i rai bod rhaid cadw'r peth tu ôl i ddrysau caëedig, nad oes modd ei rannu a fydd neb yn deall. Mae yna lot o drawma i bobol sy'n mynd trwy hynna ond pan 'dach chi'n clywed rhywun yn ei rannu mae'n rhoi hyder o ran pwnc sydd wir yn dabŵ."
"Cywilydd a stigma 'dan ni'n clywed amdano o hyd, ac mae o weithia' yn oes o stigma i bobol, a falle wnawn nhw byth siarad amdano.
"Mae rhai pobol ond yn teimlo bod nhw'n gallu siarad efo ni ar linell gyfrinachol a 'dan ni'n clywed hynny'n aml. Mae'n haws na siarad amdano efo partner neu aelod o'r teulu.
"I lawer maen nhw'n ysgwyddo baich ac mae'n wych i gael y neges gan Johanna bod o'n iawn i'w drafod efo pwy bynnag maen nhw'n penderfynu siarad efo nhw.
"Mae Johanna yn fodd i rywun deimlo'r hawl yna a bron wedi cael caniatâd i'w drafod. Maen nhw'n aros am olau gwyrdd sy'n dweud 'mae'n iawn i mi ei rannu hefyd'."
'Anodd dweud y geiria'
Dywedodd Ann Williams, o siarad gyda phobl ar y linell gymorth, bod hi'n gyffredin i bobl fethu â sylweddoli eu bod wedi dioddef achos o dreisio.
Mae'r gwasanaeth yn eu helpu i ddeall "beth ydy trais, beth ydy cydsyniad a sut mae rhoi a thynnu cydsyniad yn ôl".
"'Dan ni'n deall yn iawn pam mae hi mor anodd i roi mewn geiria' be' ddigwyddodd, hyn yn oed os ddigwyddodd flynyddoedd yn ôl, ond mae pobol yn gallu siarad efo ni ar eu cyflymder eu hunain."
Ychwanegodd bod hi'n "haws i rai pobol" ddisgrifio'u profiadau mewn ebost neu neges "achos mae hi mor anodd i ddweud y geiria' a bod modd i unigolion wneud hynny".
Mae trais yn erbyn menywod a genethod yn drosedd gymhleth, medd y prif gwnstabl sy'n arwain ar y mater yng Nghymru.
Mae'r sefyllfa hefyd yn newid, medd Amanda Blakeman, Prif Gwnstabl Gogledd Cymru, wrth i gymdeithas a thechnoleg ddatblygu.
"Mewn 32 o flynyddoedd, 'dwi wedi gweithio ym maes diogelu'r cyhoedd a throseddu rhywiol," meddai. "Rydym mewn sefyllfa well o lawer nag erioed ond dydw i ddim yn hunanfodlon."
Mae yna flaenoriaeth, meddai, i raglenni gyda troseddwyr mewn ymgais i dorri cylch o gam-drin eraill.
"Ni ddylai fyth fod yn gyfrifoldeb ar ddioddefwyr i'w stopio. Cyfrifoldeb troseddwyr yw deall bod eu hymddygiad yn gwaethygu."
Mwy am y stori yma ar raglen Wales Live ar BBC iPlayer.
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror
- Cyhoeddwyd22 Medi 2023
- Cyhoeddwyd18 Medi 2023
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2023